Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwelyau

gwelyau

AR LWYNI (aeron) GWELYAU BLODAU

Cysga'r gweision yn y tai allan (outbuildings), gan fyned i'w gwelyau pan fynnont; gofyn y morwynion am ganiatâd i fyned allan yn y nos ac yna cyferfydd y dynion â hwynt yn y tafarndai; yn y ffordd hon ceir llawer o anfoesoldeb.

Nid wyf yn cofio ddim rhagor, ond ein bod wedi mynd i'n gwelyau yn go hwyr, ond cyn i ni gysgu, dyma gloch Anti yn swnio, am y tro cyntaf, a'r dro diwethaf hefyd.

Y Prawf - Fe lwyddodd newyddiadurwraig i gerdded i mewn i'r ysbyty heb i neb holi dim iddi; troi i'r dde ac yn syth i mewn i ward Llifon ac at y gwelyau a'r babanod.

Y ffwrnesi mawrion a'u geneuau aethus yn chwydu allan golofnau mwg a fflamiau troellawg cymysgedig a gwreichion i'r nwyfre, ac megys o dan ei seiliau yn tarddu allan gornentydd tanllyd o feteloedd yn llifo i'w gwelyau, y peirianau nerthol yn chwythu iddynt trwy bibellau tanddaiarol fel pe bai diargryn wedi talu ymwdiad a'r dyffryn .

Yn Lloegr y mae merched amaethwyr yn barchus; yng Nghymru y maent yn gyson yn caru yn eu gwelyau.

Gosodais y gwely i lawr yng nghanol y cwt a rhoddais f'enw arno, ac yna brysiais yn ôl i ofalu am y gwelyau eraill a nifer o baciau a safai gerllaw.

O'm cwmpas, y tu mewn i'r tren, mae cerdded mawr yn digwydd, er bod mater y gwelyau bellach wedi ei setlo.

Wedi iddynt fwyta pryd da, cododd Pierre, Mi awn i'n gwelyau,' meddai, cawn orffwys fory beth bynnag.' Arweiniodd y ddau i fyny grisiau llydain.

Y bora arbennig hwn, a'r tywydd yn oer, mam yn ei gwely efo 'asthma' a ninnau'r plant yn ein gwelyau, neu'n chwara'n y llofft, dyma lais nhad fel angel o waelod y grisiau (parch i mam am ei bod hi'n sâl) "Lle ma' nghrys i Jini?" mam yn ateb â gwich yn ei llais, "Yn yr 'airing cupboard' Charles." Nhad yn rhuthro i fyny'r grisiau, 'roedd yr 'airing cupboard' ar y landing, dros ffordd i lle'r oedd Mam yn cysgu.

Yn ystod y mis, gall y garddwr baratoi'r pridd ar gyfer y planhigion sydd i'w plannu allan mewn borderi a gwelyau megis y blodau unflwydd fel mynawyd y bugail ac ati.

Hen deipiaduron, cadeiriau gyda'i sbringiau'n dod i'r golwg, gwelyau rhydlyd - roedd y plant yn neidio drostyn nhw, yn sathru arnyn nhw ac yn rhedeg o'u cwmpas.

Roedd hi'n ddau o'r gloch y bore ar y ddau yn mynd i'w caban a chan nad oedd y gwelyau cyfyng yn addas iawn ar gyfer gweithgareddau carwriaethol, rhoes Merêd y syniad o geisio ailgynnau nwydau Dilys o'r neilltu am y tro.

Dros y blynyddoedd diwethaf bu rhywbeth tebyg yn digwydd ar rigiau olew ym Môr y Gogledd - ond nad desgiau oedd gweithwyr yn eu rhannu yno ond gwelyau fel y mae'r term Hot-bunking yn ei awgrymu.

Rheswm arall oedd yr arferiad gwrthun o dyrru pobl priod a sengl o'r ddau ryw yn yr un ystafelloedd gwely, ac yn aml iawn mewn gwelyau nesaf at ei gilydd heb un llen rhyngddynt.

Aeth pawb yn ôl i'w gwelyau.