Gan mai dydd Gwener oedd hi roedd yn rhaid iddo roi stop ar bopeth am wyth o'r gloch (hynny yw peidio â syllu'n wag ar y bocs tra sticiai ei ddychymyg binnau i ddelw gŵyr o Bethan) a mynd ar draws y comin i nôl Catrin o'i dosbarth bale.
Ddydd Gwener, a hithau'n boeth, roedd y drysau a'r ffenestri ar agor ac mae'r brif fynedfa ar agor i ymwelwyr rhwng dau a chwech y prynhawn a rhwng saith ac wyth i dadau.
Daw'r bygythiad wrth i gwmni Alchemy a dynnodd eu cynnig nhw'n ôl i brynu Rover ddydd Gwener ddweud eu bod yn fodlon ailddechrau trafod gyda BMW.
Wrth arwyddo Cytundeb Belffast (neu Gytundeb Gwener y Groglith) roedd prif bleidiau gwleidyddol y gogledd, a holl bobl Iwerddon trwy refferendwm ddiwedd mis Mai eleni, yn derbyn y lle blaenllaw a roddwyd i'r Wyddeleg yn y Cytundeb.
Ddydd Gwener diwetha', fe aeth tri o ohebwyr Golwg i mewn i dri ysbyty mewn gwahanol rannau o Gymru a cheisio cyrraedd wardiau'r babanod.
Y GROGLITH: Eto, eleni bu cyfarfod dwyieithog ar fore Gwener y Groglith, yng ngofal y gweinidog, y Parchedig Huw John Jones, yng Ngharmel.
Ar nodyn fymryn yn fwy llawen, llongyfarchiadau i Paccino am fod y grwp gorau yn yr Esiteddfod Roc yn Aberystwyth brynhawn Gwener.
Un bore Gwener fe welwyd Jim yn crymu o dan bwysau cant o lo ar ei ffordd i gwt glo Ty'r Ysgol yn ystod arddangosiad celfydd i ni'r plant gan y prifathro o grefft taflu lasso.Bu'r demtasiwn yn ormod i'r gwr o Batagonia.
Cafodd ei arestio ddydd Gwener a dywedodd Heddlu'r De ei fod yn byw yng Nghaerloyw, Gloucester, a'r cylch.
Wrth annerch cynhadledd ar Entrepreneuriaeth a Busnesau Bychan yn y Cyfryngau, yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ar ddydd Gwener 8 Hydref bydd HUW JONES, Prif Weithredwr S4C, yn dadlau fod yn rhaid derbyn bod impact economaidd ac effaith bendant S4C ar fusnes a bywoliaethau yn bell gyrhaeddol.
Cyfeirio'r ydoedd at dydd Gwener y Nadolig, Sadwrn gwyl San Steffan, ac wedyn y Sul go-iawn oedd yn dilyn.
Bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Rhodri Morgan yn Transport House, Caerdydd am 3 o'r gloch Dydd Gwener Ionawr 29ain.
Dal i bwyso a mesur y gambl yr ydoedd y bore Gwener hwnnw y tu allan i'r Casa Rosada.
Roedd wedi galw yn nhŷ Ali fore dydd Gwener pan ddywedodd Ali wrtho fod Mary wedi mynd i Lundain ac iddo roi decpunt iddi.
Bydd eu gêm gynta yn y Bencampwriaeth yn dechrau ddydd Gwener yn Northampton.
Graeme Thorpe fydd capten tîm criced Lloegr yn y gyfres o gemau un-dydd yn Sri Lanka fydd yn dechrau ddydd Gwener.
Bydd yr holl elw yn mynd i Plant Mewn Angen sy'n cael ei ddarlledu ddydd Gwener, Tachwedd 17.
Bydd y gyfres o gemau criced undydd rhwng Lloegr a Sri Lanka yn dechrau ddydd Gwener.
Y dyddiad cyntaf posibl i gael pwyllgor oedd y dydd olaf o Awst, sef dydd Gwener, a gwelaf yn awr wrth edrych drwy'r ffeil am y cyfnod, yr hysbysiad o gyfarfod cyntaf oll y Pwyllgor Llyfrau Cymraeg: Is-Bwyllgor o'r Pwyllgor Addysg oedd hwn, fel y dywedwyd, ond sylwch mai'r Llyfrgellydd oedd yn ei alw, a'r Llyfrgell, nid y Swyddfa Addysg, oedd y man cyfarfod.
Y mae Cymdeithas yr Iaith yn siomedig gyda'r modd y datganodd Dafydd Elis-thomas ddydd Gwener yn Eisteddfod yr Urdd nad oedd angen Deddf Iaith Newydd a bod digon o ewyllys da at yr iaith y dyddiau hyn.
Mae enillydd y gêm hon i fod i chwarae John Higgins yn rownd yr wyth olaf ddydd Gwener.
Hefyd, bob nos (Llun-Gwener, amserau'n amrywio) bydd cyfle unigryw i flasu gweithgareddau'r Babell Lên, mewn rhaglen awr neu fwy o hyd.
Dydd Gwener lOfed Bu farw Mr Richard Williams, cyn-swyddog gyda'r Bwrdd Marchnata Llaeth yn y Trallwng.
Mae Morgannwg wedi enwi carfan o ddeuddeg ar gyfer eu gêm bencampwriaeth gynta fydd yn dechrau yn Northampton ddydd Gwener.
Wedi i Alun Michael deithio o Bennal i Fachynlleth ddydd Gwener, Ionawr 21, bydd yn cael ei gyflwyno â dogfen yn dwyn y teitl 'Ail lythyr Pennal'.
Mae ymdeimlad o gefn gwlad i'r ardal ac mi gaiff yr ymwelydd flas ar fywyd sydd heb newid ers canrifoedd - yn enwedig ar bnawn Gwener - heblaw, yng ngwres yr haf - gyda chystadleuaeth ymladd teirw.
Ond yn fwy na hyn roedd y cysylltiad wedi'i wneud ar yr union amser, canol-diwedd yr 1980au, pan roedd newid yn agwedd meddwl arweinwyr Sinn Féin a gweriniaethwyr -- agwedd meddwl a roes fod yn y diwedd i gadoediad yr IRA, ymrwymiad Sinn Féin i egwyddorion Mitchell, a Chytundeb Gwener y Groglith.
Am dri o'r gloch fore Gwener, cyfarfu Siwsan â'i rhieni o Borthmadog yng ngwesty Olga yng Nghaerdydd.
Amser a lle: unfed ffens ar bymtheg, cwrs tair milltir dros y perthi, Sandown Park, dydd Gwener, Tachwedd, mewn glaw mân oer cyson.
Am dri o'r gloch y prynhawn dydd Gwener hwnnw, 'roeddwn i wedi trefnu cyfarfod ag Is-Olygydd llyfrau addysg William Collins.
Glaw Gwener y Groglith - blwyddyn sych.
Un dydd Gwener ar ddiwedd darlith olaf y bore dyma JE Daniel, ar ôl gorffen darlithio ar Athrawiaeth Gristnogol, yn dod ataf ac yn gofyn imi fynd gydag ef y noson honno i annerch cyfarfod y Blaid yn festri Capel Maes y Neuadd, Trefor.
Roedd dydd Gwener y 13eg yn ddyddiad mawr i BBC Radio Wales ym mis Tachwedd 1998.
Iddi hi yr oedd Y Groglith yn fwy defosiynol o lawer a byddai rhaid i ni aros bob amser pan ddeuai'n dri o'r gloch brynhawn Gwener y Groglith i geisio meddwl am Iesu Grist ar y groes rhwng y ddau leidr.
Mae hyfforddwr y Llewod, Graham Henry, wedi dewis ei dîm cyntaf o'r daith yn Awstralia - ar gyfer y gêm yn erbyn Gorllewin Awstralia yn Perth ddydd Gwener.
Yr oeddwn wedi mynd i lawr yn hamddenol braf y prynhawn dydd Gwener, ac ar ôl bwcio fewn i'r gwesty yn siarad gyda ffrindiau cyn cinio ym mar y Belle View Royal Hotel ar y nos Wener heb ofal yn y byd.
Ym Mhatagonia y'i ganed a doedd dim yn well ganddo nag adrodd hanesion - gwir a dychmygol dybia i - am ei blentyndod a'i lencyndod yn y Wladfa, yn enwedig ar brynhawn Gwener pan fyddai ambell un mwy hirben na'i gilydd yn ein plith yn gofyn cwestiwn neu'n gwneud sylw a fyddai'n cyfeirio meddwl 'Pat' i'r cyfeiriad iawn.
Gwnâi hyn bob pnawn Gwener fel cloc.
Dydd Gwener bydd tocynnau ar gyfer yr wyl yn mynd ar werth.
Gwyddom yn dda am gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a'r wythnos hon, cafwyd dychwelyd i Gynulliad Gogledd Iwerddon ar drothwy'r Dyrchafael.
'Hei, Megan, faset ti'n licio dŵad efo mi i Shwsbri ddydd Gwener?'
Bwriedir cyrraedd Llundain erbyn 3.30 brynhawn dydd Gwener Medi 22ain.
Mae disgwyl i Neil Jenkins wella mewn pryd i chwarae yng ngêm gyntaf y Llewod yn erbyn Gorllewin Awstralia ddydd Gwener.
Mae'n gred bendant ymhlith modurwyr fod ambell gar yn un anlwcus, yn enwedig os yw wedi cael ei wneud ar ddydd Gwener.
Roedd yn rhaid cychwyn ar fore Gwener a chael diwrnod i ffwrdd o'r darlithoedd.
Yn y diwedd fe ildiodd y Gymdeithas ac fe all y ddogfen gael ei harwyddo ddydd Gwener.
Caiff y sgrol ei chyflwyno i swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol - Paul Murphy yn Llundain am 3.30pm dydd Gwener.
Y bore Gwener hwn, mae Ariannin yn wlad ddemocrataidd ers chwe blynedd.
Ar Ddydd Gwener yr 20fed o Hydref, gwrthododd un o brif siopau Caerdydd â derbyn siec gan gwsmer - a hynny am ei bod wedi'i hysgrifennu yn Gymraeg.
Mae'r clwb yn agored nos Fawrth, Mercher a Gwener o hanner awr wedi saith hyd at hanner awr wedi naw.
Mae Leeds wedi apelio yn erbyn y gwaharddiad, ond fyddan nhw ddim yn gwybod beth fydd canlyniad yr apêl tan ddydd Gwener.
Ar y dydd Gwener arbennig yma ddês i o'r ysgol yn llawn cyffro, gyda'r newyddion ffantastig am dîm nofio'r ysgol.
Dydd Gwener, Mawrth 9, 2001 Os ydach chi'n llwgu am gerddoriaeth Gymraeg, a hwnnw'n dda, yna dyma'r risêt i chi.
Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol yn Aberystwyth ar Ddydd Gwener a Dydd Sadwrn Mawrth 12ed a'r 13eg.
Ddydd Gwener, cafodd ymgyrch Al Gore ergyd pan ddyfarnodd Y Barnwr Terry Lewis yn Florida na ddylid cynnwys y pleidleisiau sy'n cael eu cyfri gyda llaw.