Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwenu

gwenu

Ewch chi byth i unman heb enw go dda, wyddoch chi.' Gwenu wnes i, wrth gwrs.

Yn wir, y tu allan i'r cylch teuluol roedd iddi enw o fod yn ferch ddelfrydol, bob amser yn gwenu ac yn barod i sgwrsio â phawb; ond amheuai Mali fod ynddi fwy nag ychydig o elfen yr angel pen-ffordd.

Am hynny, ystyria y pethau hyn, fel na chredech dy fod yn well na'r un o'th gyd-ddynion, rhag it wrth feddwl, ddisgyn o'th falchder ar frys, a chael dy frifo mwy wrth ystyried fod gwraig dlawd yn gwenu ar sebon bob dydd gan gofio'r sbort a roddaist iddi.

Tybiais mai'r sefyllfa filwrol oedd yn gyfrifol am hyn, ond yna gwelais un o swyddogion y Cenhedloedd Unedig yn gwenu.

Wedyn, mi fydd pob un ohonoch chi'n medru cael diod." A dyma'r dynion bach od yn edrych ar ei gilydd ac yn gwenu'n braf.

Wrth lwc roedd lle iddo fynd heibio ond arafodd a gwelais wyneb mawr coch yn gwenu drwy'r ffenestr.

Sylwodd Alun fod llygaid ei ffrind yn pefrio ac ni allai beidio ƒ gwenu.

Trodd a gweld y cawr chwe throedfedd a'r graith ar ei wyneb yn gwenu'n hyll arno.

Ymddangosodd pen melyn, yna gwelwn ferch ifanc osgeiddig yn gwenu'n siriol ar Enoc, a ddaethai i'w chyfarfod.

Chwerthin wnes i pan eglurodd y ficer y cymal, ac roedd ynte hefyd yn gwenu, ond medde fe i gloi'r sgwrs.

Roedd e'n hanner gwenu wrth weud hyn, achos ma' defed un o ffermwyr yr ardal yn hoff o grwydro ar gomin yr hen fyd ma, ac un tro fe aeth hwrdd i mewn i'r eglwys, gan fod rhywun wedi "anghofio% cau'r drws.

, gan gyfeirio at Wil, a phawb yn chwerthin a chyfrannu mymryn o ffraethineb at y sgwrs, a Dic yn rhoi hergwd i ysgwydd Wil, a hwnnw'n gwenu heb falio dim.

Tad yn edrych Ar ei faban tlws, di-nam - Arno'n gwenu, yna'n trengi Pan ar fron ei dyner fam!

Daeth yntau yno, dyn bychan, bywiog, yn gwisgo sbectol drom, a chanddo farf frown dywyll o gylch ei wyneb, ac yn gwenu'n siriol wrth ymddiddan â Mam.

Ychydig cyn i mi ymddeol y daeth y bysys mini - rhyw fysys bach fel 'prams' a phawb yn gwenu wrth ein gweld yn dod.

Ni allwn weld ei wyneb, ond gallwn daeru ei fod yn gwenu'n gellweirus.

Wedyn fe fydd pob un ohonoch chi'n cael gorffwys iawn yn y pnawn." A dyma'r dynion bach od yn edrych ar ei gilydd ac yn dechrau gwenu.

Yntau'n falch cael dweud hanes Leusa'r Pant yn rhoi'r bêl fain drwy'i chlocsen yn ei hast, "a 'na hi, Ann, mi fydd yn gorfod cario'i throed drwy'r haf!" Gwenu'n dosturiol a wnaeth mam.

"Paid â chymryd sylw ohoni." Gallai daeru bod yr wylan wedi gwyro'i phen ac wedi gwenu'n sbeitlyd arno pan ddywedodd hynny.

Dyma ymweliad cyntaf Owen ac Eurgain Jones â Chymru a ni chawsant eu siomi roedd yr haul yn gwenu ym Mhenybont a phopeth 'mor wyrdd'.

Yn wir, pan fyddai morladron yn goresgyn llongau Sbaen un o'r pethau cynta fydda nhw'n i wneud, ar ôl lladd a mwrdro'r dynion a gwenu'n hyll ar dywysoges efo'u cyllyll yn eu cegau a hen hedsgraff eu nain am eu pennau, fyddai taflu'r sacheidia Cacao dros y bwrdd i'r eigion.

Pwy arall fuasai wedi meiddio torri naw o ffenestri cefn gwesty'r Westminster, a gwenu wedyn yng ngheg y llys?

" roedd lopez yn gwenu am y tro cyntaf, ond doedd ei lygaid ddim yn gadael wyneb y ferch am eiliad.

Yn anhygoel, mae'n gwenu arnaf.

Ond mi allech ollwng iddi hi efo Nedw a gwenu a chwerthin y faint a fynnech chi heb ennyn dig awdurdod na thynnu gwg y sefydliad.

Torri 'ngwallt i heb yngan gair, dim ond gwenu a chrechwenu'n y drych wrth ddefnyddio'r siswrn obeutu 'nghluste i, ac esgus holi'n ddifrifol pa liw oedd 'y ngwaed i; gwaed 'nigar' - fel tasa fe'n gweud 'gŵr bonheddig' neu 'Gymro' neu 'Sais'.

meddwn, yn gwenu fel cath, dim ond am dy fod ti ar y ffordd yn ôl a minnau heb gyrraedd."

Mae yma guro drymiau a chwifio baneri, a phlant a phensiynwyr am y gorau'n gwenu ar y camera.

Un ai 'roedd yn ddiddeall neu'n ddihareb o groendew, meddyliodd Sioned wrth geisio gwenu arno.

Mi fydd o'n falch o'ch gweld." A dyna lle'r oedd Dad mewn gwely, gwyn, gwyn, mewn ward olau fawr, a rhesi o welyau bob ochr, a rhywun ymhob un, rhai yn cysgu, eraill yn darllen, eraill yn gwenu ar y plant.

Eisteddai yntau fel rhyw 'bennaeth mwyn' yn eu canol nhw yn sipian sudd oren ac yn rhyw hanner gwenu'n dadol.

Ond ddywedodd Mam ddim byd, dim ond gwenu'n gyfrwys arno.

Parhad ydi hon, debygwn i, o bregeth debyg rai blynyddoedd yn ôl gan Arglwydd y Bwrdd Iaith ein bod ni'r Cymry bellach wedi 'troi cornel'. Difyr oedd sylwi mor barod oedd eraill megis Prys Edwards i amenio hyn, gan gytuno fod protestio a 'ballu yn hen ffasiwn, ac mai'r cyfan oedd rhaid ei wneud bellach oedd gwenu'n glên a 'hyrwyddo'. Roedd dyddiau dod ben ben â'r Sefydliad drosodd.

Fedra i wneud dim byd ond gwenu.

Ond pan droes yn ôl ataf fi yr oedd yn gwenu unwaith eto.

Os oedd hi'n ddydd gwaith, a dyn yn ymdrechu, hyd orau'i allu i chwibanu a chodi'i galon wrth gerdded yn anfoddog tua'r ysgol, mynnai'r galon guro'n gyflymach wrth imi brysuro heibio'r rhes o dai lle roedd Talfan yn byw, ac yno y pwysai'n llechwraidd yng nghysgod y drws, ei wallt cnotiog du yn ei lygaid a darn o'i dalcen yn gwenu arnaf.

Yn ôl y protestwyr yr oedd yn ddiwrnod cenedlaethol peidio â gwenu a hwythau, yn gwneud ymdrech lew i edrych yn flin ac yn gâs.

`Fe'i gelwir hi yn "Ogof Angau% ac mae pawb synhwyrol yn cadw draw.' Dim ond gwenu a wnaeth Attilio.

Yn gwenu O'i gwmwl ar ein tipyn pechodau.

Nodiais a gwenu'n ymddiheurol ar y perchennog.

Pan drafodai Rhian y pwnc efo Robin Stead, ei phartner hynaf, dim ond gwenu a wnâi hwnnw.