Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwerinol

gwerinol

Cwmpasai chwilfrydedd hynod yr Oleuedigaeth y diwylliannau gwerinol hefyd, ac nid oedd gwladweinwyr yn ddall i anghenion ymarferol addysg dorfol.

Dichon ein bod yn rhy agos i'r rhain i sylweddoli eu dylanwad ar fywyd gwerinol amaethyddol Cymreig cefn gwlad.

Mae hynny ynddo'i hun yn arwyddocaol; mae'n ein gwneud yn ymwybodol o'r tyndra rhwng y grefydd 'newydd' a'r hen fywyd, ac yn pwysleisio mai mudiad gwerinol yw Methodistiaeth, ond ein bod ni yn y nofel yng nghwmni arweinwyr y mudiad - teulu cefnog Gwern Hywel (ac i Saunders Lewis y dosbarth pendefigaidd hwnnw, uchelwyr mawr neu fach, yw'r rhai sydd a'u gwreiddiau ddyfnaf mewn hanes), a'r uchelwyr newydd - y gweinidogion.

MAE CEFNDIR CYMDEITHASOL, amaethyddol a gwerinol Eifionydd yn rhan annatod ohonof, a thros y cyfnod o ugain mlynedd y bu+m yn yr Alban a Lloegr a thros y môr nid aeth diwrnod heibio na chefais gip a r Eifionydd yn nrych fy meddwl.

Fel "trefniant gwerinol" o offeren y Nadolig y disgrifiodd un aelod o'r côr ef i mi.

Yn raddol fe ddaw'r hen bâr, ac yn arbennig yr hen ŵr, o gryn ddiddordeb i'r adroddwr, sydd yn ei weld fel cynrychiolydd yr hen ddiniweidrwydd gwerinol a wrthgyferbynnir â bydol-ddoethineb y byd sydd ohoni.

Teimlem ein bod wedi cyflwyno'r ddwy ddawns mewn dull gwerinol oedd yn bur ac yn ddi-ffws ond eto yn chwaethus a medrus.

Maen na lot o hen ffraeo yn y byd actio yn Lloegr rhwng y crachactorion ar actorion mwy gwerinol hynny efo acen 'ranbarthol'. Rhwng y posh ar oiks i ddefnyddio'r termau technegol.

Er mai dim ond 2,000 o gopiau a argraffwyd yn wreiddiol gwerthwyd 15,000,000 erbyn hyn ac y mae'r Misa Criolla gyda'i rhythmau gwerinol, i gyfeiliant gitars, charangos a bombas yn waith y mae parch a phoblogrwydd mawr iddo yn yr Ariannin.

Bu ei syniadau yn symbyliad i'r llu o wladgarwyr a droai yn ôl at ddiwylliannau gwerinol, gan ymdrechu i'w hachub rhag mynd yn angof llwyr.

Gellid ei ystyried yn fath o fesianaeth heddychol a gwerinol a chenedlgarol ac yn un o'r dolennau cydiol rhwng Phariseaeth a Selotiaeth.

Un o anfanteision addysg uwch yw ysgaru pobl o darddiad gwerinol oddi wrth eu cefndir.

Merch yw hi sydd yn ei hanfod yn debyg i Mary Williams Blaenycwm, a chyfnither Morgan yn Y Tri Brawd, sef un sydd wedi'i chodi uwchlaw amgylchiadau'r teulu gwerinol yn rhinwedd addysg Saesneg mewn ysgol breswyl.

Os oeddynt yn ymfalchio yn eu cenedl a'u gwreiddiau gwerinol, meddai, yr oeddynt yn siarad Hwngarian, ond yr oedd y rhai oedd eisiau statws a bri yn y gymdeithas yn dewis siarad Almaeneg.

Fe'i ganwyd hi i fod yn foneddiges,ac i fyw mewn plasdy, roedd ei gosgeiddrwydd a'i hurddas yn addasach i'r Hengwrt na nerfusrwydd gwerinol Lowri.