Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwersi

gwersi

Math o gynllun (cyfunol ynteu integredig) Beth yw cynnwys y cynllun (llyfrau disgybl, canllawiau athro, taflenni gwaith etc.) Pynciau a drafodir Cyfarpar ar gyfer gwersi ymarferol (A ddefnyddir cyfarpar ysgol safonol?) Dulliau asesu (a yw'r rhain yn rhan o'r cynllun?)

Dyna ichwi un o'r llyfrau gwersi gorau fu erioed ar gyfer plant.

Dechreuodd roi gwersi gyrru i'r ddau ac yn awr ac yn y man treuliai'r nos yn eu cartref.

Brysiodd y plant eraill i gyd o'r coridor ac i'w gwersi fel llygod.

Gellir barnu i ba raddau mae'r ysgol yn llwyddo i ddatblygu'r dimensiwn Cymreig a'r themâu trawsgwricwlaidd drwy ansawdd dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau disgyblion fel yr arddangosir hwy mewn gwersi ac yng ngwaith y disgyblion.

Ar ôl gwersi, eistedd ar y balconi.

Roedd Alun yn Form Three neu Four - heddiw Blwyddyn naw neu ddeg yn yr Ysgol Gyfun, ac yn derbyn gwersi Lladin.

Nid ydym yma ond prin ddechrau dysgu gwersi marchnata effeithiol a disgybledig.

Canol Medi oedd hi, a phlant ysgol Cilieni wrth eu gwersi.

Cofiaf am un wers pan oedd Anti yn dweud wrth ei dosbarth am weddio mewn anawsterau, neu er mwyn cael help i ddysgu eu gwersi yn iawn.

Cychwyn ei fywyd cerddorol oedd "yn stwna ar biano'r teulu" cyn iddo "ddifrifoli" gyda gwersi soddgrwth ag yntau'n naw oed.

Bu Teg yn rhoi gwersi gyrru iddi am sbel ond penderfynodd Teg nad oedd hi'n ffit i fod ar y ffordd.

Cymerodd Steffan yr awenau ond anhapus iawn oedd yntau i roi gwersi iddi hefyd.

Yn ogystal â thrin gwallt rydw i'n hyfforddwr sboncen, felly, os oes unrhyw un eisiau gwersi maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim.

Ar ôl noson brysur yn yr English Corner dyma benderfynu treulio'r diwrnod yn paratoi gwersi ar gyfer dechrau dysgu yr wythnos nesaf.

Er mai Arabeg yw ei iaith gyntaf, mae'n cael gwersi mewn Saesneg a Ffrangeg hefyd.

Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.

Mi es i ati, ond dim ond cael gwersi unwaith yr wythnos yn Llangollen, ond wedi symud i Manafon mi ges i afael ar Weinidog nepell o Lanbrynmair, Llanfair Caereinion ac mi es ati o ddifri wedyn i ddysgu.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Mae Hywel Teifi Edwards hefyd yn gweld gwersi yn y driniaeth o'r glowyr.

Mae'r cwmni wedi llwyddo i osgoi yr achos arbennig hwn ond fe ddaw'n ddydd o brysur bwyso arnynt hwy ac efallai y bydd y gwersi y byddant yn eu dysgu yma heddiw o werth iddynt ddydd a ddaw, oherwydd nid oes amheuaeth yn fy meddwl y bydd yn rhaid iddynt ateb yn hwyr neu'n hwyrach am y rhyfel amgylcheddol a ymladdasant yn y delta.

Mynnodd gennyf ddilyn y gwersi Cymraeg yn yr ysgol elfennol, ac wedyn yn yr High School 'roedd yn rhaid i mi gymryd y Gymraeg fel pwnc.

Cofiaf y deiagramau a luniais yn ystod gwersi sych yn dangos union safle'r tanciau a sut y dylid clymu hen ddrws arnynt.

Mae strwythur eglur i'r gwersi a dilyniannau cydlynus o waith ar gyflymder priodol.

* gynnal sesiynau adborth cyson yng nghanol ac ar ddiwedd gwersi a fyddo'n rhoi cyfle iddynt: -ddarganfod pa syniadau a chysyniadau sydd yn anodd i'r disgyblion eu meistroli ac sydd angen sylw pellach, -ddarganfod pa unigolion sydd angen cynhaliaeth a chymorth ychwanegol (a hynny mewn amgylchiadau caredicach i'r disgybl na sefyllfa athro-ganolog, ddosbarth cyfan);

Cymraeg oedd iaith swyddogol yr Ysgol Sul a Chymraeg oedd iaith y gwersi yn ddieithriad ond eto Saesneg siaradem â'n gilydd fel plant.

Ar ddiwedd gwersi'r diwrnod hwnnw treuliais awr yn cerdded yn ol ac ymlaen yn cario sgis trwm - diwrnod o sgio - i chwilio am y cwpwrdd i'w cadw ynddo dros nos.

Pan fyddai hogyn wedi cael ei drwytho yn "Rhodd Mam" ac wedyn, wedi bod yn hogyn drwg byddai gwersi Mrs Wilias yn siwr o ddod yn ôl i'w feddwl yn ddiarwybod iddo, bron ac yn dweud wrtho: "Tro yn dy ôl".

Erbyn hyn mae' na drefn ar y dysgu a nawr rwy'n edrych ymlaen at y gwersi.

Gan fy mod innau'n medru gwneud hyn yn barod roeddwn yn 'rhy dda?' i'r dosbarth - ond o leiaf roedd yn ymarfer bach da i'w wneud ar gyfer gwersi'r diwrnod wedyn.

A yw cyraeddiadau yn y gwersi yn cydweddu â'r asesiadau ysgrifenedig o alluoedd?

Gofyn pob math o gwestiynau imi - sut i ddelio â phlant sy'n cambyhafio, sut i wneud gwersi gramadeg yn ddiddorol, sut i dynnu lluniau diddorol ar y bwrdd du...