Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".
Ond gwelai'n gliriach nac erioed mai'r iaith Gymraeg yw'r trysor hynaf a gwerthfawrocaf sy gennym ar wahan i'r Ffydd Gristnogol, a gwelai ei bod mwyach yn gyflym ddarfod o'r tir.
Teimlwn fy mod wedi colli fy nghyfaill gwerthfawrocaf, a hynny ar adeg pryd yr oedd fy nyfodol, a siarad yn ddynol, yn dibynnu ymron yn gwbl arno.