Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwerthfawrogi

gwerthfawrogi

Mae pob mudiad yn gwerthfawrogi eu hen wynebau ynghanol llanw a thrai yr aelodaeth gyffredinol a tydi Cymdeithas yr Iaith yn ddim gwahanol i hynny.

Ymatebodd y Prif Swyddog Technegol ei fod yn gwerthfawrogi'r sylwadau ac y canolbwyntid yn ystod y ddwy flynedd nesaf ar y gwaith sydd yn aros i'w wneud ar y stoc tai.

Gobaith criw yr Eisteddfod yw y bydd gweddill Cymru, o'r diwedd, yn gwerthfawrogi ardal sydd wedi cyfrannu cymaint.

Roedd Niclas yn gwerthfawrogi artistri.

Diolch i ti am y caredigrwydd hynny tuag ati, o leia - mae'n siŵr y byddai hi'n gwerthfawrogi hynny o gyfeillgarwch oddi wrth ei ffrind." "Mae'n amlwg fod y syniad hwnnw wedi croesi dy feddwl di, neu faset ti ddim wedi son am y peth, felly paid a bod mor hunangyfiawn gyda fi.

Yr oeddwn innau'n adnabod llawer o awduron llyfr fy mam, ond yn awr, yng ngoleuni cofio amdanynt, yr wyf yn medru gwerthfawrogi llyfr mor gyfoethog ydyw, ac mor gyfoethog oedd fy mam pan oedd hi'n gwneud y detholiad.

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Yn yr awdl mae un o'r delwau a geir yn Nhyddewi yn holi pererinion, ac yn gofyn a ydyw'r Cymry yn parchu eu hiaith o hyd ac yn gwerthfawrogi harddwch y wlad.

Mae rhyw falchder yn y ffaith bod y cymeriad wedi gweithio i'r fath raddau a dwi'n gwerthfawrogi pob gair caredig...

Er mwyn gwerthfawrogi beth oedd yn ysgogi'r brwydrau, rhaid cadw rhai pethau mewn cof.

Cyfeiriodd rhai o'r aelodau at safon uchel y gwaith cynhaliaeth ar y tai Cyngor yn y Dosbarth ac fod y tenantiaid yn gwerthfawrogi hynny.

Roedd gan Mr Huw Williams nifer o ffrindiau a chydnabod ym Maesteg ac roedd pawb yn gwerthfawrogi ei hynawsedd a charedigrwydd wrth ddilyn ei yrfa fel Rheolwr Siop Fferyllydd Morris a Jones, Commercial St.

Rhywsut ni theimlai y byddai Rowland yn gwerthfawrogi hyn.

Mae'r ysgol yn gwerthfawrogi eich cyfraniad a'ch cefnogaeth.

Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad, boed ar ffurf cyllid, neu offer.

"Dwi'n gwerthfawrogi gweithio efo nhw," meddai Carys, a fu tan yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Artistig cwmni theatr mewn addysg y Fran Wen.

Rhaid cofio rhain i gyd; a chyn i rhywun droi mae'n lli Awst a'r eogiaid yn rhedeg yn gyson am y llednentydd - a dyma ni wedyn hyd ganol mis Hydref yn prysur edmygu a gwerthfawrogi cynnwys parsel arall.

Roedd ganddo'r ddawn ryfeddol i weld a gwerthfawrogi cymeriad, a marwgofion anfarwol yw'r rhai a ysgrifennodd am weinidogion fel Jenkins, Llwyn; Lewis Williams, Cilie a Gwilym Evans, Llandysul.

Yr oedd hi'n danbaid eisiau i'r bobl ifanc gael pob mantais addysg a chrefydd, ac iddynt eu gwerthfawrogi.

Meddai wrthyf cyn diflannu i weithio ar ei haraith 'Diolch i chwi am ei gwneud yn hawdd i mi drwy eu rhoi yn y mwd iawn gyda'r stori wych.' Wel, yr oedd yn gwybod sut i blesio a gwerthfawrogi--yn wahanol iawn i'w rhagflaenydd swta!!

Gwnaeth Penri y rhan fwyaf o'i waith yn sir Northampton, yn esgobaeth Peterborough ac ni ellir gwerthfawrogi'n llawn gymhellion ei weithgarwch heb gymryd hynny i ystyriaeth.

Rydw i wedi pregethu a darlithio i gynulleidfaoedd mawr a bach ond dydw i erioed wedi cael cynulleidfa yn gwerthfawrogi cymaint â'r fintai yma o ffoaduriaid o Iran.

Mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebu'r broses o ehangu darlledu masnachol.

Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.

Mae sesiynau acwstig wedi bod yn rhan annatod o raglenni Gang Bangor byth ers i'r rhaglen ddechrau ddwy flynedd yn ôl, felly does dim amheuaeth ein bod yn gwerthfawrogi cerddoriaeth o'r fath.

mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebur broses o ehangu darlledu masnachol.

Y ffigur pwysicaf y mae'n ofynnol inni dderbyn dehongliad Layard ohono, er mwyn gwerthfawrogi ei holl ddamcaniaeth am y chwedl, ydyw Ysbaddaden Bencawr.

Gwelwn i'r Israeliaid ar hyd y blynyddoedd ddatblygu a gwerthfawrogi'r sefydliadau a dybiai'n angenrheidiol i fynegi ei hymwybyddiaeth fel cenedl.

Sylw Mr Wynn Thomas arno yw, "Teg gwerthfawrogi cywirdeb Calfinaidd yr ebychiad hwn, ond sylwer hefyd pa mor fregus y mae'n peri i orchudd gras ymddangos".

Mae Caravan Holiday, ar y llaw arall, yn arwydd o'r naws acwstig y gall Stereophonics ei chreu, ac yn bersonol fe fyddwn i'n gwerthfawrogi cael clywed mwy o'r math yma o beth.

Diolchwn i Mrs Beti Emmerton am ei rhodd garedig, yr ydym yn gwerthfawrogi ei haelioni yn fawr iawn.

Mae Malcolm, a'i rieni yn gwerthfawrogi yn fawr iawn y gofal cyson gan y meddygon, y gweinyddesau ynghyd a'r timau o arbenigwyr sydd wedi ei arwain o gysgodfeydd y glyn at ffiniau y copaon, ac i gael cip olwg ar amser gwell iddo.

Os edrychir ar astudiaethau Idris Foster neu Proinsias Mac Cana ar y chwedl, neu ar lyfr Kenneth Jackson ar The International Popular Tale and Early Welsh Tradition, fe geir llawer o ddadansoddiadau motifaidd, yn olrhain y themâu ystoriol sydd yn y gwaith, ac yn gwerthfawrogi dawn dweud y cyfarwydd(iaid) a'i lluniodd a'i goethi.

'Roedd y Groegiaid yn gwerthfawrogi betys fel bwyd meddyginiaethol.

bu'r ail gynhadledd mor llewyrchus â'r gynhadledd gyntaf a phan ddychwelodd henry richard o ffrainc cynhaliwyd nifer of gyfarfodydd cyhoeddus drwy brydain, a'r rhai mwyaf nodedig ohonynt ym manceinion a birmingham, i ategu a gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed ym mharis.

Dangos ystyriaeth oedd ein bwriadni, ond 'doedd yr hen bobl ddim o hyd yn gwerthfawrogi hynny.

Yr wythnos ddiwetha', a dim ond tua phythefnos ar ôl tan y perfformiad ar nos Sadwrn gynta'r Eisteddfod, roedd hi'n amlwg fod y plant yn mwynhau ac wedi gwerthfawrogi cael cyfrannu at y syniadau.

* bod rhaid gwerthfawrogi'r cyfraniad mae'r rhieni wedi ei wneud ac y gallant barhau i'w wneud, i addysg eu plentyn.