Yr oeddwn wedi rhoi fy mhin ysgrifennu iddo yn anrheg ac yn arwydd o'm gwerthfawrogiad, a chyfrifwn ef yn gyfaill.
Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.
Cilwenodd y dosbarth, er i'r ferch a gynorthwywyd gan Hector ymgadw rhag dangos ei gwerthfawrogiad o ergyd yr athro.
Y mae Cymdeithas Gwaith Maes yn hyrwyddo gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o'r amgylchedd trwy ei astudio, a thrwy rannu gwybodaeth a phrofiad ohonno.
petai'r dorf am ddangos eu gwerthfawrogiad pellach aethant ati wedyn i gyfeirAo'r heddlu tuag at yr unigolyn hurt oedd wedi taflu'r botel a dyna ddiwedd ar y sefyllfa.
Ond fy mwriad yw nid codi crachod ond mynegi gwerthfawrogiad am gasgliad o ysgrifau sydd wedi ein gosod unwaith eto mewn dyled i'r Athro Glanmor Williams.
Gwerthfawrogiad o un o ysgolheigion mwyaf y Gymraeg a fu'n cynorthwyo William Morgan, cyfieithydd y Beibl.
Ei hamcan yw hybu gwell gwerthfawrogiad o safonau perfformio, o arddulliau drama, o grefft a disgyblaeth llwyfan.
Ar ben hynny, yr oedd ar y mwyaf o'r bobl a fanteisiai ar ei lafur yn brin eu gwerthfawrogiad ohono ac yn aml yn anhydrin ac anghwrtais.
Hoffwn gydnabod ein gwerthfawrogiad i'n noddwyr hael, Y Swyddfa Gymreig, Banc Barclays, Cymdeithas Adeiladu'r Alliance and Leicester a chymorth ymarferol Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Theledu AGENDA.
Ynghlwm wrth hyn mae'r gred fod diwylliant, hanes a iaith yn rhan annatod o'r gwerthfawrogiad, fel y mae dulliau gwyddonol yn hanfodol i'r ddealltwriaeth.
Nid bod hynny'n syndod chwaith canys pobol yn 'nabod ein gilydd ydym ni a chanmol a datgan gwerthfawrogiad yn beth mor anodd, ac olrhain acha' ac edliw teulu yn beth mor hawdd.
Yr oedd tysteb wedi ei sefydlu, a cfe bwrcaswyd set o lestri te arbennig iawn 'Royal Daulton' i Mrs Jones fel arwydd o'n gwerthfawrogiad.
Ni bu strategaeth amser hir na gwerthfawrogiad fod lefelau disgyblion yn codi ac yn disgyn yn gyson mewn pentrefi bach o ganlyniad i symudiadau ychydig o deuluoedd.