Saif Mari Lewis yn ymgorfforiad o'r gwerthoedd Calfinaidd, 'pur', fel y'u gwelid ganddo.
Hwy oedd yn cyfryngu safonau, gwerthoedd a delfrydau eu heglwysi yn y byd o'u cwmpas.
Ac y mae dylanwad mudiadau protest a chymdeithasau amddiffyn o'r tu mewn a'r tu allan yn ysgogi ymwybyddiaeth amgenach na'r gwerthoedd yr oedd 'cyfoeth ffermwyr Llŷn' yn ei gynrychioli.
Daliodd y bywyd gwledig, gyda'i gysylltiad uniongyrchol a'r gwerthoedd Cymreig ac a pharhad yr iaith Gymraeg, yn ganolbwynt eu canu.
Gyda'r Chwyldro Diwydiannol llifodd cannoedd o filoedd o Gymry i'r ardaloedd diwydiannol gan ddwyn eu hiaith, eu crefydd a'u gwerthoedd gyda hwy.
Y peth sy'n drawiadol am y traddodiad Cymreig yw'r argyhoeddiad fod y gwerthoedd a'r safonau sy'n ysbrydoli'r rheolau'n rhai ar gyfer gwerin gwlad, nid yn unig ar gyfer clerigwyr, mynachod a lleianod.
Perthyn Deddf Iaith '93 i'r ganrif ddiwethaf a'i gwerthoedd ac mae'n hen bryd ei diwygio'n drwyadl.
Cafwyd datblygiadau pellach dan ddylanwad ymneilltuaeth a gwerthoedd Oes Victoria.
Y genhedlaeth ifanc yng Nghymru fel yn yr Unol Daleithiau sy'n gweithredu o ddifrif, mewn ffordd gostus iddyn nhw eu hunain, i orseddu gwerthoedd uwch yn nhrefn ein cymdeithas; cilwgu arnynt gydag ychydig eithriadau a wna'r canol oed parchus sy'n proffesu ymlyniad wrth yr un gwerthoedd.
Roedd y ddau gynhyrchiad hwn wedi eu gwreiddio'n ddwfn yng Nghymru a'i gwerthoedd.
Roedd ganddo ef gydwybod gymdeithasol effro iawn, wrth gwrs, ond yr esiampl a gynigiai ei stori i'r genhedlaeth yn union cyn f'un i oedd gwerth hunan-wellhad: goruchafiaeth hunan-ddisgyblaeth, diwydrwydd, a byw'n dda, gwerthoedd oedd wedi eu hangori mewn patrwm cymdeithasol di-sigl.
Meddai Raymond Williams eto, wrth drafod y diwylliant dominyddol: Mae o fewn y gymdeithas, felly, wahanol ffurfiau ar yr hyn a ystyrir yn 'synnwyr cyffredin', ac o fewn democratiaeth, rhaid i'r wladwriaeth gael ei gweld i fod yn cynnwys y rhain, hyd yn oed os ydynt weithiau yn sefyll mewn gwrthwynebiad i'w gwerthoedd hi.
Dwg i gof yn un peth amheuon Gruffydd am agwedd dybiedig ddilornus Lewis at yr Eisteddfod fel dim namyn 'gwyl y bobl.' Dengys hefyd fel y syniai Gruffydd am y gwahaniaeth barn o'r cychwyn fel dadl foesol yn ogystal a dadl esthetig, fel ymladdfa gwerthoedd.
Yr un modd, diniweidrwydd a barodd iddo gyhoeddi Y Gymraes (neu 'Merched Cymru', yn ôl y pennawd gwreiddiol), ei lenwi â chynghorion doeth ynglŷn â moes a buchedd yn unol â gwerthoedd y dosbarth canol parchus, a chredu y byddai'n apelio at ferched cyffredin.
Mae'n rhaid i weithwyr gofal wneud yn siwr fod defnyddwyr y gwasanaeth yn gallu datblygu syniad clir o hunan-ymwybyddiaeth a gwerthoedd personol.
O ganlyniad, daw gwerthoedd y dosbarth rheoli yn rhan o 'synnwyr cyffredin' bron bawb yn y gymdeithas.
Ceisio dehongliad newydd o'r llenor yr oedd mewn cymdeithas a gollasai'r gwerthoedd ysbrydol a oedd mewn grym yn Oesoedd Cred.
Mae pob cymdeithas sydd â grym deddfu yn deddfu ar yr hyn sydd yn bwysig iddi -- i geisio annog yr hyn sy'n werthfawr a cheisio atal yr hyn sy'n ddinistriol -- yn ôl ei gwerthoedd ei hun.
Mae'n bleser cael y cyfle i wasanaethu'r gwerthoedd yr wy'n credu ynddyn nhw." Dyna nodwedd llawer o'r cynhyrchiadau y mae ef wedi gweithio arnyn nhw yn y gorffennol, llawer ohonyn nhw ar y cyd gydag awdur y gerddoriaeth y tro hwn, Eirlys Gravelle.
Her addysg Gymraeg yw cyflwyno gwerthoedd gorau ein diwylliant er mwyn galluogi ein disgyblion i fanteisio ar ragoriaethau dau ddiwylliant.
Nid yw'n annheg dadlau fod y ddisgyblaeth hon wedi crisialu'n ddiweddarach yn barchusrwydd ffurfiol a phobl yn canmol y gwerthoedd yn gyhoeddus ac yn eu gwadu yn y dirgel.
Nid oedd y delfrydau na'r gwerthoedd uchaf yn ddieithr iddi.
Y broblem oedd, ac yw efallai, fod y gwerthoedd hynny yn gallu bod yn fwy deniadol, ac weithiau gyda mwy i'w gynnig beth bynnag.
Dim ond pan wneir hynny y caiff defnyddwyr y gwasanaeth eu galluogi i fyw bywyd yn ol eu gwerthoedd personol eu hunain.
Nid mater o ddeddfu negyddol yw hi o hyd er mwyn creu rhwystrau, ond mae deddfau yn fodd i ymrymuso a rhyddfreinio unigolion a chymdeithas, creu amodau ffafriol ar gyfer datblygiad, a danfon neges glir a phendant ynglñn â gwerthoedd cymdeithas.
Roedd y gwerthoedd gorau wedi eu symud o'r tir.
Yn awdl 'Yr Arwr' mae elfen o adlewyrchu'r gwrthdrawiad rhwng y newydd a'r hen, rhwng gwerthoedd y Gymdeithas Wrywaidd yn Oes Victoria a rhyddfrydiaeth a delfrydiaeth newydd degawd cyntaf y ganrif.
Ond problem arall yw gwarchod gwerthoedd a safonau o fewn y grefft o gynhyrchu rhaglenni, ac mae angen dyfeisio ffordd o gyflawni'r nod honno.
Mae nifer o stori%au Aled Islwyn yndarlunio ymdrech yr unigolyn i ddal ati ac hyd yn oed i geisio cynnal gwerthoedd yn wyneb diffyg strwythur a diffyg raison d'être y gymdeithas sydd ohoni, yn wyneb yr unigedd mewnol anochel sy'n rhan o brofiad cynifer.
Yr oedd gofyn gwerthoedd a chanllawiau, a'r gwerthoedd llenyddol a argymhellodd oedd rhai wedi eu seilio ar ufudd-dod i awdurdod allanol traddodiad.
Cynhyrchir agweddau, gwerthoedd ac arferion o fewn yr uwch-ffurfiant, ond er fod yr ideoleg hegemonaidd yn gweithredu i integreiddio pawb i mewn i'r system ddominyddol o werthoedd, gan gynhyrchu synnwyr cyffredin sy'n treiddio drwy'r system, eto saif rhai y tu allan i'w dylanwad.
'Roedd ei genedlaetholdeb yn pwysleisio'r undod rhwng hanes, llenyddiaeth, celfyddyd, gwerthoedd cymdeithasol ac ideolegau gwleidyddol.
Thema ganolog: Gwrthdaro: y gwrthdaro rhwng yr hen werthoedd a'r gwerthoedd newydd, rhwng Cymru Oes Victoria a Chymru'r ugeinfed ganrif; rhwng Sosialaeth a Chyfalafiaeth; rhwng anterth a dechreuad cwymp yr Ymerodraethau Mawrion; rhwng aelodau'r Orsedd, cefnogwyr a dilynwyr Iolo Morganwg, a'r ysgolheigion newydd, dinoethwyr Iolo; rhwng beirdd hen-ffasiwn yr Orsedd a beirdd 'yr Ysgol Newydd'; rhwng cenedlaetholdeb a Phrydeindod.
Ni allent aeddfedu ond mewn fframwaith cymdeithas â'i gwerthoedd a'i thraddodiadau ei hun.
'...' Roedd yna weledigaeth o wasg Gymreig fel un i warchod Cymreictod dilychwin rhag gwerthoedd estron.
Gwerthoedd unigolyddol yr oes ddiwydiannol a chyfalafol honno oedd gwerthoedd y Cymry.
Profwyd bod creu ethos Gymraeg fwriadus sy'n adlewyrchu gwerthoedd y diwylliant Cymraeg ar ei orau yn arwain at hinsawdd gefnogol o fewn cymuned yr ysgol (ar ran rhieni, disgyblion ac athrawon) yn ogystal ag ysbryd o genhadaeth.
Gall Cymru fod ar flaen y symudiad yn ôl at ddyrchafu gwerthoedd dynol a chymdeithas yn lle elw.
Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.
Cymdeithas genedlaethol oedd hon, am mai iaith a'i diffiniai ac iaith a draddodai ei gwerthoedd.
Simsanodd yr hen sicrwydd felly sut mae cynnal gwaith a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylchedd iach yr un pryd.