Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwifrau

gwifrau

Mae modd rhagweld y troeon yn y ffordd wrth astudio gwifrau teligraff yn y pellter; mae gweld rhywun yn sefyll mewn arosfan bysiau yn arwydd go lew y gallai fod bws rownd y tro nesaf; chwiliwch yn y pellter am geir yn dod i'ch cyfarfod, a gofalwch eich bod yn tynnu a gwthio'r llyw drwy'ch dwylo yn hytrach na chroesi'ch breichiau.

a) Mae'n rhaid i bob cyfarpar trydanol a gedwir mewn mannau cyffredin gan gynnwys gwifrau a cheblau eraill gael eu harchwilio yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn ddiogel i'w defnyddio.

Wrth gerdded adre'n benisel linc-di-lonc hyd lwybr a redai yn ymyl gwifrau netin uchel y cae chwaraeon, dechreuodd Guto freuddwydio.

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Lloegr newydd gyhoeddi ei bwriad i ehangu mastiau a gwifrau ei pharatoadau rhyfel ar ochr Mynydd y Rhiw.

Felly, gellir ei defnyddio i drosglwyddo negeseuon yn yr un modd â gwifrau trydan.

iii) Ni ddylid gosod gwifrau trydanol neu ffôn ar draws mannau lle mae pobl yn cerdded heb ddefnyddio gorchuddion diogelwch addas.

Torrwyd y gwifrau'n ofalus ac agorwyd clawr y bocs.

Ddoe daeth Mrs Davies i'n gweld ni i sôn am drydan ac naeth hi ddod a Wilbi hefyd ac naeth hi ddeud wrthym ni i beidio a chwarae hefo barcud lle mae yna wifren ac os ydi'r ffrisbi wedi mynd ir is orsaf gofun wrth mam neu dad i ffonio Manweb i nôl o ac peidiwch chwarae pêl ar y lôn pan maer dynion yn trwsio gwifrau yn y lon.

`Ble mae e?' `Mae e'n gorwedd yng nghanol ystad o dai'r Fyddin yn Longstanton.' `Disgrifiwch e.' `Wel - mae e'n barsel mawr ac mae gwifrau o'i gwmpas ef.' `Ydy e'n tician?'

Gallem ei glywed yn chwibanu drwy'r gwifrau, yn dyrnu'r ffenestri, ac yn sgrialu'n llithrig ar hyd y deciau heibio talcenni'r cabanau.