Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwin

gwin

Y mae'r te yn Ysbyty Ifan yn gorfod gwneud y tro yn lle gwin.

Roedd hyn yn dipyn o loes i'm cydletywr, ond doedd wiw iddo ef brofi ohono; ac atgoffwn innau ef yn gyson â'r geiriau: "Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn!" Roedd honno'n flwyddyn galed iawn, ond bwriais iddi'n ddiarbed gan y gwyddwn yn dda na fyddai ailgynnig mewn cyfnod felly.

Gyda'r gwin (y Pino-shite o Chile) bellach yn llifo, cafwyd trafodaeth hir a ffyrnig hyd yr oriau mân ar safonau newyddiadurol yng Nghymru.

Aeth y miwsig a'r goleuadau a'r rhialtwch i'w phen fel gwin.

Cymerais innau ddracht o'r ddiod wedyn ac roedd mor felys â'r gwin.

Ond y maent yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd."

Pan fyddai allan gyda'r nos, neu yng Nghaernarfon ar y Sadwrn, gwisgai het a honno wedi ei haddurno â phlu amryliw- -coch y bonddu, petrisen corff gwin, ac amryw eraill.

Coes bren, coes blastig, menyg rybyr, trombôn, gwybedyn marw a gwin danadl poethion: i gyd yr un peth yn y diwedd.

Bwriwyd yn ei erbyn gan globen o ddynes ar ei ffordd i'r neuadd ddawnsio o'r stafell fwyta, lle bu hi'n amlwg yn rhy hir gyda'r gwin.

Ac ni fedrwn sefyll ym mhulpud Bwlchderwin heddiw, a pheidio â meddwl, pe gwelwn wraig hyn na'r cyffredin yn y gynulleidfa, "Oedd 'nacw'n un ohonyn NHW tybed ?" Wrth edrych yn ôl trwy niwl y blynyddoedd, nid bara a gwin Y Cymun hwnnw, yn anffodus, sydd wedi aros, ond trwyn arswydus y Parch.

Ar y grib nefolaidd cawsom hufen iâ, gwin a gwledd o olygfa i lawr dros y pîn i'r smotiau tai a'r twr eglwys a oedd fel rhithlun yn nhes haul y dyffryn.

Roedd y cwpoc, y ceirios, yr afalau bach surion, a'r eirin duon bach i wneud gwin, yn arwydd nad oedd y gaeaf wedi cyrraedd eto.

Doeddwn i ddim yn ffansi%o llawer arno a hefyd yn meddwl: Beth pe tase pawb yn penderfynu chwythu yn lle sugno, ach a fi !' Nid oedd y calabash yn dal llawer ond bob hyn a hyn, deuai un o'r dynion o'r cefn gyda llond tegell o ddŵr poeth a'i dywallt i'r gwin.

Canwo lawr yr afon Oren oedd yn ddymunol, a stopio o bryd i'w gilydd mewn mannau arbennig er mwyn i chi flasu'r gwin.

Peth felly yw troedio strydoedd yr enaid lle mae gluewein mor aml yn gymysg ar gwin cymun ar bara yn gymysg ar castanau.

Ymunwn â hwy am bryd o fwyd yn y neuadd ac mae digon o gwrw a gwin, bara a chig yno i bawb.

Gwin cartref oedd yn y calabash a rhoddwyd pibau hir o bambw i bawb sugno drwyddynt, ac eisteddodd pawb i lawr o'i amgylch.

Ar ôl tynnu llun hefo nifer fawr o'r plant a rhai o athrawesau Saesneg yr ysgol Ganol - Merched croesawgar, hwyliog, iawn - mynd am 'wledd' unwaith eto gyda gwin coch a chwrw.

Ergyd y ddramodig, yng nghyd-destun Cwpanaid o De gyda Mr Bebb, yw nad oedd gan arweinwyr y Blaid Genedlaethol Gymreig, y pryd hwnnw, nemor ddim diddordeb yn y gwledydd Ewropeaidd lle na siaredid iaith ladinaidd, lle nad oedd yr Eglwys Gatholig yn unbennes eneidiau a lle nad yfid gwin yn helaeth.

Yn ei wlad ef yr oedd gwin yn ddihysbydd, cydwybod yn ddi-waith, a barddoniaeth yn gyfiawnhad gorfoleddus iddi ei hun .

Ac yn Ffrainc heno mae'r gweithwyr gwynion yn griddfan dan sbeit y cyfalafwyr y maen'hw'n gwneud modrwyau iddyn'nhw, a tai, a cheir modur, a gwin; ac yn yr Eidal heno, ac yn y Sbaen heno, ac yn Lloegr heno, ac yng Nghymru heno.

Mae'r ardal o gwmpas Cape Town yn un sy'n cynhyrchu gwin, a threuliais ran o'm hamser hamdden i farchogaeth trwy'r gwinllannau, a phellach ymlaen lle roedd melonau a phomgranadau yn laweroedd.

Cofir am Bryn yn dathlu ei fuddugoliaeth yng nghanol y dici bows a'r gwydrau gwin, ei grys ar agor a pheint ewynnog yn ei law.

Pan gyflwynodd y Rhufeiniaid y llysieuyn i Brydain, buan iawn daeth yn boblogaidd i wneud gwin.

Ceisiwch ychwanegu dŵr soda at eich gwin, yfwch ddiodydd calori-isel a gwnewch i'ch diod bara'n hwy drwy ychwanegu ia ato.

Wedi hynny ceir platiad o wahanol dameidiau o fwyd a gwin i'w yfed.

Roedd y gwin yn gynnes a melys.

Cynigiwyd ein bod yn gofyn i Angharad Hughes drefnu'r bwyd (bara Ffrengig a phate ynghyd a gwin di-alcohol), a'n bod hefyd yn gwahodd un o'n haelodau i chwarae'r delyn.

Mewn meddygaeth, gellir trin staen 'gwin port' ar y croen drwy diwnio laser alexandrite fel bod y staen yn amsugno'r goleuni ac felly'n cael ei ddifrodi.

Daethom i'r casgliad mai cymryd pethau'n hamddenol yr oedd, a'i fod o bosibl yn clertian y tu cefn i un o'r tomennydd coed, ei ben bron hollti ar ôl yfed gormod o sake (gwin-reis y Siapaneaid) y noson cynt.

Ac onid dyma'r bara a'r gwin rywfodd?

Oherwydd y lleidr, rydw i'n gorfod ei brynu fesul casgenaid bellach." ăI'r dim, fe dywalltwn ni win i mewn i'r bibell i weld beth ddigwyddith." Caewyd un pen i'r bibell a gwasgiwyd y gasgenaid gwin i mewn iddi.

'Prydydd a'i geilw paradwys'; 'Cyntedd gwin a medd ym yw' 'Lle seinia lliaws annerch'.

Os oedd y gweithwyr yn addoli yn 'nheml duw y gwin', meddai, y meistri haearn oedd ar fai.

wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.

Gwrthod gwin oedd orau iddo.

Er mwyn gwella'r galon cymysgid hadau'r onnen, llin a gellygen, eu curo'n dda mewn gwin gwyn a'i roi i yfed i'r claf pan fo'n glaear.

Cai sylw a llwyddiant hefyd: Fy llais a yfai llysoedd: Megis gwin neu drwmgwsg oedd Yn swyno pob rhyw synnwyr Mewn llyffethair llesmair llwyr.

A chaethwasiaeth a ddaeth mewn côf gerbron Duw i roddi iddo gwpan gwin digofaint ei lid ef.

Mae'n nhw'n ymylol ac eto maen nhw yng nghanol ein bywydau, labeli tuniau bwyd, sigarennau a thybaco, poteli gwin a diod, pacedi powdwr golchi, tocynnau bws, trên ac awyren, arian papur, bondiau.

Dywedwyd y byddai'n amhosibl cadw'r gwin i fynd drwy'r nos wrth gario'r dŵr arno, - roedd y blas yn codi o'r gwaelod.

Os oedd crawn drewllyd ar glwyf ar y coesau berwid dail derwen mewn gwin gwyn neu goch a'i roi ar y clwyf.

Daeth perchenogi car (a charafa/ n hefyd!), mynd ar wyliau tramor, yfed gwin costus, bwyta mewn gwestai drud, a chael cartrefi moethus, yn rhan o fywyd llu mawr o bobl.