Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwireddu

gwireddu

Gydag egni ac ymroddiad aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas gallwn sicrhau y bydd gwireddu ein amcanion yn nod realistig.

Er ei fod wedi gwireddu ei freuddwyd o fod yn arlywydd, roedd yn ymwybodol o fygythiadau o sawl cyfeiriad.

(Ac oddi ar imi ddychwelyd i Gymru, mae'r freuddwyd honno am Macdonalds Moscow wedi ei gwireddu, wrth gwrs.) Cyn imi Fynd i Foscow feddyliais i erioed y medrwn i newynu a sychedu am gynnyrch bas y gymdeithas gyfalafol.

Caiff perfformiad Tîm Rheoli S4C ei fonitro i sicrhau fod y strategaeth yn cael ei gwireddu.

"Wrth geisio gwireddu'r uchod, ceisiwn hefyd sicrhau amodau ffafriol i ffyniant y cymunedau Cymraeg".

Byddai gwireddu'r cynllun yna heb fynd 'nôl ac edrych ar y sylwadau sydd yn y ddogfen yna - a beth yw blaenoriaethau polisiau'r Cynulliad - wedi bod yn ffolineb llwyr.

Ymgasglodd pawb y tu allan i'r Llyfrgell Genedlaethol (sumbol o ddyheadau'r genedl ar ddechrau'r ganrif, a lle mae nifer o'n haelodau mwyaf brwdfrydig yn gweithio) i alw am ddeddf a fyddai'n gwireddu ein dyheadau yn y ganrif newydd hon.

Gyda gwireddu hyn, medrodd y mudiad yma a sefydlwyd ac a ddatblygwyd gan Gyngor Gwlad Gwynedd ddechrau gweithredu'n annibynnol.

Am fod mesur y llywodraeth yn dymuno ehangu'r diffiniad o 'derfysgwr' i gynnwys mudiadau ac unigolion sy'n bygwth difrod difrifol yn erbyn eiddo er mwyn gwireddu amcanion gwleidyddol, crefyddol neu ideolegol.

Daeth i mewn â llygredigaeth a meidroldeb i amgylchedd dyn; ond golygai hefyd i'r union offeryn a allai arwain y cyfanfyd i gyrraedd ei gyflawnder a gwireddu ei botensial dwyfol, i'r offeryn hwnnw, dyn, fradychu ymddiriedaeth Duw gan fethu â chyflawni ei wasanaeth offeiriadol ar ran y byd.

Cyn gwireddu'r cynllun bydd raid cael sêl bendith y Gymdeithas Bêl-droed, Yr Heddlu a'r cefnogwyr.