Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwirfoddol

gwirfoddol

Cyhoeddodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ddatganiadau ar y Ddeddf Elusennau, Y Ddeddf Iaith a'r loteri genedlaethol arfaethedig.

Mae llawer o weithgarwch gwirfoddol yn mynd ymlaen yn y Swyddfa hefyd.

A chorff gwirfoddol wedi ei recriwtio o blith y meistri tir a'r clerigwyr oedd hwn.

Ymhlith y diddordebau eraill a nodwyd roedd cerdded, gwau/ gwnio, cerddoriaeth, nofio (pob un o'r rhain yn cael eu henwi sawl gwaith), pysgota, ysgrifennu, eisteddfota, ffotograffiaeth, magu plant, gwylio adar, beicio, gwaith gwirfoddol ac arlunio.

Yr wyf yn aelod gwirfoddol o'r New South Wales State Emergency Service yn y Blue Mountains.

c) mai realiti'r sefyllfa yw fod cyrff o fewn y tair sector (cyhoeddus preifat a gwirfoddol) yn gweithredu fel taw Saesneg yw iaith swyddogol y wladwriaeth, ac yn amlach na pheidio unig iaith swyddogol y wladwriaeth hefyd.

* adrannau gwasanaethau cymdeithasol sy'n darparu lleoedd statudol ar gyfer plant mewn angen mewn canolfannau dydd neu ganolfannau teulu neu mewn ysgolion gwirfoddol;

Yn gyntaf, trwy gynnull mudiadau gwirfoddol ar raddfa rhanbarth.

Er nad ein cyfrifoldeb ni oedd hyn,bu inni anfon rhestr o'r mudiadau gwirfoddol hynny ddylai gael pleidleisio yn yr etholiad yma i sylw'r Swyddfa Gymreig.

Mae'r anghenion a'r oedrannau yma wedyn, wrth gwrs, i'w cael yn yr holl amrywiaethau ieithyddol-addysgol sydd yng Nghymru ac mae plant ag anghenion addysgol arbennig yn derbyn gwasanaethau ar draws y sectorau: iechyd, cymdeithasol, addysg, gwirfoddol, preifat.

I ffurfio Cynllun Addysg Cymunedol -- mewn trafodaeth a phawb yn y Sir, i ddamgos sut y gall pob ysgol, coleg a mudiad gwirfoddol gydweithio â'i gilydd.

I ddechrau, rheolwyd y Gymdeithas yn uniongyrchol gan Bwyllgor Rheoli gwirfoddol, yr oedd llawer o'i aelodau hefyd ar Bwyllgor Cymdeithas Tai Gwynedd.

Mae cyfraniad y sector gwirfoddol o ran darparu gwasanaethu i'r cyhoedd wedi dod yn gynyddol bwysig, yn enwedig y gwasanaethau gofal a chynghori.

a) cynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol ynddi fel cydnabyddiaeth o'r trawsnewid sydd wedi digwydd wrth ystyried darparwyr gwasanaethau a fu'n draddodiadol o fewn y sector gyhoeddus, twf cyffredinol y sector breifat ac edwiniad cymharol y sector gyhoeddus, a mentrau ar y cyd rhwng sectorau.

Ac er mwyn i'r Gymraeg ddod fwyfwy'n rhan naturiol o fywyd yng Nghymru, mae angen iddi fodoli fel iaith sy'n cael ei defnyddio'n gyson gan bobl yn eu bywyd beunyddiol: mewn gwaith a hamdden, yn ogystal ag wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus, gwirfoddol neu breifat.

Holwyd mudiadau gwirfoddol eraill i sefydlu pa rai o'u plith oedd yn rhoi benthyg cadeiriau olwyn.

Ag yntau wedi'i ailenwi i adlewyrchu ei le hanfodol ym mywyd cerddorol Cymru a'i berthynas glòs â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, mae'r Corws yn cynnwys 160 o gantorion gwirfoddol o bob lliw a llun.

Mae'r cynnydd yn statws yr iaith yn arwain at gynnydd mewn defnyddio'r Gymraeg yn y sectorau gwirfoddol a phreifat hefyd wrth i gyrff a chwmnïau sydd â chysylltiad â'r cyhoedd yng Nghymru fynd ati i ddatblygu eu gwasanaeth Cymraeg i'w cwsmeriaid.

Rhoddir pwyslais ar bartneriaeth rhwng yr holl gyrff (ysgolion, AALl, awdurdodau iechyd dosbarth, adrannau gwasanaethau cymdeithasol, cyrff gwirfoddol ac, wrth gwrs, rhieni).

Yn olaf drwy cydlynu grwpiau gwirfoddol eraill mewn prosiectau a reolir gennym ni e.e.

* Cyngor Cyllido Addysg Bellach sy'n darparu cyrsiau mewn colegau chweched dosbarth, colegau trydyddol a cholegau addysg bellach; darparu cymorth i sefydliadau addysg gymunedol gan gynnwys Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA) ac i gyrff gwirfoddol addysg a gwaith ieuenctid gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifainc;

Wedyn dyna J. Elones yn ei ddilyn gan gefnu ar swydd dda a diogel fel athro yn Llundain am swydd, ansicr yr adeg honno, fel Ysgrifennydd a Threfnydd y Blaid a'i gyflog yn dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol.

Er mwyn hybu democratiaeth gynrychioladol rhaid i'r Cynulliad sicrhau ffyrdd o gynnal deialog real a pharhaus gyda mudiadau pwyso sydd am lobio aelodau'r Cynulliad a gyda'r sector gwirfoddol.

* cyrff gwirfoddol sy'n darparu lleoedd gwirfoddol mewn grwpiau chwarae a meithrinfeydd dydd, megis rhai'r MYM, PPA, National Children's Homes, Barnardo's a'r eglwysi;

Bu cryn drafod ar y mater hwn yn ystod cyfnod y Mesur yn y Pwyllgor Dethol yn San Steffan, a mynegwyd cryn anniddigrwydd gyda'r canllawiau gwirfoddol hyn.

Ein dadl syml yw y dylai'r Cynulliad wneud popeth o fewn ei allu i gydlynu a symbylu a gweithredu'r fath strategaeth. Petai'r Cynulliad yn rhoi neges glir a phendant o'r dechrau ei fod yn gorff sy'n gosod pwyslais creiddiol ar y Gymraeg byddai hynny yn sicr o gael effaith gadarnhaol eang ar bob math o gyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Mae'r adroddiad yn cydnabod gwerth a nerth cyfraniad y mudiadau gwirfoddol ac asiantaethau eraill i'r maes ac mae ynddo gynigion cadarn ar gyfer datblygu a gwella'r ddarpariaeth drwyddi.

Wrth baratoi Cynllun Gofal Cymdeithasol y Cyngor Sir ceisiwyd sicrhau bod dymuniadau'r grwpiau gwirfoddol a defnyddwyr yn cael sylw.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod eithrio'r sectorau preifat a gwirfoddol o'r ddeddf yn arwydd clir nad yw'r ddeddf o ddifrif yn ceisio cyfiawnder cymdeithasol ieithyddol yng Nghymru.

cydweithio gyda chyrff cynrychiadol yn y sector gwirfoddol er mwyn hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg gan y sector.

Bu i ni drefnu Cystadleuaeth Antur Bro a noddwyd gan Shell Prydain; roedd hwn yn gyfle i bob math o grwpiau gwirfoddol ddangos ymdrech a llwyddiant.

Yr oedd y feirniadaeth yn gywir: ychydig iawn o wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio a gawsid gan y cynghorau, ac yr oedd yn hawdd i'r awdurdodau ateb pob protest gan gorff gwirfoddol drwy ddweud nad oedd gwrthwynebiad oddi wrth gynrychiolwyr etholedig y bobl.

Yn achos canolfannau gofal plant bach, y mae pob asiant gwirfoddol a phreifat yn gorfod cael ei gofrestru gan yr adran gwasanaethau cymdeithasol (SSD), felly gellid ystyried mai dyna'r corff cyhoeddus a ddylai yn y pendraw fod yn gyfrifol am bob sefydliad addysgol yn y cyfnod cyn-statudol?

* byrddau rheoli ysgolion unigol sy'n darparu lloedd mewn ysgolion cynaledig, ysgolion cynaledig dan gymorth gwirfoddol ac mewn ysgolion annibynnol, ac sy'n darparu profiadau addysgol yn uniongyrchol;

Deddf Iaith a fydd yn cynnwys y sector preifat a gwirfoddol yn ogystal â'r sector cyhoeddus ac yn sefydlu'r egwyddor o'r hawl i wasanaeth Cymraeg waeth pwy yw'r darparwyr. Erbyn hyn mae'r sector cyhoeddus wedi crebachu a darperir mwy a mwy o wasanaethau gan fudiadau gwirfoddol neu gwmnïau masnachol.

Byddai'r DAA yn ystyried barn pobl proffesiynol (seicolegydd addysg, gweithiwr cymdeithasol, meddyg ac yn y blaen), asiantaethau eraill (er enghraifft, gweithwyr y sector gwirfoddol megis staff cylchoedd meithrin, swyddogion addysg RNIB ac yn y blaen), ynghyd â rhieni wrth ddisgrifio angen y plentyn a chynllunio ar gyfer ateb yr angen hwnnw oddi fewn i'r gwasanaethau addysgol.

Byddwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau gwirfoddol eraill e.e.

Dylai'r Cynulliad sicrhau lle ac adnoddau cefnogol i grwpiau lobïo a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Byddai'r fforymau yma yn cynnwys cynrychiolaeth eang ac amrywiol o'r sector statudol, gwirfoddol ac o'r gymuned er mwyn sicrhau deialog deinamig rhwng aelodau'r Cynulliad â phobl cymunedau Cymru yn ôl eu profiad o ddydd i ddydd yng Nghymru.