Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwirion

gwirion

Wedi dod o hyd i'w phwrs, bydda Bigw yn cael gafael ar yr arian ac yn gwthio rhywbeth gwirion fel punt, neu bumpunt weithiau, i'n dwylo.

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Peth gwirion fyddai iddynt fod yn rhy agos i'w gilydd, ond roedd yn bwysig peidio ƒ mynd yn rhy bell chwaith, rhag ofn i rywbeth fynd o'i le.

Bydd y rhaglenni hefyd yn rhoi sylw i rai o'r ymdrechion codi arian gwirion a gwahanol sy'n digwydd ar hyd a lled Cymru ac yn rhoi hanes yr unigolion a'r mudiadau a dderbyniodd arian gan Blant Mewn Angen y llynedd.

Rhan arall y bu Reeves yn ddigon gwirion i'w throi i lawr oedd un James Bond.

Gwallgo gwyllt a gwirion bost wrth gwrs.

Ar y llaw arall, os ydych chi'n credu yng ngwyrth creu'r byd, yn credu bod Duw wedi rhoi ei unig blentyn yn rhodd i geisio achub dynoliaeth, a chredu bod y Nadolig, boed y dyddiad yn gywir ai peidio, yn gyfnod o glymu hyn, a'r byd a'i bethau yn glosiach at ei gilydd, yna nid peth gwirion ydi meddwl bod gan pawb a phopeth ar wyneb y ddaear ran yn yr ŵyl.

Finna'r adeg honno'n ddigon gwirion i goelio dy lol di, Morys, ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen Ifan 'na'n dwad o grombil ei fol.

Dydw i ddim yn medru nofio - dim ond padlo buo Lisi a fi - ond mi oedd Defi John a Jim fel petha' gwirion, ishio gweld pwy fedra nofio bella o'r lan.

Ceisiwch chi egluror gwahaniaeth rhwng guidlines a guidance achos does yna ddim mwy nag oes yna rhwng Rules a Regulations er y bun rhaid i ni fathur gair gwirion rheoliadau er mwyn inni fedru dweud, Rheolau a Rheoliadau fel y Saeson.

A phaid ti â hel hen syniadau gwirion am ddianc neu mi fydda i'n dy gladdu di yn y twll yna yn lle'r sach.

Ie, rhyw hen fusnes gwirion oedd y cyfan.

Roedden ni wedi dechrau amau Twm Dafis, ydych chi'n gweld, rhwng y rhybudd gwirion roddodd o inni gadw o'r ynys, a'r bechgyn yn ei weld yn dod o gyfeiriad y traeth ben bore, ac Olwen wedyn yn ei weld yn mynd a'r sachaid bwyd o un o gytiau Cri'r Wylan .

Pa gefndir s'gin y cythra'l gwirion yntê?

Williams Parry, ni allwn dros ein crogi fabwysiadu'r fath ddisgrifiad difriol gwirion.

Ond pa iws dymuno pethe gwirion.

Sôn am feddwl gwirion, - ond roedd fy nghylla druan yn gwingo o eisiau rhywbeth cynnes a blasus i'w lenwi.

Mae gan bawb rhyw Anti Lora na fedar hi ddim gwneud pethau yr unf ath ag y mae nhw yn cael eu gwneud gartre þ un sâl am wneud bwyd ond yn ddigon parod i hen gusanu gwirion pan fydd rhywun yn mynd i'r tþ.

Mor gysurus a gwirion â'r chwedl fod mam wedi dod o hyd i mi dan y llwyn gwsberis.

Er mai gwirion iawn fyddai dadlau nad oes yna unrhyw berygl yn deillio o'r defnydd a wneir o'r fath belydriad, dylid tanlinellu'r ffaith fod yna ochr arall i'r stori.

Neithiwr ac echnos, mi godis i i'r ffenast, a gweld rhai meddw'n baglu ar hyd y stryd, ac yn canu fel petha' gwirion.

Unwaith, mi wnes i beth gwirion trwy fynd allan, gydag eraill, i glwb nos.

Yn y fath sefyllfa roedd Joni a Sandra fel dau o bethau gwirion, yn neidio ac yn prancio, yn chwifio'u breichiau ac yn gwneud ystumiau o bob math.

'Sut ydych chi yn beiddio gwadu fi!' Erbyn hyn roedd y chwilen dew yn dawnsio'n wyllt yn ei chynddaredd, yn siglo o ochr i ochr dan wthio'i habdomen yn erbyn tarian ei hadenydd i greu sþn suo gwirion.

Yr ydyn ni i gyd wedi gwneud pethau gwirion pan yn ifanc ond yn wahanol i Mr Hague yn sylweddoli gorau po leiaf ddywedwn amdanyn nhw wedi inni gallio rhywfaint.

Cyn bo hir fe ddaeth estroniaid fel William, Richmael Crompton i dreio rhoi ei gardia i Nedw a'i yrru o i ebargofiant, ond yr oedd hwnnw yn ormod o rwdlyn ac yn rhy hoff o wneud pethau gwirion i ddi-sodli Nedw byth.

Fodd bynnag, braf gweld nad y Gymraeg yw'r unig iaith syn cael trafferth dygymod ar arfer Saesneg gwirion o gael dau air am yr un peth.

Rhedeg o gwmpas yn wyllt fel pethau gwirion yr oedd y ddau arall.

Roedd gan Arthur gleddyf erstalwm ond mi fu mor blincin gwirion ag ordro hwnnw i gael ei daflu i mewn i ryw lyn.

'Dwy'i ddim yn meddwl y bydde Neville Chamberlain yn dweud peth felna os nag oedd e'n 'i feddwl e." "Ba!" meddai ei wraig, "hen ffŵl gwirion yw e!" "Beti!" "Wel, pam mae e'n credu'r Adolf Hitler 'na te?

Er mod i wedi gwneud llond Chevette glas o'r enw Fflem o bethau gwallgo, pentwr go fawr o bethau gwyllt a llond casgen o bethau gwirion, a phob tro mae rhain yn cyfuno i fod yn wallgo gwyllt a gwirion bost elli di fentro bod Branwen ac Angharad nepell i ffwrdd; er mod i wedi gneud tomen o betha gwirion, y gwir ydi, a dwi yn meddwl hyn o ddifri, dwi ddim yn credu mod i'n difaru gwneud dim erioed.

Beth ar y ddaear all fod mor bwysig am hen gonsuriwr gwirion a'i was bach?