Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwirioneddol

gwirioneddol

Clywsom jôcs gwirioneddol ddoniol am ei yrfa yn Llanrwst yn y stôr ac fel saer - 'roedd o'n fwrddrwg go iawn!'

Oedd yna heddwch gwirioneddol yn y wlad?

Mae hon yn foment dyngedfennol sy'n dangos yn glir bellach mai twyll oedd datganoli i hwyluso gweinyddu polisiau Llundain yng Nghymru, yn hytrach na chymryd y cam cyntaf tuag at ffurfio polisiau datganoledig gwirioneddol Gymreig.

Sylfeini, meddai, na welwyd nemor ehangu... nac adeiladu gwirioneddol arnynt hyd yr ugeinfed ganrif.

O wybod am drywydd barddoniaeth ddiweddarach Peate, mae gwirioneddol berygl inni gael ein llygad-dynnu'n ormodol gan ddiwinyddiaeth led-fodernaidd y darn.

Eithr nid myth mohono i'r dyneiddwyr, ond hanes gwirioneddol, fel y gwelir o edrych ar waith y pennaf o haneswyr Cymreig y cyfnod, Humphrey Llwyd.

Dydi trafod pam y mae eich tad wedi cysgu efo cariad eich chwaer neu eich mam wedi rhedeg i ffwrdd efo cariad gwraig y dyn drws nesaf yn cyfrannu yr un iod at ansawdd bywyd neb nac yn help o gwbwl i leddfu arteithiau gwirioneddol ymwneud personol rhai pobl ai gilydd.

Byddai canlyniadau'r arolwg yn werthfawr er cryfhau polisi%au tai y cynllun lleol newydd a gosod sylfaen ar gyfer strategaeth tai y Cyngor drwy ddatgelu gwybodaeth ynglŷn â'r cymunedau hynny lle 'roedd angen gwirioneddol yn bodoli ar gyfer tai rhesymol eu pris.

Mewn arolwg diweddar a wnaed o'r pwnc cododd Martin a Flemming y cwestiwn 'A yw eu darganfyddiadau yn rhoi hawl gwirioneddol i archaeolegwyr tanfor eu galw eu hunain yn archaeolegwyr?' Er mwyn ateb y sialens hon yn effeithiol rhaid pwyso a mesur y dulliau a ddefnyddir heddiw mewn archaeoleg môr yn ôl y meini prawf a dderbynnir gan archaeolegwyr modern, a hefyd yn

Y mae'n gweld Arthur, a chaniatau ei fod yn berson gwirioneddol, yn fwy o ffigur Celtig na Rhufeinig, yn debycach i Finn yn nhraddodiad Iwerddon nag i'r Comes Britanniarum.

Ie; roedd y rhyddfrydwyr diwinyddol yma yn mynd i'w gilydd pan gyfodid cwestiynau gwirioneddol radicalaidd a bygythiol i sylfeini'r Ffydd.

A chyda threiglad y blynyddoedd, onid oes posiblrwydd gwirioneddol inni ein cael ein hunain mewn cymdeithas a fydd yn gweld hyn fel ffordd i gael gwared â hen bobl sâl?

Rydan ni mewn perygl, perygl gwirioneddol.

Rhaid inni barhau i fynnu newidiadau radical a gwirioneddol er lles y Gymraeg a'n cymunedau.

Brwydr gymdeithasol a gwleidyddol oedd y Rhyfel Degwm, a chynigiai bwnc gwirioneddol rymus i nofelydd Cymraeg fynd i'r afael ag ef.

Mae rheolwyr un ysbyty yn awr am godi cwestiynau ynglyn â'u trefn ddiogelwch ar ôl i'r newyddiadurwraig gyrraedd y ward heb i neb of yn dim; yn y ddau achos arall, fe gafodd y gohebwyr eu holi ond of ynnodd neb am brawf gwirioneddol o bwy oedden nhw na pham yr oedden nhw yno.

Mae yr awdur y tro hwn wedi creu stori ddarllenadwy a chwithau'n gwirioneddol eisiau gwybod beth sy'n mynd i ddod nesaf.

Bu dau gynnig brys: un yn datgan pryder y Gymdeithas ynglyn â phapur gwyrdd y Llywodraeth ar ddarlledu digidol, sy'n fygythiad gwirioneddol i S4C; a'r ail yn condemio'r BBC am eu newidiadau diweddar i Radio Cymru sydd wedi troi'r orsaf yn wasanaeth o raglenni Saesneg wedi eu cyfieithu.

Chwyldro, llam anferth i'r oes ddigidol, diwrnod gwirioneddol hanesyddol, ansawdd gwell, amrywiaeth ehangach o opsiynau... dyma'r geiriau allweddol a ddefnyddiwyd i lansio BBC CHOICE Wales ar Fedi 23, 1998.

Ers marwolaeth Diana bu rhyw fath o râs ymataliol ac maen debyg mair lluniau dros o Sul ydoedd y gwyro gwirioneddol cyntaf oddi wrth hynny - a hynny dan sêl bendith y Frenhiniaeth ei hun a oedd yn siwr o fod yn ymlawenhau yn yr holl sylw canmoliaethus.

Gyda'r rhai gwirioneddol anobeithiol o dwp yn gwrando arnyn nhw.

Yr oedd wyneb Dei yn welw erbyn hyn a'i awydd i ymuno â'r criw wedi ei dymheru gan bryder gwirioneddol.

Wrth sôocirc;n am yr orchest ddiweddaraf hon i gynnyrch animeiddiedig S4C, dywedodd Cyfarwyddwr Animeiddio'r sianel, Chris Grace, oedd hefyd yn Gynhyrchydd Gweithredol ar y gyfres, "Mae'r gamp o ennill yr Emmys hyn yn rhoi boddhad dwbl, gan eu bod nhw'n cydnabod y dalent sydd yng Nghymru a swyddogaeth alluogi S4C yn dod â'r cyd-gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac arloesol hwn at ei gilydd.

Dylai'r Cynulliad weithredu mewn ffordd wrth-orthrymol fyddai'n sicrhau cyfle cyfartal gwirioneddol i bawb gymryd rhan yn y Cynulliad.

Tîm A Canada yw'r anodda ar y daith - roedden nhw yn dîm A gwirioneddol, 11 ohonyn nhw wedi ennill capiau a phob un yn agos i'r tîm cyntaf.

'Gwranda! Dwyt ti ddim yn deall. Rydan ni mewn perygl, perygl gwirioneddol."

Ychydig gyfle a gawn yng Nghymru heddiw i gael golwg ar wyddau gwirioneddol wyllt.

Eryrod, cathod gwylltion a llwynogod yw eu gelynion naturiol hwy yn yr Alban ac os bydd y gelynion hyn yn fygythiad gwirioneddol mewn cylch arbennig, ymfuda'r ysgyfarnogod i ddiogelwch rhyw gylch arall.

Yn ôl Syr Paul Condon mae'r broblem yn aros, ac mae'n fygythiad gwirioneddol i'r gêm.

Credai y dylid gorseddu gobaith mewn emynau, er mwyn eu gwneud yn llais gwirioneddol i brofiad eu hoes: Y mae yr Eglwys Gymreig heddyw yn byw yn helaeth ar emynyddiaeth y gorphenol.

I mi roedd rhywbeth gwirioneddol naturiol am gerdded o fyd y siopau, stondinau y gluewein ar castanau a cherdded i mewn i eglwys ymysg cannoedd i wrando ar gôr yn canu carolau.

'Roedd holl ddelwedd Kennedy'n seiliedig ar nerth ac atyniad ieuenctid ond y gwir yw ei fod yn dioddef o afiechyd gwirioneddol ddifrifol, sef clefyd Addison.

Mae gobaith gwirioneddol gan Leeds o gyrraedd rownd gyn-derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Dynas sy'n medru gwirioneddol ddeud fod y Milky Bars YNDDI

Roedd hyn yn llawer llai poenus i'r coesau a phawb yn mynd yn gyflymach - i fyny ac i lawr dros y 'maguls', aros yn llai aml a gwirioneddol fwynhau'r profiad nes ein bod yn teimlo ar ben y byd - yn gorfforol a llythrennol.

Yr oedd nifer yn eu plith yng nghylch Northampton a ymawyddai am ddymchwelyd y drefn esgobyddol ac yr oedd perygl gwirioneddol i'r hyn a fu hyd yma'n anghydweld y tu mewn i gorlan yr Eglwys droi'n rhwyg a yrrai rai i ymneilltuo ohoni.

Yn ogystal â meibion a merched ffermydd, ymunodd nifer o weision hefyd, rhai ohonynt yn aelodau gwirioneddol werthfawr.

'Yn y cyfwng hwn y daeth swyddogion y BBC ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol.