Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwisg

gwisg

Cyntaf neu beidio, TG4, ers ei sefydlu yn 1996, sydd wedi llwyddo i roi gwisg newydd - siaced ledr neu grys-t - ar ysgwyddau'r iaith.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Tra oedd y beirdd yn breuddwydio am gnawd a 'thrwsiad glana'r oesoedd' 'roedd y merched protestgar yn gwisgo gwisg wahanol iawn.

Gwelsom chwiorydd yn cerdded law yn llaw - un mewn gwisg ddu o'i chorun i'w sawdl a'r llall mewn Levi's.

O ganlyniad, roedd sicrhau gwisg Gymreig i'r ddwy chwedl hyn, o bosibl i gomisiwn Hopcyn ap Tomas, noddwr dylanwadol o Gwm Tawe, yn fodd i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg waith na ellir ond ei ddisgrifio fel un o bestsellers yr oesoedd canol.

Does dim safonau gwisg, 'does dim rhaid siarad Cymraeg, 'does dim rheol oedran, dim agenda wleidyddol gudd, ac felly dim problemau.

Cawsom wybod mai rhaglenni hanner awr fyddai'n rhaid eu perfformio ar lwyfannau ar hyd a lled yr ynys a golygai hyn drefnu gofalus i geiso arddangos ein traddodiad ar ei orau o ran safon y dawnsio, cerddoriaeth a gwisg.

O'i chyferbynu ag eiddo ei gūr, syml a phlaen oedd gwisg lwyd Lowri Vaughan, sylwodd Meg gyda pheth malais, a dygwyd pob mymryn o liw o'i hwyneb main a hir gan y ffisiw brown a fradychai yn hytrach na chuddio teneurwydd ei bronnau.

Yna, mewn eiliadau, fe fydden ni'n gallu gweld golau egwan ei lantern a chlywed sŵn siffrwd ei gwisg laes ar y palmant ac oglau fel arogldarth Capel Pab yn gymysg â pheli gwyfyn fy nain.

Hen stori felly mewn gwisg newydd a hynny ar bwnc addas i bobl ifanc heddiw.

Caed Disco Gwisg Ffansi yno i gyfarch y Flwyddyn Newydd.

Ar adegau eraill, rhoddir pin a ddefnyddiwyd i wneud gwisg briodas drwy enwau'r ceffylau fydd yn rhedeg mewn ras.

Cymry, nid ymwelwyr o'r Cyfandir wedi newid eu gwisg, yw'r cymeriadau.

Rwy'n cofio diwrnod y te parti yn yr ysgol fod hi wedi ei gwisgo mewn gwisg wen, a roedd yn ferch landeg hefyd, a roedd yn eistedd wrth ryw fwrdd bach ac yn rhoi oren ac afal yn llaw bob plentyn a'r genethod yn rhoi "curtsie% iddi a'r bechgyn yn salwtio.

Rhedai i fyny'r bonciau ar ôl yr hogiau a lluchio'i chorff ar y gwellt nes bod cwmpas ei gwisg laes yn un llanast wrth ei thraed.

Gallech hyd yn oed drefnu penwythnos o wyliau, gwisg newydd, neu bryd o fwyd yn eich hoff dŷ bwyta fel eich gwobr derfynol.

Fe welson ni chwiorydd yn cerdded law yn llaw - un mewn gwisg ddu o'i chorun i'w sawdl a'r llall mewn Levis glas.

Rhag ofn i chi fynd i guddio y tu ôl i'r soffa a chymryd arnoch bod yna neb adre, fe fyddai'n werth cofio eich bod chi'r un mor debygol o ganfor menyw dal, ffasiynol ei gwisg, â chrop o wallt gwyn, yn sefyll ar y rhiniog â chriw o Dystion Jehovah.

Yn un peth yr oedd wedi ei wisgo, nid fel esgob, ond fel offeiriad cyffredin, a hynny mewn oes pan oedd manylion gwisg yn bwysig.

Gyda'i gwallt melyn, trefnus, ei gwisg o siwt las tywyll a'r 'brooch' ac yna ffrog las ysgafnach, y briefcase.

* Gwisg

Ar ôl blynyddoedd o ymdrin â bwganod, mae'r arswyd hyfryd o allu cysylltu ag ysbrydion yn f'atgoffa bob amser o sŵn frou-frou gwisg sidan Miss Jones Bach a'r oglau arogldarth yn gymysg â pheli gwyfyn.

Y mae'r Eglwys Gristionogol ym mhob cyfnod yn talu pris uchel am golli cysylltiad â'r werin ac yn arbennig felly pan fo gofynion parchusrwydd yn peri condemnio gweithwyr eiddgar yn unig am nad ydynt yn cydymffurfio mewn iaith, ymddygiad a gwisg â'n safonau artiffisial ni.

Hynny yw, yn un mewn gwisg goch swyddogol â barf.