Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwisgai

gwisgai

Gwisgai'r lleianod wisgoedd claerwyn ac ar eu pennau yr oedd cyflau duon.

Pan fyddai allan gyda'r nos, neu yng Nghaernarfon ar y Sadwrn, gwisgai het a honno wedi ei haddurno â phlu amryliw- -coch y bonddu, petrisen corff gwin, ac amryw eraill.

Gwisgai lifrai llwydwyrdd, ac yng ngolwg y plant edrychai yn bwysig iawn.

Gwisgai het silc ddu pan fyddai'n mynd at ei waith yn nhai a ffermdai'r ardal.

Gwisgai arfwisg arianwen a thrwy'r hollt ym miswrn ei helmed uichel, llosgai pâr o lygaid oren.

Gwisgai'r aelodau ysnodenni lliw yn dynodi eu gwahanol urddau, '...' .

Yn lle ei siwt gragen amlbwrpas, gwisgai rywfath o grysbas lledr cryf a llodrau gwlanen pigog.

Ymddangosai yn fachgen eithaf cymedrol, a gwisgai sbectol â gwawr las i'r gwydrau.

Gwisgai drowsus llwyd a siaced lwydlas, crys gwyn a thei las.

Gwisgai drywsus ac anorac ddu - dillad oedd yn sgleinio fel y moto beic a safai ar ei stand yng nghanol y garej fel anghenfil mawr yn barod i lamu i'r nos.

Gwisgai'r briodferch wisg laes wedi ei hardduno a les a pherlau, roedd ei phenwisg o flodau lliw gwyn ac eirin gwlannog, ac roedd yn cario torch o flodau amrywiol ac eirin gwlanog.

Roedd ganddo fwstas melyngoch, llygaid gleision a gwisgai sbectol gwasgu-trwyn.

Roedd cadwen felen fel aur am ei wddw a thros ei siaced ddenim gwisgai ei siaced ddu, y siaced a wisgai bob amser i fynd ar y Lambretta.

Hefyd gwisgai ambell fochyn fwclis o'r fath pan oedd yn cael ei besgi ar gyfer ei ladd.

Gwisgai drowsus glas golau ac edrychent yn dda arni.