Ac yr oeddent yn ffieiddio'r defodau a'r gwisgoedd a'r addurniadau eglwysig anysgrythurol a gyfrifent yn olion Pabyddiaeth.
Ac nid dim ond y cefndir a'r celfi sy'n dod i ran y cynllunydd i'w dyfeisio, ond y gwisgoedd hefyd; technegydd yn gweithio i ganllawiau'r cynllunydd ydi meistres y gwisgoedd.
'Roedd y set mewn darnau - pot o flodau melyn; desg ysgol a chadair; mainc, overalls a manion eraill; côt-ddaliwr efo gwisgoedd; a basgiad fawr a dwy gadair.
Bydd hynafgwyr balch a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd yn eu gwisgoedd Cenedlaethol a'u bronnau wedi eu haddurno â rhesi o fedalau.
Ystyr hyn i gyd oedd ei fod yn brotestant pur radical ac yn gogwyddo, y mae'n amlwg, at farn diwygwyr y Swistir, Zwingli a Chalfin, mewn materion ynglyn â gwisgoedd eglwysig a defodau.
Math o gobannau ychwanegol ydi'r gwisgoedd hyn oherwydd bod cymaint o wynt a glaw yn chwythu rhwng y cerrig mawrion.
Ond ni fyddai perfformiad o'r fath safon yn bosib heb lafur ymroddedig ymlaen llaw gan yr athrawon eraill, a chymorth y mamau dawnus oedd wedi addurno'r llwyfan a'r neuadd yn gelfydd a gwneud llawer o'r gwisgoedd tlysion.
Mae rhai o'u harfau'r un fath, ac ychydig y mae eu gwisgoedd tlotaidd yn eu bradychu ynglŷn â'u teyrngarwch.
Ond ar y diwrnod ei hun bydd yr ysgolion a'r siopau yn cau ac am unarddeg y bore bydd y plant yn gorymdeithio drwy'r stryd fawr yn eu gwisgoedd swyddogol.
Ac wrth bregethu twymodd iddi ac ymosod yn hallt ar bethau fel gwisgoedd defodol, yr offeren, a llawer o'r arferion eglwysig.
A phasiwyd deddf yr un pryd yn gwahardd pobl Iwerddon rhag defnyddio Gwyddeleg a gwisgo gwisgoedd Gwyddelig.