Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwladgarol

gwladgarol

Mae'n terfynu'r traethawd drwy son am Geiriog fel bardd gwladgarol: 'yr oedd yn nofio ar donau y llanw gwladgarol sydd yn cryfhau yng Nghymru bob dydd.'

Gosodwyd y cerrig sylfaen gan Master Lloyd Mainwaring, Bwlchybeudy, a Mr ET John, aelod seneddol tros Ddwyrain Dinbych, a oedd hefyd yn Gymro gwladgarol, ac yn siarad yr iaith.

Tegla Davies yn adnabyddus i bob Cymro llengar a gwladgarol.

Teimla'r bardd angerdd mawr tuag at gymeriadau gwladgarol fel y dengys y cerddi i Michael Collins ac Elfed Lewis.

Yn ogystal â bod yn achlysur crefyddol y mae iddo hefyd ei arwyddocad gwladgarol.

Cysylltwch a chyfeillion trwy anfon e-gerdyn gwladgarol.

Y diwrnod cyn yr wyl, bydd pob ysgol led-led y wlad yn cynnal cyngerdd i ddathlu; gan amlaf gyda pherfformiadau dramatig gwladgarol, darlleniadau arwyddocaol, canu ac adrodd darnau o farddoniaeth.

Ar ôl ymddangosiad y Llyfrau Gleision, polareiddiwyd y ddadl, ac er bod nifer o offeiriaid yn Gymry gwladgarol, a rhai ymdrechion dilys ar droed gan yr Eglwys er ceisio gwasanaethu'r Cymry yn yr ardal ddiwydiannol, yr oedd offeiriadaeth Eglwys Loegr fel corff wedi colli pob cydymdeimlad gan yr Ymneilltuwyr.