Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwladwriaeth

gwladwriaeth

Polisi bwriadus gwladwriaeth wrth-Gymraeg a chwalodd iaith a diwylliant Cymru mewn cymaint o'r wlad.

Dim ond yn hwyr y cyrhaeddodd dylanwad yr Oleuedigaeth a'r ymgais i greu gwladwriaeth fodern ar linellau Ewropeaidd.

Arweinydd milwrol, bid sicr, a phennaeth ar fintai o ymladdwyr symudol a gwibiog, ond nid cadfridog yn gwasanaethu gwladwriaeth sefydlog a threfnus; yn hytrach, anturiwr, treisiwr, ysbeiliwr, yn ymladd nid yn unig yn erbyn y Saeson ond hefyd yn erbyn ei gyd-Frythoniaid.

Cafodd y prif ddiwydiannau eu gwladoli, roedd perthynas glØs rhwng y wladwriaeth a'r undebau llafur, a chrewyd gwladwriaeth les enfawr.

Hynny yw, amod cyntaf parhad bywyd cenedl yw bod ganddi ei gwladwriaeth ei hun i'w gwasanaethu.

Crynhoir arwyddocâd y plasty fel ffynhonnell pob gwareiddiad a'r pencenedl fel cynghorwr ac arweinydd doeth yng ngeiriau'r un bardd: 'pennaeth y gwladwriaeth da; pencenedl ...

Jones, fe grewyd ...rhwydwaith mawr o gwynion yn erbyn eglwys a landlord a gwladwriaeth, a theimlai'r werin mai teulu'r tarddu o'r un gwreiddyn oedd y tri ac mai eu cynnal eu hunain yn erbyn llafurwr neu amaethwr oedd swydd waelodol y tri.

Ond datgymalwyd yr hen ymerodraeth ac etholwyd Masaryk yn Arlywydd gwladwriaeth newydd

Ond fe ddylsai gwladwriaeth gyfoethog gyda rhyw 59 miliwn o boblogaeth wneud yn well na bod un safle yn is na Cuba ac un safle uwchben Romania yn nhabl y medalau.

Roedd y bobl fu'n brwydro dros gael eu gwladwriaeth eu hunain yn methu â chael blancedi hyd yn oed.

Hwn yw'r cyfansoddiad a orfodwyd ar Orllewin yr Almaen ar ddiwedd yr ail Ryfel Byd er mwyn sicrhau na cheid yno ddim eto weld gwladwriaeth gref, gor-ganolog ac unbenaethol.

Cais syml i benderfynu sylfeini ydoedd, ac ni synnai "A.E" pe byddai "cenhedloedd penllwyd gan ddoethineb wleidyddol" yn dirmygu'r ymgais i "sefydlu meddwl gwleidyddol gan genedl hunan- lywodraethol newydd, neu ddamcaniaethau am wareiddiad yn cael eu trin o gwmpas crud Gwladwriaeth yn ei babandod".

Yn yr ugeinfed ganrif, fodd bynnag, os nad yw gwladwriaeth wrth gefn cenedl, ni bydd byw.

Swyddogaeth gwladwriaeth yw gwasanaethu'r genedl, fel y mae'r wladwriaeth Brydeinig yn gwasanaethu Lloegr, a thrwy hynny gryfhau a chyfoethogi ei bywyd cymdeithasol a thraddodiadol Yn amgylchiadau'r ugeinfed ganrif y mae bron yn amhosibl i genedl ymgynnal heb wladwriaeth i'w gwasanaethu; edwino a dirywio yw tynged pob cenedl ddi-wladwriaeth.

I genedl fel Cymru sydd heb ei gwladwriaeth ei hun y mae sefydliadau cenedlaethol, megis Prifysgol, Amgueddfa, Llyfrgell, Eisteddfod ac yn y blaen yn hanfodol at amddiffyn ei hunaniaeth.

Bernid mai'r tad a ddiogelai les ei deulu mewn cyfnod pan na cheid gwladwriaeth oleuedig ddemocrataidd y deuai i'w rhan ofalu am fuddiannau materol ei deiliaid fel y gwneir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Realiti'r sefyllfa, wrth gwrs, oedd fod Lithuania'n ceisio creu safle iddi'i hun fel gwladwriaeth aeddfed, fodern ac roedd digwyddiadau'r dydd i fod yn ernes o hynny.

Nid cydymdeimlad â phopeth oedd yn digwydd yno, na chydymdeimlad dall, ond ymgais i ddeall beth oedd creu gwladwriaeth newydd ar ôl dwy ganrif a mwy o goloneiddio a hanner canrif o ormes gwleidyddol trwm, gyda dim ond un cyfnod byr o annibyniaeth i oleuo rhwng dau ryfel byd.

Ceir imperialaeth pan ymestyn gwladwriaeth ei hawdurdod dros wledydd a chenhedloedd eraill.

Anghenraid cyntaf y gymdeithas genedlaethol Gymreig yw gwladwriaeth; ni ellir ei chreu'n heddychlon heb weithredu gwleidyddol cwbl benderfynol.

Roedd y gymuned ryngwladol yn dawel ar waetha'r ffaith fod Ethiopia wedi gorchfygu gwladwriaeth arall, meddai.

Pery'r sefyllfa honno hyd nes y sefydlir gwladwriaeth Gymreig.

Fel arfer y mae'n mynnu cael gwladwriaeth i'w gwasanaethu gan na ellir sicrhau'r amodau sy'n angenrheidiol i fywyd cyflawn heb drefn wleidyddol.

Gwladwriaeth y siri a'r ysbïwr a'r ceisbwl oedd hi, ac nid a gredai a ddywedai'r call.

Mae ieithoedd nad ydynt yn ieithoedd 'gwladwriaeth' oddi mewn i Ewrop yn mwynhau uwch statws.

Golygai 'gwladwriaeth', yn ei hanfod, holl oblygiadau dinasyddiaeth dda mewn undod, gwasanaeth a gallu.

Dyma wrth gwrs a ddywed Franco wrth y Basgiaid a'r Catalaniaid: Pompidou wrth y Llydawyr: Brezhnev wrth y Latfiaid, y Lithwaniaid, yr Estoniaid - a'r Sieciaid a'r Slofaciaid a llawer cenedl arall sydd yn eu gwladwriaeth neu'n ffinio â hi.

Y mae Lloegr, Yr Alban a Chymru yn genhedloedd; gwladwriaeth yw Prydain.

Er eu bod mor fynych ynghlwm yn ei gilydd, rhaid gwahaniaethu'n glir rhwng cenedl a gwladwriaeth.

Adroddiad Beveridge yn awgrymu sefydlu Gwladwriaeth Les a fyddai'n gofalu am bobl 'o'r crud i'r bedd'.

Yno, ar lannau'r Baltig, roedd y Latfiaid hefyd yn ceisio ail-greu gwladwriaeth ond, iddyn nhw, roedd problemau dwysach fyth.