Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwladwriaethau

gwladwriaethau

Bu'r datblygiadau hyn oll ynghlwm wrth gyfnewidiad gwleidyddol o'r pwys mwyaf yn hanes Ewrop, sef, twf gwladwriaethau newydd.

Nid oes gan y Deyrnas Gyfunol gyfansoddiad ysgrifenedig a'r traddodiad hwnnw o gymryd pethau'n ganiataol oni phrofir yn wahanol sydd i gyfrif am nad oes datganiad ffurfiol o statws swyddogol y Saesneg fel sydd ar gyfer ieithoedd eraill mewn gwladwriaethau sydd â chyfansoddiad ysgrifenedig.

Mae gwladwriaethau newydd yr Arabiaid o'r gorau os llwyddant i godi hunanbarch yn y bobl a pheri iddynt ddatblygu'.

Ni ddaw lles o gorffori cenhedloedd mewn gwladwriaethau mawr aml genhedlig ond i rai militarwyr a chyfalafwyr.

Arwynebol yw'r gwahanu rhwng cenedlaetholdebau gwleidyddol a diwylliannol, a nai%f dros ben yw'r cynllun 'uno gwladwriaethau' ar batrwm 'delfrydol' yr Alban a Lloegr.

Ymhlyg yn y sylwadau hyn y mae condemniad pendant ar ddespotiaeth gwladwriaethau'r hen fyd ac y mae'n sicr fod llawer o eiriau Iesu i'r un perwyl heb eu rhoi ar goedd yn y dogfennau hyn.

Cychwyn gyda gwrtheb a wnaeth yr awdur - ar Genedlaetholdeb yr oedd y bai am bicil Cymru gyfoes, cenedlaetholdeb gwladwriaethau Ewrop, gyda'u pwyslais ar undod a chryfder ar draul diwylliannau lleiafrifol.

Nid yw'n berthnasol i les y dinesydd eithr i falchder gwladwriaethau mân a mawr.