Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwledydd

gwledydd

Oherwydd eu safleoedd daearyddol gall teithio i'r gwledydd sy'n datblygu fod yn gostus, a gall byw ynddynt tra'n ffilmio a recordio'r deunydd fod yn rhyfeddol o gostus hefyd.

Ac eto, tra bo pobl gwledydd y Baltig yn ystwyrian a phleidleisio tros ryddid, y mae mwyafrif pobl Cymru'n dotio cael eu sarhau a'u sathru.

Efallai bod dylanwad gohebydd Cymraeg dipyn llai, ond dibynnu ar bwysau poblogaidd y mae ewyllys gwleidyddol i weithredu, ac mae llais Cymry yn llais pwysig yng nghôr y cyhoedd y mae'n rhaid i lywodraeth gwledydd Prydain wrando arno.

gan gredu bod y gynhadledd heddwch fawr sydd i'w chynnal yn llundain yn un o'r dulliau mwyaf effeithiol i addysgu a dylanwadu ar feddyliau pobloedd y gwledydd.

Gwelir fod Cymru'n llawer mwy dibynnol ar laswellt na'r gwledydd eraill.

Heb gadarnleoedd ieithyddol, mae'n anodd i unrhyw iaith gynyddu: dyna mae profiad gwledydd eraill wedi ei ddangos hyd yma.

Yr un modd roedd ffydd rhai o bobl Rwsia y deuai iachawdwriaeth i'w rhan o gyfeiriad gwledydd rhydd, ffyniannus y gorllewin yn peri gofid i ddyn yn aml.

Oni bai am yr adroddiadau gafaelgar yn y wasg a'r lluniau grymus a ddaeth yn dystiolaeth feunyddiol o dynged y Cwrdiaid, dwi'n ofni mai troi cefn fyddai ymateb gwledydd y byd.

mae'r gwledydd, y milwyr ar arfau yn newid, ond yr un yw'r clwyfau mewnol.

Ymhlith y gwledydd a ystyriwyd 'roedd India'r Gorllewin ac India'r Dwyrain, Canada a De Affrica, Gibraltar, Ynysoedd y Falklands a'r Gambia.

Ffrainc, Gorllewin Yr Almaen, Yr Eidal a gwledydd Benelwcs yn arwyddo cytundeb i ffurfio'r Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd.

I newyddiadurwr o'r Gorllewin yn cyrraedd gwledydd y Baltig yn y cyfnod hwnnw, chwe mis ar ôl iddyn nhw ennill eu hannibyniaeth lawn, roedd un peth ar ôl y llall yn corddi teimladau a barn.

na fedrai o, yr Ymennydd Mawr ddysgu ei bobl i gerdded unwaith yn rhagor ac i ddal eu pennau goruwch y gwledydd.

Safle anodd iawn oedd safle'r gwledydd bychain ar y gorau, hyd yn oed os oedd ynt yn annibynnol, pan fyddai'r gwledydd mawr o'u cwmpas yn gwrthdaro, - meddylier am sefyllfa Iwerddon, Norwy, Sweden, Denmarc, Yr Yswistir, Belg, Holand, Ffinland.

Rhyw ochri efo Byron Hayward ydw i yn hyn i gyd a dweud y dylid gadael i'r bobl yma chwarae i'r gwledydd lle cawson nhw eu geni ac nid lle gwelodd eu taid neu eu nain olau dydd.

Dengys log manwl y capten y gwaith a gyflawnid o ddydd i ddydd ar ei bwrdd, a'r nwyddau a'r offer a roddwyd yn yr howld, yn cynnwys rhaffau, blociau, meini llif a sialc, a gyfnewidid am gynnyrch brodorion gwledydd tramor megis Mao%riaid Seland Newydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch, ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau.

Posibilrwydd eithaf hyn fyddai trawsnewid y gwledydd sydd heddiw yn druenus o dlawd i fod yn fasnachwyr goludog y dyfodol.

teilyngodd y teitl hwn am iddo weithio mor ddiflino o blaid heddwch a cheisio dwyn gwledydd y byd i gyd-fyw yn heddychlon â'i gilydd.

Er mor ddiddorol ac atyniadol yw rhai o'r ffresgoau a'r ffenestri hyn, y gellir eu gweld o hyd mewn ambell eglwys yng Nghymru a gwledydd eraill, ni ellid honni ar unrhyw gyfrif eu bod yn ddigonol i gymryd lle darllen y Beibl a myfyrio arno.

Y mae hyn yn bosibl bellach mewn rhai gwledydd - yr Iseldiroedd, er enghraifft.

Oherwydd natur y gwledydd neu'r diwylliannau y rhoeson ni lawer o sylw i Israel neu'r Mohawks yng Nghanada ac mae'n wir fod llawer o'r pynciau wedi bod yn uniongyrchol berthnasol i Gymru - ond roedd llawer nad oedden nhw felly.

Ond bocsiwr oedd Joe Erskine, a fyddai neb a ŵyr rywbeth am y bysnes yn debyg o amau nad y 'Jolting Joe' oedd y bocsiwr pwysau trwm medrusaf a fu yn y gwledydd 'ma erioed.

Mae hyn i'w weld i raddau yn y gwledydd yr ydw i wedi dewis mynd i ffilmio ynddyn nhw - llefydd sydd wedi cael sylw mawr yn y newyddion, ond sylw arwynebol, a lle mae yna her i edrych yn ddyfnach .

Tra bod Kevin Keegan a Mark Hughes yn ail-asesu tactegau yn dilyn y gystadleuaeth, y wers i'w dysgu yn ôl cymdeithasau pêl-droed y gwledydd Celtaidd yw mai y ffordd ymlaen yw rhannu baich y trefnu.

Sut wedd oedd ar addysg yn y gwledydd uchod tua dechrau'r ganrif ddiwethaf?

Heb fanylu gormod, 'roedd wedi ymddwyn mewn ffordd anwadal iawn tuag at yr Aifft, a'r gwledydd hynny a oedd â diddordeb arbennig ganddynt yng Nghamlas Suez, yn ystod y pedwar mis cyn yr argyfwng.

Un o'r pethau cyntaf a wna gwledydd ar ôl sefydlu seneddau newydd (fel yng Ngwlad y Basg a Catalunya) yw pasio deddfau Iaith Newydd.

Gwefroedd gweld pobl ifanc o Japan, China, De Affrica, gwledydd Ewrop, ac amryw wlad arall yn cyd- ganu mewn Lladin, Cymraeg, Saesneg, iaith Sweden, Swahili, ac Almaeneg.

Wrth gymharu partwn amaethu yng Nghymru gyda'r patrwm mewn gwledydd eraill, mae'n amlwg fod y patrwm cenedlaethol wedi datblygu oherwydd nodweddion arbennig y wlad o ran hinsawdd, tirwedd a phriddoedd.

Mae'r gwledydd mwyaf blaengar bellach yn buddsoddi'n drwm mewn ymchwil wyddonol sylfaenol, fel ernes ar gyfer datblygiadau posib yn y dyfodol.

Er nad yw'r adran yn fawr o'i chymharu a rhai adrannau o brifysgolion eraill y wlad, mae ei chyfraniad i wyddorau'r môr yn sylweddol ac mae llawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y cyd gyda phrifysgolion Ewrop, yr UDA, Awstralia a gwledydd eraill y byd.

Mae Parciau Cenedlaethol i'w cael ym mhob rhan o'r byd ac wedi eu sefydlu i amddiffyn golygfeydd a bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr y gwledydd hynny.

Dylid nodi cryn lwyddiant yn y maes dros y degawd diwethaf, yn enwedig ym maes llyfrau plant a phobl ifanc lle y gwelwyd y twf mwyaf, ac mae ansawdd a diwyg y llyfrau'n cymharu'n ffafriol â'r hyn sydd ar gael mewn gwledydd eraill.

Rhoddodd yr argraff - yn annheg efallai - fod un o weinidogion tramor gwledydd Prydain mor anymwybodol o sefyllfa'r bobl hyn ag yr oedd Marie Antoinette pan awgrymodd y dylai trigolion di-fara Paris fwyta cacennau.

Nid oedd darpariaeth mor gyson yn Lloegr, Ffrainc, a Gwlad Belg, ond golygai cyflwr cymharol ddatblygedig y gwledydd hyn fod canran gweddol fawr o'r plant yn cael addysg o ryw fath, er nad oedd hyn mor wir am y taleithiau ymylol fel Cymru neu Lydaw, o bell ffordd.

Yn anad dim, credai'r gwrthwynebwyr mai amcanion strategol pellgyrhaeddgar a'r angen am gynllun economaidd i ddiogelu marchnadoedd cyfoethog Gorllewin Ewrop ar draul gwledydd tlotaf y byd oedd yn ysbrydoli gwladweinwyr y Gymuned.

Gwlad yn yr hon yr oedd -- yn ôl pob tebyg -- luoedd o Brydain a gwledydd eraill wedi gwladychu a hel y brodorion yn ddigon pell.

Mae llawer o'r gwledydd sy'n datblygu yn dioddef eithafion tymheredd a lleithder ac mae rhoi ffilm mewn camera bob rhyw ychydig funudau mewn monswn neu storm o lwch yn waith lle gall y ffilm gael ei difetha'n hawdd iawn.

Dechreuodd Gadaffi ystyried Sadat ac arweinwyr rhai o'r gwledydd Arabaidd eraill fel brenhinoedd hunanol a oedd yn foesol amhur ac yn rhy hoff o'u perthynas â'r Gorllewin.

Ond mewn llawer o'r gwledydd sy'n datblygu nid oes ffasiwn beth â labordai ffilm gydag adnoddau llawn yn bod.

Y gwir amdani yw y galle'r awdurdodau gymryd eich trwydded deithio chi a fi, a dweud wrthon ni i le o fewn gwledydd Prydain y cawn deithio, a sicrhau fod awdurdodau gwledydd eraill yn gwrthod rhoi caniatâd i ni fynd mewn i'w gwlad.

Mae'r genhedlaeth hon yn obaith i uno'r gwledydd Arabaidd.

"Ond dyw e ddim yn erbyn y gyfraith i'n gwahardd ni." Geiriau o'r galon gan un o "leiafrifoedd" mwyaf niferus Gwledydd Prydain.

roedd nifer fawr o gynrychiolwyr y gwledydd yn bresennol yno ac roedd saith gant ohonynt o loegr ac unol daleithiau america.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei chyfrif yn un o'r goreuon ymysg cerddorfeydd symffoni gwledydd Prydain.

Beth bynnag yw rhinweddau ardaloedd, a gwledydd eraill y byd, gallaf innau dystio fod bro fy mebyd a'i llechweddau yn 'myned o hyd yn fwy annwyl im'.

Hedfan dros y byd, ymweld â gwledydd gwahanol a thynnu lluniau.

Roedd yna Gymry'n byw mewn amrywiol wledydd ac yn anfon llythyrau cyson i'r papurau newydd; roedd yna hefyd bapurau newydd Cymraeg mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau, ond rhywsut, doedd y rheiny ddim yn pasio'r prawf angenrheidiol o fod yn cynrychioli un wlad mewn gwlad arall.

Ceisiwyd hefyd greu cronfa ariannol newydd a elwir y GEF (Global Environmental Facility) mewn ymgais i ffynonellu arian i'r Trydydd Byd gan fod cymaint o'n hadnoddau bywydegol yn y gwledydd tlawd.

Ar ôl gwneud sawl sioe deledu i hyrwyddo'i sengl, fe ddechreuodd wneud sioe cabaret, gan deithio o Newcastle i Cambridge ar gyfer ei dwy sioe gyntaf, ac o gwmpas gwledydd Prydain, Ewrop a'r byd.

...paham mae cymaint o ysgrifenwyr galluog yn Nghymru, yn ysgrifio traethodau campus; ac hefyd yn llanw y cyhoeddiadau misol â gweithiau talentog (heb gael na Choleg, nac Athrofa, nac hyd yn oed ddiwrnod o Ysgol) mwy nâ'n cymydogion yn Lloegr, a'r Iwerddon, a gwledydd eraill?

Parhaodd y protestiadau, nid yn unig yng Nghymru ond yn Ewrop, America a'r gwledydd comiwnyddol.

'Roedd Peter, y meddyg, wedi bod sawl tro yn y gwledydd comiwnyddol.

O dderbyn athrawiaeth llesâd gwlad ei hun a gwledydd eraill, pam, tybed, na allai athronydd mor gwbl eglur ei feddwl â Russell weld posibiliadau patrwm nobl o gydweithredu mewn Conffederasiwn Prydeinig?

Ergyd y ddramodig, yng nghyd-destun Cwpanaid o De gyda Mr Bebb, yw nad oedd gan arweinwyr y Blaid Genedlaethol Gymreig, y pryd hwnnw, nemor ddim diddordeb yn y gwledydd Ewropeaidd lle na siaredid iaith ladinaidd, lle nad oedd yr Eglwys Gatholig yn unbennes eneidiau a lle nad yfid gwin yn helaeth.

Mae gan Guba y gwasanaeth iechyd gorau ymysg y gwledydd sy'n datblygu.

Ers y dyddiau hynny hefyd mae arfer o weithio mewn mwy nac un iaith yn fwy cyfarwydd ac mae'r cyd-destun gwleidyddol Ewropeaidd a byd-eang yn caniatáu i ni elwa o brofiadau gwledydd eraill yn hwylus.

Hanes sy'n gyfrifol, hanes - y tarfwr hwnnw sy'n trin lleiafrifoedd a gwledydd bychain fel y mynn.

Yn ail, 'roedd llawer o weddio am i Dduw gofio'r Cristnogion mewn gwledydd comiwnyddol - ond gweddio cyffredinol iawn oedd hwn.

Esgorodd y polisi hwn ar ganlyniadau cymdeithasol, seicolegol a diwylliannol sy'n ddigon cyfarwydd mewn gwledydd sydd wedi eu concro gan wlad arall neu eu corffori mewn gwlad arall.

Ond nid yw'r ffaith i'r Lladin barhau yn lingua franca dysg, yng Nghymru megis mewn gwledydd eraill, yn newid dim ar frwdfrydedd sylfaenol, ac egniol, y dyneiddwyr dros yr iaith Gymraeg.

Y gwir plaen amdani yw, mai ail orau y gwledydd hynny ydym ni yn eu cael drwy'r drefn bresennol.

Dreif on.' 'Ella ma' trio rhoi ar ddallt i ti roedd hi ma' boddi 'nath y Captan.' 'Nid boddi 'nath o.' 'Dyna ddeudodd Timothy Edwards pan ddaeth o yma hefo'r stori - syrthio dros ochor y llong, medda fo, pan oedd o'n homward bownd o'r gwledydd pell 'na, a boddi yn y dyfnfor.'

Cysylltiadau â'r Gwledydd Celtaidd

Mewn imperialaeth a thotalitariaeth y wladwriaeth sydd ben; fe'u ceir mewn gwledydd comwinyddol yn ogystal â chyfalafol.

Ac mae gynnon nir stadiwm ora o'r gwledydd i gyd yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Fel y dengys hanes Cymru, ac fel y mae profiad Denmarc, Catalonia a gwledydd eraill yn ei gadarnhau, allwch chi ddim adeiladu'r Jeriwsalem newydd heb yr offer.

Ychydig iawn o ddefnydd sydd wedi dod o'r darganfyddiadau hyn, ond yn ffodus mae gwledydd yn fodlon ariannu rhywbeth sy'n rhan o'n diwylliant.

Y mae'n briodol mewn llawlyfr a gyhoeddir o dan nawdd y Bwrdd Cenhadol inni gofio'r gwledydd y bu cysylltiad rhwng Cymru a'r gwaith cenhadol ynddynt.

Yr hyn a hawliai'r Blaid i Gymru mewn gwirionedd oedd sofraniaeth, sofraniaeth yn yr ystyr fod gan y genedl fel person moesol yr hawl i benderfynu a oedd hi am ryfela yn erbyn cenhedloedd a gwledydd eraill ai peidio, a bod ganddi yr hawl ar fywydau a chydwybodau ei meibion a'i merched yn y mater hwn.

yr un oedd ei hynt ym mhob un o'r gwledydd yr ymwelodd â hwynt ; derbyniad gwresog i'w ddyfais, ac anrhydedd iddo yntau yn amlach na na.

Ymhellach, credwn fod gan Gymru bersbectif gwerthfawr ar faterion o gyfiawnder cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd rhyngwladol a dylai'r Cynulliad ymgyrchu trwy sefydliadau fel Canolfan Cymru ar Faterion Rhyngwladol er mwyn hybu datblygiad cymdeithas byd-eang fwy teg lle rhennir adnoddau'n deg ac nid ecsploitir yr amgylchedd na phobloedd na gwledydd 'tlawd' y byd er cynnal cyfoeth gwledydd 'cyfoethog' y byd.

Bydd gwleidyddiaeth yn rhan o geisio cadw'r ddesgl mor wastad â phosib rhwng y gwledydd.

Yn olaf, gallwn enwi grwpiau llai byth, fel Ffriesiaid yr Iseldiroedd, yr Uchelwyr Gaeleg eu hiaith yn yr Alban, Lapiaid Llychlyn, Sorbiaid dwyrain yr Almaen, a Vlachiaid y gwledydd Balcanaidd.

Rydw i wedi clywed am bobl o'r fath mewn gwledydd eraill ac y mae sawl enw arnyn nhw.

Wedi'r cwbl, yn y pen draw ni all Cymru gystadlu gyda gwledydd Dwyrain Ewrop na'r Trydydd Byd ar sail llafur rhad.

Nid yr elfennau hyn sy'n amlwg, ond yn hytrach barhad, ar newydd wedd a chydag angerdd newydd, o'r ysbryd Rhamantaidd hwnnw a oedd eisoes wedi chwythu'i blwc mewn gwledydd eraill.

Mae rhai gwledydd yn enwog am fathau arbennig o grisial, megis Brasil am ei amethystau ysblennydd, a De Affrica am ei diamwntau.

galw ar y gwledydd i ddod i berthynas glosiach â'i gilydd.

Nid oedd pobl gwledydd eraill bob amser mor anwybodus am y Cymry.

TELEDU: Ac i ddiweddu - rhagor o newyddion drwg am yr economi gyda'r bunt yn cwympo yn sylweddol yn erbyn arian gwledydd eraill.

Er mai derbyn gweledigaeth hanes yr Iddewon fel egwyddor universal a ddarfu'r Eglwys Fore, ymhen y rhawg dechreuodd rhai haneswyr gymhwyso'r gweld (a'r dweud) a geir yn yr Ysgrythur at hanes eu gwledydd eu hunain.

Yng ngwledydd y Trydydd Byd mae'r cyferbyniad rhwng cyfoeth gwledydd y Gorllewin a thlodi'r De yn taro'r llygad dro ar ôl tro a pharhau o hyd y mae'r rhyfeddod o weld tystiolaeth ein ffordd wastraffus ni o fyw - can o Coke neu gar Mercedes wrth ochr pwmp dŵr cyntefig neu geffyl a chart.

Rhan o gyffro anhygoel oes Fictoria oedd agor ffenestri ar fydoedd newydd, ac ni ellir deall cymhellion y rhai a ymfudodd i bellafoedd byd heb gofio'r bwrlwm syniadau a oedd yn rhan hanfodol o hanes gwledydd Ewrop ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf.

Gwyddwn fod yna frodyr a chwiorydd a oedd yn dioddef pob math o bethau mewn gwledydd comiwnyddol, yn syml oherwydd eu bod yn credu yn Iesu Grist fel eu Gwaredwr.

Ar hyn o bryd rhoir pwysau cynyddol ar FIFA - corff rheoli'r gêm ledled y byd - i ystyried Gwledydd Prydain fel un wlad yn unig ar gyfer cystadleuthau rhyngwladol megis Cwpan y Byd.

Roedd sain caneuon Tom Jones a Shirley Bassey i'w clywed tan yn hwyr yn y nos gyda Chymry o bob oed yn dod i adnabod ei gilydd am y tro cyntaf ac eraill yn ail-gynneu cyfeillgarwch oedd wedi cychwyn flynyddoedd yn ôl mewn gwledydd eraill.

Yn y cyfamser, roedd MasCanosa yn pwyso ar Gyngres yr Unol Daleithiau i'w gwneud hi'n anghyfreithlon i is-gwmnËau Americanaidd mewn gwledydd tramor fasnachu â Cuba.

Ond mewn gwledydd eraill, lle nad oedd y brenin neu'r llywodraethwr wedi llwyddo lawn cystal i orfodi'i ewyllys ei hun ar draul hawliau'r Eglwys, byddai'n demtasiwn o'r mwyaf iddo fabwysiadu dysgeidiaethau hereticaidd a roddai iddo gyfoeth ac awdurdod ac a fyddai'n haws eu hieuo wrth agwedd ffafriol ei ddeiliaid tuag at iaith a chenedlaetholdeb.

Mewn gwledydd eraill, mae graffiti gwleidyddol ar waliau yn gelfyddyd gywrain iawn.

Gwneir ymgais hefyd i gymharu'r hyn oedd yn digwydd yng Nghymru a'r hyn oedd yn digwydd mewn gwledydd eraill yn Ewrop, ac yn arbennig yn Lloegr.

Dywedir bod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn gwneud gwaith da yn y gwledydd cynhyrfus hyn.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Ffrainc, Gorllewin Yr Almaen, Yr Eidal a gwledydd Benelwcs yn arwyddo cytundeb i ffurfio'r Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd.

Dedfrydwyd dau o bob tri yng Nghymru a Lloegr, a bron traean ohonynt yn Iwerddon, ynghyd â nifer fechan yn yr Alban ac mewn gwledydd tramor.

Y gorau y gellir ei obeithio ydyw y bydd i ddynion gael amcanion cadarnhaol - llesa/ u eu gwledydd eu hunain a gwledydd eraill, yn lle ymladd.

dim masnach â gwledydd eraill;

Ond 'roedd gwledydd eraill wedi dechrau gwneud dir yn rhatach, a dechreuodd ffatrioedd Sheffield gau.

Ac eto y mae caneuon ac alawon gwerin traddodiadol gwledydd fel Sbaen, Iwerddon a Romania wrth fy modd, yn enwedig pan mae nhw'n swnio fel petaent wedi tyfu o bridd y gwledydd yna.

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?