Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwlyb

gwlyb

Wynebwch y blwch tua'r gogledd neu'r de ddwyrain fel nad yw yn llygad yr haul nac yn wynebu tywydd gwlyb.

Ar ryw brynhawn gwlyb fe'm rhoddwyd mewn ystafell ar fy mhen fy hun i basio'r amser gyda thwr o ddisgiau gramoffon.

GLWAD WYLLT Dywed yr awdurdodau gorau mai'r mynyddoedd gwlyb hyn a'r tir sobr o sal sydd yn Urmyc gan mwyaf, sydd wedi cadw'r iaith yn fyw.

Cwffio oedd y bois hynny wrth gwrs am eu bod wrth eu boddau yn cwffio, a sbaddu eu cefndyr ac ati, er mwyn cael llonydd i escploitio eu gwerin dlawd yn y mynyddoedd gwlyb ac oer.

Yn ei waith diweddarach mae'n symleiddio ffurf i'w elfennau mwyaf sylfaenol, ac eto mae'r ymdeimlad o olygfa ar adeg arbennig - ar ddiwrnod gwlyb, gwyntog, niwlog, er enghraifft - yn arbennig o gryf.

Ar ben y grisiau hongiai un lamp drydan wan o'r nenfwd gan daflu goleuni melyn ar y paent a godai'n swigod gwlyb ymhob man.

Cyrhaeddodd cadwraeth yn rhy ddiweddar i arbed gwyddau Cefni, a gwelwyd sawl tro ar fyd yn y cyfamser, a hwnnw'n newid er gwell i lawer o hwyaid a rhai o adar eraill y tiroedd gwlyb.

Mae digon o gynefinoedd gwahanol yma, yn dywod, creigiau, tir gwlyb a phonciau sych i sicrhau amrywiaeth eang.

Yna i lawr i Ogwen lle cawsant banad a banana cyn ei g'neud hi am y Carneddau, gyda'r tywydd yn parhau yn niwlog a gwlyb.

Funudau'n ddiweddarach haliwyd dau ddyn gwlyb, cleisiedig i mewn i'r cwch.

Hyd yn oed yma, mae treulio noson yn yr awyr agored, mewn dillad gwlyb, yn gofyn am drwbwl." "Fyddwn i ddim wedi aros allan drwy'r nos." "Roeddech chi'n cysgu pan gefais i hyd ichi..." Tawodd pan ddaeth y gwas â'r coffi a'r ffrwyth iddi.

Cyn i'r ddwy sobri rhuthrwyd hwy i Ddinas Ffaraon, fel y gelwid y bryn yn Eryri, eu sodro mewn twll digon gwlyb a'u claddu o'r golwg.

Daw y penhwyaden gaiff ei fachu ym misoedd yr haf i'r rhwyd fel rhyw sach gwlyb - dim cwffio na llawer o wrthwynebiad yn perthyn iddo.

Mae colli gweundir grugog i goedwigaeth ac amaethyddiaeth, a thywydd oer, gwlyb yn ystod y tymor magu hefyd yn broblemau mawr.

Cafwyd lloches yn y pentref ond bu'n rhaid disgwyl yn hir yn eu dillad gwlyb am y llong i'w cyrchu'n ôl i Galway; roedd honno wedi mynd ymlaen i Inis Meain.

Mawr oedd fy ngofid wedi cyrraedd adref fod fy mhoced yn un slwsh gwlyb a gludiog.

Mehefin gwlyb ar ôl Mai oer - bydd yr hydref yn baradwys i'r ffermwr.

Cofiai fel ddoe y diwrnod y daeth yntau i'r eil o'r buarth y bore gwlyb hwnnw dros ddeuddeng mlynedd yn ol - y diferynion glaw yn treiglo'n bistyll tros gantel ei gap a'r sach ar ei war yn sopa diferu.

Mae'n gas gen i godi yn y bore, yn enwedig ar fore Llun gwlyb, ganol gaea'.

Fe welwyd eisioes fod Cymru ar y cyfan yn wlad fynyddig, gwlyb a chyda priddoedd gwael.

Yn anffodus, mae un gêm - honno ar Heol Farrar rhwng Bangor a Chaerfyrddin - wedi ei gohirio oherwydd y tywydd gwlyb.

Roedd y gwres meddal gwlyb fel mantell o'n cwmpas.

Yn Hydref aeth trên oddi ar y cledrau yn Virginia Water, Surrey, wedi iddo lithro ar ddail gwlyb.

"Na," meddai gn godi'r siwt fach neilon oedd yn swp gwlyb ar y llawr, "dydw i ddim yn mynd i'ch curo chi er eich bod chi'n llawn haeddu hynny, ac fe fyddwn i wrth y modd yn crasu'ch pen ôl chi."

Cymryd stoc o'r dillad gwely oedd isio i ddechra a newid gwlâu gwlyb Tony a Jason.

Gwyr pawb am John o Gaergybi i Lerpwl ac erbyn hyn mae yng nghartref yr henoed ym Mhenrhyndeudraeth yn tynnu am ei - gwlyb.

Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.

Mae'r tiroedd gwlyb sydd dan fygythiad yn cynnwys tir gwelltglas yn Ynys Môn, Pen Llŷn a Lefelau Gwent a chorsydd megis Cors Fochno a Chors Caron.

Yn wahanol i Gymru grasboeth, tymor haf gwlyb a gafodd y Tyrol, a dyma ni, heb unrhyw swyn gyfaredd, wedi glanio i ganol wythnos brafiaf yr haf a chostreli haul Maldwyn yn ein bagiau.