Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.
Gwyrodd drwy'r ffenestr, gwlychu ei bysedd â'i thafod ac estyn ei llaw.
Byddai carcharorion y rhyfel cartref yn cael eu gyrru i mewn i gwter, eu gwlychu â phetrol a'u llosgi'n fyw.
Ond anghofiwyd paentio'r to mewn un o'r tai bach dilheintiedig hyn ac arno mewn llythrennau mân, mân, yr oedd yn rhaid ymestyn ar flaenau'ch traed i graffu arnynt, oedd y geiriau hyn: "Os wyt ti'n medru darllen hwn, rwyt ti'n gwlychu dy esgidiau."
Roedd hi'n drewi ac wedi'i gwlychu'i hun.
Dechreuodd fwrw, a phenderfynodd Hector nad oedd unrhyw wrhydri mewn gwlychu.
Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.
Mor dyner oedd ein horiau olaf gyda hi - ti'n dal ei llaw wan a minnau'n gwlychu ei gwefusau a'th dad yn cadw cynnull yn y Neuadd Fawr.