Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.
Ond, er cydnabod gwir ddyndod Iesu Grist, y rhyfeddod mawr - y peth a'i gwnai'n unigryw oedd fod ei ddyndod wedi ei briodi â Duwdod.
Ni phoenodd i holi, fel y gwnai sawl un yn bryderus, ond cyrchu'n sicr i'r llwyfan iawn.
Nodwedd amlwg yn ei gymeriad oedd y gwnai bopeth a'i holl egni, gan roi ei orau ym mhopeth yr ymaflai ei law ynddo.
Rhoddodd blwc i'w het dros un llygad fel y gwnai gyda'i gap a cherddodd fel ewig i gyfeiriad y Tŵr a godai'n saeth o ser i'r awyr.
Etyb Iorwerth gan wrthgyhuddo: deil fod Sion yn torri gwyliau (yr hyn nis gwnai ef), ei fod yn gelwyddog ac yn canu'n unig er tal: 'Ni thry'r min eithr er mwnai'.
Yn nhawelwch y Lotments un noswaith, a'i hoff arddwyr o'i gwmpas yn drist eu hwynebau ac yntau'n dal clamp o wnionyn braf yn ei law, cymerodd y Brenin Affos lw y gwnai ei orau i gadw'r wnionyn a'r Lotments rhag dinistr dan law'r datblygwyr.
Cliriodd ei wddw fel y gwnai Ifans, gweinidog, wedi cyrraedd y pulpud, wrth ddrws yr ystafell fwyta.
Gwyddem fod gan Mrs Davies barch mawr tuag at ei chapel a gwnai unrhyw beth i hyrwyddo'r Achos.
Ond tybiodd mai o gwrteisi y gwnai.
Nid oedd yn bosibl na gweld y tan o'i achos ef na chael lle i eistedd, a gwnai yntau sbort am ben y beirdd eraill yn y cwmni drwy ofyn cwestiynau iddynt na allent eu hateb.