Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwneir

gwneir

Gwneir y cyfeiriad hwn yn amlwg iawn yn y darn o'r bedwaredd bennod ar ddeg ar hugain o Eseia a saif fel cyflwyniad i'r testun.

Gwneir rhan fwyaf o'i gwaith yn y Môr Gwyddelig ac i'r Gorllewin o'r Alban, a gellir ei gweld yn aml o arfordir y Gogledd a Bae Ceredigion.

Gwneir i'r cymeriadau ymddwyn a siarad fel petaent yn perthyn i ddosbarth breiniol.

Mae'n dibynnu'n hollol ar y person sy'n mesur, a'r man lle gwneir y mesuriad.

Gwneir defnydd cynyddol o'n offer benthycadwy, ac yn arbennig felly gadeiriau olwyn a'r offer cyfieithu.

Mae gwraig Gwern Hywel ym mharagraff cynta'r llyfr yn edrych ar y glaw'n pistyllio: gwneir i'r tywydd cyn pen dim fod yn arwyddlun o gyflwr Methodistiaeth.

Lleihau urddas dyn a thlodi ei ddynoliaeth a wna'r agwedd hon at gymundodau dynol, ac i'r graddau y gwneir hyn y mae'n wrth-Gristnogol.

Yn wir defnyddir y planhigyn yn helaeth yno Yn yr haf mae modd defnyddio'r dail gwyrdd mewn salad neu wedi eu coginio Ac yn y gaeaf ar ôl tyfu'r chicons gellir coginio'r gwraidd fel y gwneir yn gyffredinol yn Ffrainc.

Gwneir alcaliau o goed llosg a rhai mathau o blanhigion glan y mor.

Byddai rhywrai yn eu dal, os nad yn wir yn eu magu, ac yn nodi eu clustiau yn union fel y gwneir gyda defaid.

Gellid datblygu hyn fwy fyth trwy ddefnyddio'r papurau bro nid yn unig i wyntyllu anghenion yr iaith Gymraeg yn eu hardaloedd, ond fel y gwneir mewn rhai papurau, canmol a chefnogi'r gweithredoedd sydd o fudd i'r Gymraeg.

Mae'r hegemoni sy'n gweithio drwy'r gymdeithas yn gweithredu tuag at y nod o integreiddio'r holl gymdeithas i mewn i'r drefn ddominyddol - er enghraifft, mae'r system addysg yn gyfrwng tra effeithiol o gyflwyno'r diwylliant dominyddol, a gwneir hyn trwy ddewis a dethol yr wybodaeth sy'n 'berthnasol', 'gwerthfawr', etc., (er nad yw hon yn broses fwriadus ac ymwybodol, fel y nododd Gramsci) - ond mae rhannau o'r gymdeithas nad ydynt yn cael eu hintegreiddio'n llwyr.

Gwneir defnydd, gyda defaid a gwartheg, o beiriannau sganio uwchsonig sy'n cael eu defnyddio i fesur faint o fraster a chyhyr sydd ar anifail.

Mae'n anffodus i losgi'r pren gwyrdd a bydd marwolaeth yn sicr o ddilyn os gwneir hyn.

NI welid mohono'n plymio'n acrobatig, yn bloeddio'n uchel ac yn mynd dros ben llestri er mwyn tynnu sylw ato'i hun (fel y gwneir heddiw, gwaetha'r modd).

Bernid mai'r tad a ddiogelai les ei deulu mewn cyfnod pan na cheid gwladwriaeth oleuedig ddemocrataidd y deuai i'w rhan ofalu am fuddiannau materol ei deiliaid fel y gwneir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Gwneir hyn trwy drin y pridd neu balu i mewn gyda thail anifeiliaid, gwrteithiau gwneud neu gompost organig.

Pan ddaw dyn i gydnabod ei archollion ei hun ac i adnabod Crist fel Meddyg, fe'i gwneir yn un â Christ.

Gwneir ffyliaid ohonom i gyd beunydd.

Erbyn hyn, gwneir defnydd cynyddol o'r laserau hyn mewn meysydd eraill - er enghraifft i fesur cyddwysiad nwyon arbennig yn yr atmosffer.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod nwyddau' n cael eu hanfon cyn dyddiad darlledu'r cyfresi pethnasol.

Felly y lleddir y wedd ddistrywiol i dadolaeth, a gwneir yr un peth i'r wedd gyffelyb mewn mamolaeth wrth ladd y Twrch, sy'n cynrychioli, dan gochl creadur gwrywaidd, yr hen fam o hwch a ildiodd fywyd i Culhwch, ond a oedd - fel y dywedodd James Joyce am ei famwlad - am ei fwyta'n fyw wedyn.

Gwneir ymgais hefyd i gymharu'r hyn oedd yn digwydd yng Nghymru a'r hyn oedd yn digwydd mewn gwledydd eraill yn Ewrop, ac yn arbennig yn Lloegr.

Ni fuasai erioed wedi breuddwydio am geisio 'sledjo' batwyr, fel y gwneir heddiw, ac mae dyn yn synhwyro nad oedd tactegau dan-dîn a chwaraeyddiaeth Wilfred Wooller at ei ddant ychwaith.

Gwneir y golygu mewn dull electronig.

Gwneir hyn drwy anfon cyfres o bwlsiau o oleuni o un pen i'r llall o'r ffibr.

Gwneir hyn fel na bo'r tatws bach yn dod i'r golau a throi'n wyrdd.

Yn yr adroddiad hwn dadansoddir y gyfundrefn bresennol a gwneir cynigion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.

"Mae yna un peth y mae'n rhaid imi ei wneud cyn y bydd pethau'n ddiogel, Nia." "O, beth ydi hwnnw 'te?" "Dychwelyd y ffon i Faes y Carneddau, fydd yna ddim heddwch na thawelwch nes y gwneir hynny, rydw i'n gweld hynny rwan.

Mae felly yn bwysig i sicrhau y gwneir darpariaeth i wrthbwyso ffactorau negyddol y sefyllfa hon, fel y gall y plant elwa cymaint â'r fam drwy fod mewn amgylchedd gefnogol.

Gwneir hynny trwy ddefnyddio cyfres Llyffantod (Gwasg Gomer) yn sail i'r rhaglenni.

Gwneir datganiad o'r fath ar ôl asesiad gan dîm aml-ddisgyblaeth, ac mae'n rhiad i'r tîm hwnnw gynnwys rhywun sy'n gallu rhoi cyngor seicolegol, addysgol a meddygol ac mae'n rhaid iddo roi ystyriaeth i farn rhieni.

Gwneir defnydd da o'r tirwedd yma gan y bobl leol.

Golyga hyn y gwneir un sylwedd trwy adwaith un defnydd ar y llall.

(a) Mynychu unrhyw gyfarfod o'r Cyngor neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r Cyngor, neu unrhyw gorff arall i ba un y gwneir apwyntiadau neu enwebiadau iddo gan y Cyngor, neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r cyfryw gorff.

Gwneir ymdrech arbennig i guddio manylion o'r fath Ond yn ôl y seiciatrydd byd enwog, Dr William Sargant:

Gwneir arbrofion ar sut i ffrwyno ynni llanw ac nid yw ffarmio pysgod yn rhywbeth newydd mwyach.