Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwneuthur

gwneuthur

Y mae rhai, medd Sion Dafydd Rhys, 'a fynnynt doddi a difa holl iaith y Cymry, a chyfleu a dodi iaith y Saeson yn ei lle hi: yr hynn beth yssydd ymhossibl ei gwbl-hau a'i berpheithio, heb ddifa yn llwyr holl genedl y Cymry, a'i gwneuthur yn Seisnic'.

Nid meithrin dosbarth dethol o ddysgedigion a fynnai ef, ond cadw gwerin Cymru'n grefyddol a'i gwneuthur yn ddarllengar a goleuedig.

Canmol a chlodfori a gwneuthur clod a llawenydd a gogoniant oedd moes ddiwers y prydydd.

Yn y cyfamser annheg yw iddynt feirniadu etifeddion y traddodiad gwledig sy'n gwneud eu dyletswydd [trwy ganu o fewn eu profiad a'u traddodiad am beidio â gwneuthur dyletswydd pobl eraill hefyd.

Lladdent werin yr Almaen yn nhân y gwlad garwch gwneuthur a feginid gan y wasg felen, y tabyrddau a'r rum.

Y mae Mr Gruffydd yn sicr wedi etifeddu'r safbwynt anghydffurfiol, ac megis Mr Murry yn Lloegr, yn gwneuthur mwy tros fetaffyseg crefydd nag unrhyw offeiriad enwadol y gwn i amdano.

Ni all Darfu'r tawelwch nac amharu dim Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd Yn gwneuthur gosteg a'u chwyrnellu chwim.

Yn rhai creaduriaid y mae eu traed gwedi eu gwneuthur yn dra chryfion i gynnal corph anferth, amrosgo, fel yr elephant: yn eraill y maent gwedi eu haddasu i chwyrnder a chyflymder, megys yr ewigod a'r ysgafarnogod...yn eraill i rodio a chloddio, megys y wadd...ac yn eraill i rodio ac ehedeg, megys yr ystlum, a gwiwer Virginia...

Tra oedd Martha Jones, sef y forwyn fach, yn gwneuthur munudiau trwy gil drws y parlwr, o'r lle y tarddai miwsig â mwg tybaco, anadlwn innau'n helaeth o'r aroglau cinio a ddeilliai'n chwaon hyfryd o'r gegin gefn.

Teg yw nodi fo Collingwood, er gwaethaf ei ddamcaniaeth Rufeinig, o'r farn fod cynnydd wedi bod mewn 'Celtigrwydd' yn y blynyddoedd o flaen cyfnod Arthur, ac awryma fod Arthur wedi gwneuthur ei safiad buddugoliaethus terfynol yn erbyn y Saeson mewn caer Frythonig debyd i Cissbury ar y South Downs.

Mewn un frawddeg portreadir Arthur fel amddiffynnydd y Ffydd Gristnogol trwy honni ei fod wedi dwyn delw y Forwyn Fair ar ei ysgwyddau, a'i fod wedi gwneuthur lladdfa enfawr o'r paganiaid trwy rym Ein Harglwydd Iesu Grist a'i Fam.

Ei gred ef oedd eu bod yn troseddu am nad oedd dim i'w cadw'n ôl, ac nid am eu bod yn gwneuthur hynny'n fwriadol.