Fe'i disgyblodd ei hun i neilltuo rhai oriau penodol bob dydd i hela'r ci llwyd; ac os gallai roi ychwaneg na hynny, popeth yn iawn, eithr nid esgeulusai'r un diwrnod cyfan heb ei fod wedi cyflawni'i gwota hunan-drefnedig o erlid.