Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrdd

gwrdd

Dros fwrw'r Sul, Tachwedd 12-14, mae S4C Rhyngwladol yn trefnu penwythnos arbennig yng Nghaerdydd, pan gaiff gwylwyr gyfle i gwrdd â rhai o sêr y sianel.

Pa fath o gwrdd yw Holi'r Pwnc tybed?

Mae gwahoddiad cynnes i ddisgyblion Cymraeg Ail Iaith Cyfnod Allweddol gwrdd â Rapscaliwns - dwy garfan o ffrindiau, y naill yn byw yn y De a'r llall yn y Gogledd.

yn y gwynt a rhyw olwg arno fel tase fe'n ddiweddar i ryw gwrdd "Ddaeth e ddim 'nôl y noson honno, na bore trannoeth.

Ond bu'n rhaid i mi gynilo am flwyddyn gron ar gyfer yr ail-gwrdd hwn, a oedd i mi yn debycach i gyfarfod cyntaf.

O dipyn i beth syrthiodd y darnau i'w lle gydag ymweliadau â BBC Cymru, S4C, Derwen, Y Cynulliad, Siriol, cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant gyda swper yn dilyn â chyfle i gwrdd a Dirprwy Faer Caerdydd a llond lle o bobol ddylanwadol a gwybodus.

Darperir pecyn integredig i godi hyder athrawon yn eu defnydd o TGCh ar draws y cwricwlwm yn dilyn cynllun NOF Ystyrir yrhaglenni teledu a'r ddarpariaeth Arlein, CD ROM a phrint fel un pecyn a fydd wedi eu teilwra'n benodol i gwrdd ag anghenion athrawon yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg.

'Byse'n well 'da ni gwrdd â nhw yn y rownd derfynol.

Os wyt ti, cofia nad jobyn i'r CID yw e, felly paid mynd o dan dra'd, ond fe fydd e'n gyfle i ti gwrdd â pobol.'

"Os ŷch chi'n barod, doctor, fe af fi â chi i gwrdd â'ch pennaeth.

Pe bai'r 'Germans' yn dod i wbod beth sy'n mynd ymla'n fan hyn, fe fydden nhw'n siŵr o'i fomio fe." Ar ôl te blasus yn y 'Gloch' aeth Mrs Treharne a'r plant i lawr i lan y môr, ac aeth y Doctor i fyny'r rhyw i'r Orsaf Arbrofi i gwrdd â'r swyddogion yno.

Ond mae Iolo yn ein harwain hefyd i gwrdd â'r teulu sy'n byw yn y cartref hyfryd hwn.

Yn God Save the Prince of Wales, a gyflwynwyd gan Sioned Wiliam, datgelwyd rhai o'r sgandalau ar straeon a oedd yn amgylchynu 10 o Dywysogion Cymru ac yn Ar ôl yr Orsedd, teithiodd Beti George i'r India i gwrdd â rhai o aelodau o deuluoedd brenhinol yr isgyfandir i gael gweld beth sydd gan fywyd i'w gynnig iddynt ar ôl iddynt golli eu statws brenhinol.

Proses a dderbyniem fel cwrs bywyd ymhen y blynyddoedd, ond nid nawr, ddim ym misoedd cyntaf ein cariad pan ddylem ddal i fod yn llawn o'r rhyfeddod hwnnw a lanwodd y dyddiau oddi ar i ni gwrdd.

Efallai y gallwn ni ffeindio mas os byddai ein harian ni'n dod mewn yn handi gyda nhw yn rhywle.Sendina yn dysgu Bosnieg i mi ROEDD yr wythnos gyntaf yn amser i ni weld y gwersylloedd a chwrdd â phawb oedd angen gwrdd.

Mae nifer o Gymry yn yr Unol Daleithiau hefyd a chawn gwrdd â rhai ohonyn nhw yn ystod y gyfres.

Bydd hyn yn golygu y gallan nhw gwrdd unrhyw bryd mewn gwirionedd a bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn gyflymach.

Ar ben hynny daeth llawer mwy o gopi%wyr proffesiynol ymlaen i gwrdd â'r galw, megis y beirdd Gutun Owain a Lewis Glyn Cothi.

Ac fel y mae pobol yr AA neu'r RAC yn eich rhybuddio am beryglon ar ffordd, felly y gallech rybuddio pobol fod yna berygl iddynt gwrdd â'i Harglwydd ar ambell ffordd, fel yr un i i Emaus, neu'r ffordd honno yr âi yr eunuch arni yn ôl i Ethiopia.

I'r perwyl hwnnw, mae llawer o AALl yn dal eu gafael yn ganolog mewn darpariaeth ar gyfer disgyblion â datganiadau, gan y credant mai dyma'r ffordd orau i gwrdd ag anghenion y disgyblion.

Bydd y ffilm ddogfen yn dilyn Geraint ar hyd strydoedd y brifddinas, i gwrdd ar bobl ac i weld y llefydd gafodd ddylanwad arno yn ystod ei yrfa.

Heb ymgynghori â chig a gwaed penderfynodd Catherine Edwards yr âi hi ar ei hunion cyn belled â'r porthladd i gwrdd â'i phriod fel y byddai'n glanio yno.

Wedi mis yn Saudi Arabia, ro'n i wrth fy modd o gwrdd â Chymry Cymraeg tua'r un oed â mi a oedd yn gyfarwydd â Llanbed, neu Lanfairpwll, heb sôn am fy nhref enedigol, Caerdydd.

Crist y presennol yn dod i gwrdd â mi yn fy angen ar lwybr bywyd ydoedd.

Ond wrth droi tro sydyn ar yr heol, pwy ddaeth i gwrdd ag ef ond Ffantasia o deulu'r Tylwyth Teg.

Serch hynny, y mae'r nod o sefydlu democratiaeth ddiwylliannol a chyfiawn i gwrdd â chyfrifoldeb yr unigolyn tuag at draddodiadau ei genedl yn nod y dylid brwydro i'w chynnal hyd eithaf ein gallu, a thrwy ennill calonnau ac ewyllys y bobl y mae unrhyw beth, dybiwn i, yn bosibl.

Bu+m yn ffodus eto i gwrdd â cherbyd modur, dan ei faich o Eidalwyr y tro hwn, a theithiais yn gysurus yn ôl i'r autostrada.

Me Christian, too." Pan sylweddolais ei fod yn medru peth Saesneg achubais y cyfle i ddweud wrtho mor newynog oeddem, ac addawodd ddod â chyflenwad o flagur bambw imi ond imi drefnu i gwrdd ag ef y tu allan i'r caban.

Daliodd rhai o'r Lolardiaid, megis y Waldensiaid, i gwrdd yn y dirgel a darllen eu Beiblau hyd at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd.

Rhaid i ddilysrwydd y data hyn gwrdd â'r safonau sy'n ofynnol gan y rhai mwyaf blaengar ym maes archaeoleg tir; h.y.

Enghraifft o'r geidwadaeth hon oedd amharodwydd nifer o w^yr dosbarth canol i ganiatáu eu gwragedd i gwrdd â Morfydd Llwyn Owen.

Ces fy ngyrru o gwmpas y salonau amrywiol i gwrdd â'r bobol y byddwn i'n eu dysgu.

Rhyw fath newydd o gwrdd yw'r Holi'r Pwnc 'ma eto, ac enw dierth i mi oedd Owen y Gelli.

* fod yn atebol iddo * dderbyn ei farn a'i feirniadaeth yn agored * fod yn gefnogol a hyblyg i gwrdd a'i anghenion unigol * gael eu gweld yn gefnogol iddo fel unigolyn, gan gynnwys ei hunaniaeth, ei werthoedd a'i ddymuniadau.

Fod yn hyblyg (agored) i gwrdd ag anghenion y disgybl (wedi eu canolbwyntio ar y disgybl) Annog cyfraniad bywiog gan ddisgyblion (dysgu gweithredol) Annog y disgyblion i ddod yn ddysgwyr gwell (mwy annibynnol)

Tua hanner awr wedi un-ar-ddeg gadawodd Mary ef i fynd i gwrdd â Fred mewn caffi.

Ond llwyddodd Idris i orchfygu pob temtasiwn a magu dewrder i gwrdd â hwy bob un.

Dylid cael peirianwaith sy'n caniata/ u i uwch-reolwyr yr ysgol a'r corff llywodraethu fonitro a gwerthuso'r modd y dyrennir adnoddau, yn bobl ac yn ddeunyddiau, i gwrdd ag AAA.

'Rwyn edrych 'mlaen i gwrdd â Muttiah Muralitharan.

Daeth mwy o lwc i ran Denzil yn ddiweddarach wrth iddo gwrdd â chwaer ieuenga Eileen, Maureen, a'i phriodi.

Mân siarad yn unig sy wedi bod hyd yn hyn ond mae disgwyl i gynrychiolwyr y gwledydd gwrdd i lunio cynnig mwy cadarn cyn diwedd Awst.

I'r mwyafrif, yr oedd y Beibl yn llyfr cwbl ddieithr, a chyfaddefodd llawer o'r milwyr na wyddent fod dau Destament yn y Beibl cyn iddynt fynychu 'Awr y Caplan', sef yr awr neilltuedig a roddwyd i'r caplan i gwrdd â'r bechgyn a'r merched mewn awyrgylch anffurfiol.

Gwnaethpwyd ymdrech sylweddol i greu cyfleusterau penodol i gwrdd â dyletswyddau'r BBC o ran darlledu o'r Cynulliad Cenedlaethol newydd.

Gyda'ch gilydd byddwch yn nodi eich anghenion ac yn trefnu cynllun gofal fydd yn penderfynu sut orau i gwrdd â'ch anghenion a rhoi i chi gymaint o annibyniaeth ag sydd bosib.

Ymhlith syniadau eraill y mae gwahodd sêr y cyfryngau a chwaraeon i gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc, trefnu teithiau cyfnewid gydag ieuenctid o wledydd sydd yn siarad ieithoedd lleiafrifol a llunio cyweithiau cymunedol fyddai'n denu pobl ifainc i gyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd a bod yn fwy ymwybodol o'r peryglon sydd yn ei bygwth.

Wrth i'w car nhw fynd heibio i gornel arall cafodd Gareth gip ar y ffrwydrad dros ymyl y dibyn, a phelen o dân yn esgyn i gwrdd fi golau'r wawr.

Sbot ddy enwogion, melys gwrdd â hen gyfeillion eto eto eto, ai fo fydd nesa, pwy 'sa'n meddwl y basan ni'n cwarfod eto fel hyn mor fuan.