Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwreichion

gwreichion

Y ffwrnesi mawrion a'u geneuau aethus yn chwydu allan golofnau mwg a fflamiau troellawg cymysgedig a gwreichion i'r nwyfre, ac megys o dan ei seiliau yn tarddu allan gornentydd tanllyd o feteloedd yn llifo i'w gwelyau, y peirianau nerthol yn chwythu iddynt trwy bibellau tanddaiarol fel pe bai diargryn wedi talu ymwdiad a'r dyffryn .

Dim ond 'gwreichion y Duwdod yn dawnsio' yw'r greadigaeth.

Wrth i'r bêl euraid fu'n arwain Caradog daro yn ei herbyn yn ysgafn tasgodd gwreichion ohoni.

Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.