Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwreiddiau

gwreiddiau

O hynny y treiddiai rhinwedd sydd bob amser yn ychwanegu'n anrhydeddus at ysblander, ac nid ystyrid bod gwreiddiau da a theulu cymeradwy ynddynt eu hunain yn ddigon oni ffynnai'r priodoleddau rhinweddol parhaol yr un pryd.

Gwreiddiau Pwysig yn Llundain

O'i brigau uchaf i lawr i ben draw'r gwreiddiau mae'r goeden yn gartref i rai cannoedd o greaduriaid.

Er gwaethaf dy ymdrech lew nid yw'r gwreiddiau'n ildio.

Trwy briodas clymid achau a theuluoedd â'i gilydd; ystyrid bod gwreiddiau'r 'unbennes' gyfradd â'i gŵr a bod ei 'da arfer diweirfoes' gyffelyg i ymarweddiad ei gŵr.

Yn lle taflu cynnwys y bagiau, ar ôl cael gwared o'r planhigion a'u gwreiddiau, ei storio ar gyfer ei ddefnyddio fel mawn cyffredin wrth gymysgu compost.

Mae hynny ynddo'i hun yn arwyddocaol; mae'n ein gwneud yn ymwybodol o'r tyndra rhwng y grefydd 'newydd' a'r hen fywyd, ac yn pwysleisio mai mudiad gwerinol yw Methodistiaeth, ond ein bod ni yn y nofel yng nghwmni arweinwyr y mudiad - teulu cefnog Gwern Hywel (ac i Saunders Lewis y dosbarth pendefigaidd hwnnw, uchelwyr mawr neu fach, yw'r rhai sydd a'u gwreiddiau ddyfnaf mewn hanes), a'r uchelwyr newydd - y gweinidogion.

Os yn nhywyllwch y pridd y mae'r gwreiddiau, eto fe ddaw eu ffrwyth i'r amlwg mewn gweithredoedd neu mewn rhodiad ac ymarweddiad.

Rhaid bod ein gwreiddiau yn ddwfn iawn.

Yr oedd i Ogledd Cymru ran bwysig yn y gweithgaredd hwn gan mai yma yr oedd gwreiddiau llawer o'r perchnogion llongau.

Rhag ofn y gall unrhyw afiechyd gwreiddiau fod wedi ymsefydlu yn y bagiau tyfu mae'n ddoeth peidio dyfnyddio cymysgedd felly o gompost ar gyfer yr un math o blanhigion, neu eu perthnasau.

Rhwygodd y gwreiddiau a holltodd y canghennau dan y pwysau a gorweddodd y dderwen falch yma ar y ddaear.

"Dyma ichi dair cangen o hen dderwen fawr, a'i gwreiddiau'n ddwfn yn naear Cymru," a thynnodd y lle i lawr.

Byddai trochi eu gwreiddiau mewn past calomel yn gymorth i'w gwarchod rhag afiechyd y gwreiddyn clwb.

Fel Theophilus ei hun y mae gwreiddiau'r Athro Jenkins yn sir Aberteifi, ond Brycheiniog oedd y winllan y bu Theophilus yn llafurio ynddi am ran helaeth o'i oes ac yn Llangamarch y mae wedi ei gladdu, a hynny heb fod nepell o faes y Brifwyl eleni.

Dyma blaid geidwadol a'i gwreiddiau yng nghefn gwlad gorllewin Canada, sydd wedi datgan gwrthwynebiad i bolisi dywieithog y wlad, ac am gyfyngu ar rai mathau o fewnfudiad.

Chwythodd a thuchanodd y morwyr, ac oherwydd ei bod hi'n graddol dywyllu roedd traed neu freichiau yn mynnu bachu bob gafael mewn gwreiddiau coed neu ganghennau, a disgynnodd sawl un ar ei hyd.

I mi roedd cynefin y llwyth rywle y tu hwnt i Groesffordd Llangeler, ond digon annelwig a phrin oedd fy ngwybodaeth am fro fy mabandod a'm hadnabyddiaeth o'm perthnasau a'm gwreiddiau.

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

Fe'i bwriadwyd ar gyfer barddoniaeth, nid 'masnachaeth'; 'sidanwisg' ydoedd 'a roddwyd/Am feddyliau'r nef i ni'; mamiaith ydoedd a'i gwreiddiau'n ddwfn yn serch cartrefi Cymru:

Roedd y pridd wedi'i feddalu gan y glawogydd ac roedd y gwreiddiau'n rhoi.

Daw adar a gwiwerod i nythu yn ei changhennau; trychfilod fel cacwn, gwyfynnod, chwilod a gwiddonau i fwyta'r dail; eiddew, uchelwydd, cen, mwsogl, algae a ffyngau i ymosod ar y canghennau a'r rhisgl; adar, pryfed a mamolion i fwyta'r mes, a daw rhagor o bryfed i ymosod ar gwreiddiau sy'n ymestyn ymhell dan y ddaear.

Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi dadansoddi gwreiddiau a dail betys a chael ynddynt rai sylweddau anhysbys ynghyd â ffibr, haearn, caliwm, potasiwm, y fitaminau A, C a nifer o'r cymhlyg B, gyda'r dail yn arbennig o gyfoethog mewn haearn a fitamin A.

Yr oedd y ffaith mai yng Nghaernarfon y gweithiai ei hysgrifennydd a'i phrif drefnydd yn adlewyrchu dechreuadau'r Blaid fel mudiad yn y dref a'r fro honno a'r gwreiddiau dwfn a oedd ganddi yng Ngwynedd.

Chwynnu â llaw sydd orau, neu â fforch law, fel na niweidir gwreiddiau sy'n agos i'r wyneb.

Ni ellir deall gwreiddiau'r brwdfrydedd hwnnw heb ddeall agwedd y dyneiddwyr at hanes Cymru - ei gorffennol hi yn ogystal a'i hamgylchiadau presennol.

Yn y Caerau oedd gwreiddiau'r gwr addolgar hwn a hoffai sôn am ei ddyddiau cynnar fel amaethwr.

Yr eiliad honno sylwodd fod sach blastig wen wedi ei gwthio i'r dorlan, rhwng gwreiddiau'r goeden a'r llwybr uwchben.

Parhaodd cyfres newydd o The Slate â'r patrwm a ddechreuwyd llynedd o ffilmiau o'r ansawdd uchaf ar bwnc unigol: Karl Jenkins y cyfansoddwr a'r arweinydd, y darluniwr Jim Burns, yr animeiddwraig Joanna Quinn, y cyfarwyddwr ffilm Peter Greenaway, a'r nofelydd Dick Francis, bob un yn adnabyddus yn rhyngwladol, ond â'u gwreiddiau yng Nghymru.

Os oeddynt yn ymfalchio yn eu cenedl a'u gwreiddiau gwerinol, meddai, yr oeddynt yn siarad Hwngarian, ond yr oedd y rhai oedd eisiau statws a bri yn y gymdeithas yn dewis siarad Almaeneg.

Mae Tai Eryri wedi tyfu o'r gymuned gyda'i gwreiddiau yn ddwfn yn yr ardal ac mae'n sensitif i nodweddion a hinsawdd yr ardal ac yn gallu ymateb i'w hangen.

Tua chwe mil o flynyddoedd yn ol, darganfu rhai offeiriadon sut i gynhyrchu aur trwy doddi mwyn aur.Arferent hefyd wneud moddion o berlysiau a gwreiddiau planhigion y byddent yn eu casglu yn y coedwigoedd.

Gwelir gwreiddiau'r syniadaeth honno yng ngwaith athrawon iaith y saithdegau.

Cyfnod oedd hwn pan wnaed llawer o feddylwaith caled ynglŷn â Chymru a'i thraddodiadau, ei gwreiddiau fel cenedl a'i lle yn hanes y byd.

Oherwydd o be wela' i, mi rydach chi dros Gymraeg sydd wedi ei hysgaru o'i gwreiddiau cymunedol a thros Gymraeg fydd heb unrhyw rym yn y dyfodol.

Yn ystod fy ieuenctid trigai oddeutu deg ar hugain o deuluoedd ym mhentref Cefn Brith, y cyfan bron a'u gwreiddiau yn yr ardal ar wahân i ddyfodiaid a ddaeth yno o ganlyniad i briodas.

Etifeddodd y ddau fab y cafodd hi eu magu i oedran gwŷr, Dafydd a Daniel, rannau gwahanol o'i chynhysgaeth, y naill yn datblygu'n adroddwr storiau yn null yr hen gyfarwyddiaid, a'r llall yn datblygu'n nofelydd, ac y mae'n rhyfedd, er nad efalli'n gwbl annisgwl, ei bod hi'n fath o ddolen gyswllt rhwng yr anterliwd neu'r ddrama Gymraeg, ym mherson Twm o'r Nant, a'r nofel Gymraeg ym mherson ei mab Daniel, oblegid y mae gwreiddiau mwy nag un elfen yn y nofel i'w holrhain yn ôl i'r ddrama.

Heddiw dau neu dri pherson yn unig sydd a'u gwreiddiau yn yr ardal, a phrin bedwar neu bum teulu yn unig sy'n siarad yr iaith.

Gwreiddiau Trefniant y Nodau Graddedig

A'r gwreiddiau'n ôl at unigolion, a thyfodd y genedl o deuluoedd yr unigolion hyn.

Efallai y gall y cwmni%au rheini sy'n cynnig rhisgl coed ar gyfer ei balu i fewn i bridd neu ei osod yn haen o gwmpas planhigion yn tyfu i helpu cadw gwlybaniaeth o gwmpas eu gwreiddiau, ddarganfod dull i addasu'r rhisgl at yr un pwrpas a mawn.