Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwreiddyn

gwreiddyn

Yn wir, mae'n bartneriaeth glos iawn gan y treiddia'r ffwng i gelloedd y gwreiddyn a chydfyw am oes â'r planhigyn.

Mae hynny mor ffôl â phetaem yn edrych ar seithliw'r enfys ar ôl i'r prism eu gwahanu a chyhoeddi mai'r lliw hanfodol, gwreiddyn y lliwiau eraill, yw'r lliw glas.

Jones, fe grewyd ...rhwydwaith mawr o gwynion yn erbyn eglwys a landlord a gwladwriaeth, a theimlai'r werin mai teulu'r tarddu o'r un gwreiddyn oedd y tri ac mai eu cynnal eu hunain yn erbyn llafurwr neu amaethwr oedd swydd waelodol y tri.

Yr ymgais hon i gynnal balchder yw gwreiddyn yr hanes a ddefnyddiwyd gan Humphrey Llwyd - neu yn hytrach, yr hanes a amddiffynnwyd ganddo, yn wyneb ymosodiadau o'r tu allan.

Byddai trochi eu gwreiddiau mewn past calomel yn gymorth i'w gwarchod rhag afiechyd y gwreiddyn clwb.

Falle bod 'na resyme erill, ond gwreiddyn y mater oedd ei fod e'n gymint gwell na hi.

Y tu ôl i'r amrywiol wyddorau, y tu ôl i brydferthwch, y tu ôl i economeg, y tu ôl i'n perthnasau cymdeithasol a'n hymwybod â hanes, y mae'r gwreiddyn y tarddant i gyd ohono.

O safbwynt plant dynion, mae'r gwreiddyn yn y galon.

Y mae cysylltiad rhwng y gair camas a'r gair Gwyddeleg cambas "tro mewn afon" a daw o'r un gwreiddyn a'r gair Cymraeg cam "crwm, gŵyr, crwca%.

'Calon dyn ydi gwreiddyn pob drygioni.

Y gwreiddyn materol ffisiolegol a ystyrid bennaf yn eu hathroniaeth ac ohono ef y deilliai hanfod pob gras a rhinwedd.

Gellir dadlau, mae'n wir, fod ei charedigion wedi sicrhau mynediad iddi i ysgolion y wladwriaeth drwy gynllunio strategaeth ac ymarfer tactegau cyfrwys i drechu'r rhagfarn na fynnai weld yr iaith ond fel gwreiddyn stwbwrn '...' .

Ni chymerai i ystyriaeth yr ochr dywyll i natur dyn na dyfnder gwreiddyn y drwg sydd ynddo.

Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolau i gyffroi eich chwantau, yn darllen llyfrau bydron anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur, yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon...yn dibrisio'r tlawd, yn byw yn hoyw, yn nhommen masweidd-dra, yn gwatwar sobrwydd...yngwely'r buttain, mewn gwleddau a glothineb, mewn meddwdod, a chwerthin, mewn cydorwedd a chywilydd...Deffro, Cyfod.