Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwresog

gwresog

Er hynny, buom yno am rhyw fis, ac rwyf yn dal i ddychwelyd i'r Dwyrain Canol yn gyson, ac yn cael derbyniad gwresog iawn yno.

Dyma drydedd nofel Shoned Wyn Jones ac mae nofel sydd yn ddarllen byrlymus rhwydd fel hon yn haeddu derbyniad gwresog.

Yr oedd yn Sarah Owen, meddai ef, 'ryw ddefnydd anghyffredin', nid yn unig yn gorfforol - cerddodd bedair milltir a deugain un diwrnod gwresog gan gario plentyn ar ei braich y rhan fwyaf o'r ffordd - eithr hefyd yn feddyliol, oblegid er ei bod yn anllythrennog, yr oedd ganddi gof cryf a chariai lawer o lenyddiaeth arno.

Cafodd Lady Megan dderbyniad gwresog iawn.

yr un oedd ei hynt ym mhob un o'r gwledydd yr ymwelodd â hwynt ; derbyniad gwresog i'w ddyfais, ac anrhydedd iddo yntau yn amlach na na.

Fel dyn yr oedd Watkin yn cael ei barchu gan bawb, oblegid yr oedd yn barod i wneud daioni i bawb; yn ddyn heddychol, yn bleidiwr gwresog i'r hyn oedd deg, ac yn wrthwynebydd dewr i bob trais a gormes.

Buasai Josepho hefyd yn Sbaen yn ystod y Rhyfel Cartref, ond fe gyfaddefodd yn agored nad oedd wedi arddel teimladau gwresog at bobl y wlad honno.

Cydgynhyrchiad rhwng S4C, BBC Cymru ac HBO yw Chwedlau Caergaint, a chafodd dderbyniad gwresog pan ddangoswyd y ffilm gyntaf dros y Nadolig '98, yn Gymraeg ar S4C ac mewn Saesneg cyfoes a Saesneg Canol ar BBC2.