Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrtais

gwrtais

Rwy'n dy sicrhau y caiff dy feistr wybod pa mor gwrtais oedd eich triniaeth ohonom.

Ar adeg felly "mae'n gwrtais" cynnig dychwelyd anrhegion dyweddïo i'r bobl a'u rhoddodd.

Arweiniai'r ymweliad hwn ni at ei hanes fel gwas bach (page boy) yn Llwyngwair gyda'r Boweniaid a'r atgofion am ymweliadau'r teuluoedd o'r Cilgwyn a Stradmore a'r dillad hardd a wisgent wrth y bwrdd cinio lle'r oedd disgwyl iddo weini yn gwrtais.

Dau yn unig oedd yn y ras y diwrnod hwnnw ac yr oedd y Rheolwyr yn betha' od o glên, pob parch iddynt, ac yn holi'n ddifrifol o gwrtais.

Fe fyddai Emyr wedi medru dweud wrth ei fam-yng-nghyfraith yn ddigon plaen, er yn gwrtais, eu bod nhw wedi ailystyried ac na fyddent wedi'r cwbl yn dod i dreulio'r Nadolig yn Nhyddyn Ucha' eleni.

Mae'n ddrwg gen i, syr, ond ...' Yr oedd y geiriau'n gwrtais ond yn gadarn.

Wfftia (yn gwrtais iawn) Paul Bourget, 'un a gododd o'r werin, yn ceisio cyfyngu hawliau'r bobl, ac yn lladd ar y gyfundrefn addysg a'i manteision a fu'n achos mawr o'u llwyddiant eu hunain'.

Yr oedd yn siriol a dengar gyda'i gydweithwyr, ac ni chollai ei dymer byth gyda'i wrthwynebwyr, ond eu hateb yn gwrtais a bonheddig.

"'Steddwch," meddwn i wrtho, gan wneud fy ngorau glas i fod yn weddol gwrtais tuag ato.

Yn gwrtais ond yn gryno, bu'n rhaid i mi ddweud wrtho bod clywed am dîm Lloegr wedi fy atgoffa o rywbeth fyddai'n hawlio fy sylw.

"Diolch yn fawr," derbyniodd ei gynnig yn gwrtais ond yn bell ac oeraidd.

A'r wraig dlawd a safodd o'r naill ochr yn gwrtais, ac efe a aeth heibio iddi ynghynt, ac yn fwy trwsgwl na'i arfer.

Mae ceisiadau Ceri, wrth iddo chwilio am berffeithrwydd mewn sain a llun bob amser yn gwrtais wrth ofyn am ail a thrydydd wneud gwahanol rannau.