Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthdaro

gwrthdaro

Trueni na chafon nhw gyfle, achos oedd y gynulleidfa yn dwlu arnon ni, yn enwedig yn Ne Cymru." Bu'r grŵp yn llwyddiannus iawn, ond bu gwrthdaro gan nad oedd Bobby yn fodlon i'r merched briodi...

Tebyg bod gwrthdaro rhwng unigolion yn anhepgor i'r broses gelfyddydol greadigol.

nid yw'n gallu trafod newid fel proses, ac mae'r syniad o gonsensws sy'n ganolog i'r theori yn ei gwneud yn amhosib trafod grym a gwrthdaro.

Y gwrthdaro rhwng y grefydd sefydledig a 'zel danbaid' y methodistiaid yw cefndir Merch y Sgweiar Bobi Jones a ymddangosodd yn Barn, gyda'i phortread byw o Theophilus Evans, ac aiff Elwyn L.

Safle anodd iawn oedd safle'r gwledydd bychain ar y gorau, hyd yn oed os oedd ynt yn annibynnol, pan fyddai'r gwledydd mawr o'u cwmpas yn gwrthdaro, - meddylier am sefyllfa Iwerddon, Norwy, Sweden, Denmarc, Yr Yswistir, Belg, Holand, Ffinland.

Maent yn edrych ar: a) sut y mae rhaniadau rhwng grwpiau iaith yn cysylltu efo rhaniad dosbarth, ac efo cysylltiadau economaidd a gwleidyddol o fewn y fframwaith wladwriaethol b) y prosesau o rym sy'n bodoli o fewn y gymuned, a sut y mae cysylltiadau grym yn cael eu hadgynhyrchu c) natur y gwrthdaro sy'n digwydd o fewn cymunedau o ganlyniad i'r cysylltiadau grym sy'n bodoli.

Fel yn 'Y Mynach', y gwrthdaro rhwng cnawd ac ysbryd yw thema'r awdl, ond, yn wahanol i awdl fuddugol 1926, y mae'r cnawd a'r enaid yn un erbyn y diwedd 'Y Sant', gan ddilyn athroniaeth Thomas Aquinas.

Llawer o newyddion yn gwrthdaro yn erbyn ei gilydd heddiw.

Nodwyd eisoes fod grwp o bobl wedi bod yn gweithio mewn maes gwahanol i'r ddau draddodiad uchod yng nghyswllt astudiaethau dwyieithrwydd, a nodwyd fod y rhain yn gweithio o safbwynt perspectif gwrthdaro.

Ar y llaw arall, cyfleir darlun dirmygus neu chwerthinllyd ohono wrth adrodd am y gwrthdaro rhyngddo a'r sant.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Gwrthdaro rhwng Almaenwyr a milwyr Ffrainc yn y Rhur.

Bu terfysgoedd o amgylch Trimsaran ym mis Ionawr, gyda'r glowyr yn gwrthdaro â'r heddlu.

Enghraifft o'r gwrthdaro hwn oedd ymgyrch y merched, a oedd yn rhan o'r ysbryd gwrthryfelgar a ysgubai drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o afael hualau gormesol y gorffennol.

Gall gwrthdaro godi rhwng y tirwedd a gwarchod natur, er enghraifft.

Dyna sy'n gorwedd y tu ôl i'r chwedlau amdano'n gwrthdaro â Medrawd, ac â Huail fab Caw ym Muchedd Gildas.

Beth bynnag am y gwrthdaro cyhoeddus rhwng aelodau'r gwrthbleidiau a gweinidiogion, mae'n rhan hanfodol o'r berthynas hefyd eu bod yn gallu trafod materion etholaeth yn effeithiol ac yn gallu cydweithredu ar bynciau fel datblygu economaidd.

Gwrthdaro rhwng yr Heddlu a 5,000 o bicedwyr y tu allan i argraffty Rupert Murdoch yn Wapping.

Mae yma ddadansoddiad manwl wedi ei gyfoethogi gan sawl vignette o'r gwrthdaro cymdeithasol oedd yn ffurfio cyd-destun y wasg Gymreig.

Ef a'i dad yw'r ddau arwr, ac ar echel eu gwrthdaro cynnar hwy ill dau y try gweddill y nofel.

Pwysleisia yn yr adroddiad hwn gyflwr y galon - mwy ei thwyll na dim, ac yn ddrwg ddiobaith fel y clywn oddi wrth Edward Matthews a Roger Edwards dro ar ôl tro.' Ceir yn y fan hon beth o gomedi orau Hiraethog, gyda'r hen ŵr yn gwrthdaro â Siôn y Gof.

Dywed Raymond Williams fod tuedd wedi bod i ystyried yr is-ffurfiant mewn modd cul, fel rhywbeth unffurf a statig, tra bod syniad Marx ohono'n llawer ehangach: Proses yw'r is-ffurfiant, meddai, nid rhywbeth statig , ac mae'n broses sy'n cael ei nodweddu gan ddeinamig y gwrthdaro sy'n dod o wrthddywediadau y cysylltiadau cynhyrchu, a'r cysylltiadau cymdeithasol sy'n deillio ohonynt.

Roedd dyrchafu un o'r aelodau gwreiddiol yn ffordd o lacio'r gwrthdaro.

Does na ddim gwrthdaro na gwrthddweud yn ein maniffesto a'n neges ni.

Gwrthdaro rhwng Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi wrth roi'r drafodaeth am annibyniaeth i Gymru a'r Alban o'r neilltu.

Yn ei hanfod mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn creu'r gwrthdaro hwn.

A dyna sicrhau gwrthdaro ffyrnig yn graidd i nofel hynod afaelgar.

Ar yr un pryd, mae dau waith arall ar y ffordd a allai greu gwrthdaro newydd.

Ond a oes gwrthdaro rhwng y weledigaeth gelfyddydol, yr 'awen', a'r anghenion technegol?

Thema ganolog: Gwrthdaro: y gwrthdaro rhwng yr hen werthoedd a'r gwerthoedd newydd, rhwng Cymru Oes Victoria a Chymru'r ugeinfed ganrif; rhwng Sosialaeth a Chyfalafiaeth; rhwng anterth a dechreuad cwymp yr Ymerodraethau Mawrion; rhwng aelodau'r Orsedd, cefnogwyr a dilynwyr Iolo Morganwg, a'r ysgolheigion newydd, dinoethwyr Iolo; rhwng beirdd hen-ffasiwn yr Orsedd a beirdd 'yr Ysgol Newydd'; rhwng cenedlaetholdeb a Phrydeindod.

Mae'r gwrthdaro'n amlwg trwy'r ddrama; gwrthdaro rhwng tawelwch Daz, y dieithryn, a chlegar y trigolion 'naturiol'.

Mae'r ffaith fod yr actorion i gyd yn siarad ar dop eu lleisiau, yn aml yn gweiddi, yn ychwanegu at y gwrthdaro.

Bron nad yw dwy ran y disgrifiad yn gwrthdaro yn erbyn ei gilydd, ac yn wir fe deimlir bod hollt yn y nofel ei hun rhwng cyd-destun gwleidyddol y Rhyfel Degwm a'r droedigaeth ysbrydol arallfydol sy'n ddeffroad enaid i W^r Pen y Bryn.

Rhannodd y Rhyfel Cartref yn Sbaen bob gwlad a chenedl lle ceid gwrthdaro rhwng Gwrthryfel ac Adwaith.

Nid yw Banc y Byd wedi gweld ei ffodd yn glir i gefnogi'r cynllun am ei fod yn credu fod y cynllun yn torri rheolau'r Cenhedloedd Unedig sy'n ceisio atal gwrthdaro rhwng gwldawriaethau sy'n rhannu adoddau dŵr.

Ond i ni ar y pryd, yr oedd y gwrthdaro i'w deimlo'n union fel storm fawr; ac i gallineb Saunders Lewis y mae'r clod am gadw'r storm draw.

A oes gwrthdaro rhwng moderniaeth a dilysrwydd diwylliannol?

Y mae gwrthdaro o fewn byd natur yn ymhlyg yn y trawsnewidiad hwn, er enghraifft cynhelid ffug-ymladdfeydd yn portreadu'r ymryson rhwng Haf a Gaeaf.

Yn ei bryddest mae Euros Bowen yn sôn am y bygythiad newydd a ddaeth wedi'r Ail Ryfel Byd, y gwrthdaro rhwng y gorllewin a'r dwyrain, rhwng y system gyfalafol a chomiwnyddiaeth, sef cyfnod y Rhyfel Oer, a'r byd dan gysgod difodiant.

Gwrthdaro rhwng Almaenwyr a milwyr Ffrainc yn y Rhur.

Diweddir y rhaglen ar drothwy'r Rhyfel Mawr, sef canlyniad anochel y gwrthdaro hwn rhwng yr hen drefn a'r drefn newydd.