Chwaraewyd rhan bwysig gan bobl Cwm Tryweryn eu hunain a ddaeth i Lerpwl, pob enaid byw ond un baban bach, i orymdeithio mewn gwrthdystiad trwy ganol y ddinas.
Dro arall aethant i Fanceinion i fynegi eu gwrthdystiad ar deledu Granada.