Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthgyferbyniad

gwrthgyferbyniad

Er mor glir yw'r gwrthgyferbyniad rhwng y ddau fath o lun, nid yn hwnnw y mae prif ddiddordeb y ffotograffydd, ond yn hytrach yng nghymlethdod y profiad o fynd yn ôl i Ogledd Iwerddon.

Fe geir gwrthgyferbyniad llwyr ar ddechrau Hang on to Your Halo, gan fod yma ddefnydd o biano, ac yn amlwg mae hyn yn creu naws gwbl wahanol.

Rwy'n digwydd credu fod yn rhaid i gomedi sefyllfa fod a sefyllfa waelodol hollol ddigrif cyn i'r sgrifenwyr ychwanegu'r jocs, ac roedd Fo a Fe yn ateb hynny gyda gwrthgyferbyniad o Dde a Gogledd yn union fel y mae Yes, Minister yn defnyddio sefyllfa oesol Don Quizote/ Sancho Paza neu Sherlock Homes/Watson i greu digrifwch cyn gorfod creu'r episodau unigol.

Diamau y gall y ddau syr.uad fod wedi eu plethu i'w gilydd ar adegau,- neu ynteu fod yn sefyll mewn gwrthgyferbyniad i'w gilydd.

Ceir gwrthgyferbyniad yn yr ail bennill yn ogystal, sef hwnnw rhwng trybestod y byd cyfoes a thangnefedd Rhos-lan.

Mewn gwrthgyferbyniad amlwg â hyn y mae dysgu ffurfiol yn hunan-ymwybodol, yn ddarniog ac yn tueddu i roi ffocws ar yr iaith ei hun.

Er mwyn argraffu rhai o'r arferion a'r meddyliau hyn ar eich meddwl, ni fyddai'n beth drwg petawn yn sôn amdanynt mewn gwrthgyferbyniad i arferion a meddyliau heddiw.

Eto, y mae'n werth oedi uwchben geiriau Saunders Lewis, oblegid y mae oblygiadau pellach i'r gwrthgyferbyniad a wnaeth rhwng Williams a'r beirdd traddodiadol.

Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.

Mewn gwrthgyferbyniad mae'r tir wedi ei drin a'i ddiwyllio.