Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthrych

gwrthrych

Defnyddiwch y saeth dewis i lusgo ar draws y diagram i gyd (o'r top chwith i'r gwaelod dde) fe gewch linell fylchog grynedig o gwmpas y diagram, wrth ichwi adael i fotwm y llygoden godi bydd pob gwrthrych yn cael ei ddewis fel yn y diagram ar y dde isod.

Deuai o hyd i'r defnyddiau 'ail-law' hyn ar hyd y strydoedd o gwmpas Coleg Sant Martin, a gwelai'r broses o greu a'r gwrthrych gorffenedig fel perfformiad.

Yn y drydedd, ceisiaf ddangos mai cydgenedlaetholdeb yn hytrach na byd digenedl yw gwrthrych gobaith y Testament Newydd yn ei wedd fydgofleidiol.

Y mae'r gŵr y cymeraist fendith drosto mor gyfan â'r gwrthrych yn dy law.

Yr oedd y gwrthrych wyneb i waered.

Cafodd Cymru wybod y manylion, a hyd y gwn, nid yw gwrthrych yr helynt yn ddim llai ei barch erbyn heddiw.

Yna tynnu llun a rhywbeth ynddo sy'n unigoli gwrthrych gan ei fanylion didoledig.

Pwyswch DELETE a bydd y gwrthrych sydd wedi ei ddewis (y llinell) yn cael ei ddileu.

Daeth paraseicoleg hefyd yn bwnc sy'n cael mwy a mwy o sylw, gyda llawer yn ymddiddori'n arbennig mewn amgyffred uwch synnwyr - y gallu i amgyffred heb ddefnyddio'r pum synnwyr arferol: golwg, clyw, blas, teimlad ac arogli - (ESP) yn ei amryfal ffurf: telepathi; rhagwelediad (precognition): clirolwg ( y gallu i weld yr hyn sydd o'r golwg); clirglyw (y gallu i glywed yr hyn sydd y tu hwnt i'r clyw arferol); gweld paroptig neu weld heb lygad (y gallu i weld drwy groen); a meddylnerth (y gallu i effeithio'n uniongyrchol ar fater, megis ei symud, ac i allu dweud hanes gwrthrych drwy ei ddal yn y llaw yn unig).

Mae'r bachau yn dangos fod y gwrthrych wedi ei ddewis.

Yr hyn a gysylltir yn fwyaf arbennig â Phencader yw, nid gwrthrych, ond person, - yr hen ŵr, pwy bynnag oedd hwnnw!

Felly, gyda parole y mae'n rhaid dechrau astudio iaith, gyda'r arwydd ieithyddol yn cynnwys (a) y signifie:y gwrthrych a ddynodir gan yr olyniad ffonolegol, a (b) y signifiant: y syniad a sylweddolir yn la parole gan seiniau, ystyron, cyfeiriadaeth.

Er mwyn defnyddio'r olwg berifferol mae'n rhaid edrych ar rywbeth arall sydd i'r ochr o'r gwrthrych rydych yn ceisio ei weld.

Canodd y Nant i ofyn gŵn gan ryw Wiliam Abad, beth bynnag, a chan fod cyfeiriad at Gorntwn yn un arall o gerddi'r bardd, dyma ateg o blaid cymryd ein bod wedi cysylltu'r gerdd ofyn a'r gwrthrych iawn.

Dewiswch Group o'r ddewislen Arrange, mae hyn yn gwneud y diagram yn un gwrthrych ( mae Ungroup Picture yn dadwneud hyn).

Mae'n amlwg fod y gyfres ysgubol o linellau sy'n dechrau â 'fy' yn y pedwerydd paragraff yn tynnu ar dechneg dyfalu, lle byddai bardd yn rhestru pethau a oedd yn geffelyb i'r gwrthrych.

Trwy wneud hyn mae'r golau o'r gwrthrych yn taro ar y 'rhodenni' ac felly os yw'n wrthrych tywyll mae gennych well gobaith o'i weld.

Y dechnoleg yw gwrthrych ein serch a'n sylw.

Llew Owain amdano bron mor od a'u gwrthrych ond y mae gan Mr Owain baragraff awgrymiadol yn y Cofiant

Dangosodd Egwyddor Perthnasedd Einstein hefyd na fyddai pwysau yn ymddangos yr un fath i ddau wyliwr sy'n teithio ar gyflymdra gwahanol mewn perthynas a'r gwrthrych.

Sylwch fod y gwrthrych olaf ichwi ei ddylunio gyda 'bachau' o'i gwmpas.

Ein gwrthrych yw Pamela Morgan, un o blant Bedyddwraig dduwiol a hanai o deulu Hugh Evans, Ffair-rhos, gwraig a ddysgai y Beibl yn gyson i'w phlant.

Mae hyn yn f'atgoffa i am englynion Williams Parry i Hedd Wyn, lle rhoddir yr argraff fod y gwrthrych yn dal yn fyw yn y bedd.

A chyn pen nos roedd Llety'r Bugail wedi ei werthu i'r estron, a edmygodd y lle oherwydd yr olygfa eang o'i ffenestri ac a chwenychodd y lle fel gwrthrych i'r arbrofion pensaerniol.

Yn gyffredinol rhaid cael y wybodaeth fewnol hon er mwyn amlygu unrhyw fodolaeth mewn gwrthrych neu broses faterol.

Cliciwch tu allan i'r gwrthrych i'w ddad-ddethol.

Wrth glywed y clustdlws yn disgyn ac yn taro yn erbyn y llawr, yr oeddwn yn siwr ynof fy hun fod y gwrthrych bellach yn deilchion.

Ni ellir dylanwad heb apêl, a hawdd deall apêl gwrthrych fel Keats at ŵr ifanc pedair ar hugain oed a'i teimlai ei hun yn fardd ond na wyddai sut i'w ddisgyblu ei hun i greu gwaith cyson y gallai fod yn fodlon arno.