Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthrychol

gwrthrychol

Daliwn i deimlo'n gynnes tuag ati, ond erbyn hyn roeddwn wedi dechrau meddwl amdani'n fwy gwrthrychol ac fel fy nghyfoedion yn yr ardal, yn ei gweld hi'n dipyn bach o gymer comig.

R'on i'n gwrando ar lais profiad a sylweddoli ar yr un gwynt fod y ffin yn denau a niwlog rhwng cofnodi darlun gwrthrychol o'r erchyllterau a chofnodi darlun oedd wedi'i osod yn ofalus i roi argraff wrthrychol.

Ni theimlwn fod ganddo ef, na neb arall o'i griw, ATEBION gwrthrychol i ddadleuon rhai fel Guignebert a Spengler i mi ar y pryd.

Mae ailadrodd y gair "Dacw% yn diogelu'r pwyslais gwrthrychol ar yr hyn yw Crist ond y mae'n ei briodi'n gelfydd iawn â'r pwyslais ar ystyr y gwaith gwrthrychol i'n bywyd goddrychol ni,

Aeth nifer helaeth o'r bonedd ati nid yn unig i ddarllen hanes ond i'w ysgrifennu hefyd, ac yn araf tyfodd diddordeb brwd mewn bywgraffyddiaeth, ac ymddangosodd hwnnw un ai yn astudiaeth o berson gwrthrychol neu yn gronicl o deulu neu ardal arbennig.

Creadur gwrthrychol, amhersonol, yw'r gwyddonydd ar y model hwn, yn cyfrannu dim at natur y darlun.

Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.