Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthwynebiad

Look for definition of gwrthwynebiad in Geiriadur Prifysgol Cymru:

Pam felly bod gwrthwynebiad?

Ond er gwaethaf pob gwrthwynebiad ar gynnydd yr âi'r mudiad.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Gwrthwynebiad gan bobl amlbleidiol i'r bwriad i adeiladu cronfa ddwr yng Nghwm Tryweryn i ddarparu dwr i Lerpwl, ond methiant fu pob ymgyrch.

Gwrthwynebiad gan bobl amlbleidiol i'r bwriad i adeiladu cronfa ddwr yng Nghwm Tryweryn i ddarparu dwr i Lerpwl, ond methiant fu pob ymgyrch.

Fe awgrymais i yn gynnar mai'r Bala a fuasai'r lle mwyaf cyfleus a chanolog, ac nid oes neb wedi codi gwrthwynebiad i hynny.

Bu'r helynt yn foddion i hyrwyddo cylchrediad y Traethodau i'r Amseroedd, fel y gellid disgwyl, ond cynyddodd y gwrthwynebiad i'r mudiad.

Er bod peth gwrthwynebiad iddynt ar y dechrau ymhlith yr Hen Ymneilltuwyr, buan y gorchfygwyd y rhagfarnau a daeth yr ysgol Sul yn rhyfeddol o boblogaidd ymhob rhan o Gymru.

(iii)Anfon y sylwadau canlynol at Awdurdod y Parc ar ôl ymgynghori â'r aelod lleol:- Cais llawn - addasiadau a newidiadau yn cynnwys porth blaen, ystafell wydr cefn, wal gardd, newidiadau i ffenestri - dim gwrthwynebiad.

Yn gyntaf, na fu wedi marw Elisabeth hyd at drothwy'r ugeinfed ganrif na chais na bwriad gan neb o bwys yng Nghymru i ddatod dim ar y cwlwm a unodd Gymru wrth Loegr na gwrthwynebiad o unrhyw gyfri i'r egwyddor o deyrnas gyfunol a diwahân.

Yr oedd nifer o'r tai wedi eu prynu gan y cyn denantiaid ac yr oedd rhai ohonynt wedi datgan eu gwrthwynebiad i dalu am gysylltiad i'r brif bibell.

Mewn pwyllgor diweddar o Ranbarth Arfon o Ferched y Wawr, gofynnwyd i mi anfon atoch i fynegi ein gwrthwynebiad â'r rhyfel yn y Culfor.

Yn y flwyddyn sy'n dod byddwn yn ceisio adeiladu gwrthwynebiad unedig i gynlluniau'r llywodraeth ym maes darlledu digidol trwy ymgyrchu a chynghreirio gyda mudiadau eraill ym maes darlledu yng Nghymru.

Meddai Raymond Williams eto, wrth drafod y diwylliant dominyddol: Mae o fewn y gymdeithas, felly, wahanol ffurfiau ar yr hyn a ystyrir yn 'synnwyr cyffredin', ac o fewn democratiaeth, rhaid i'r wladwriaeth gael ei gweld i fod yn cynnwys y rhain, hyd yn oed os ydynt weithiau yn sefyll mewn gwrthwynebiad i'w gwerthoedd hi.

Cais llawn - newidiadau a gwelliannau yn cynnwys portico, ystafell wydr i'r cefn, wal i'r ardd a newidiadau i ffenestri - dim gwrthwynebiad.

Er gwaethaf y gwrthwynebiad unfryd hwn y mae Straw yn dweud ei fod on gwybod yn well na senedd a phobol yr Alban beth a ddylai ddigwydd yn y wlad honno.

Cafwyd gwrthwynebiad a phrotest, cafwyd cyflwyno dadleuon rhesymol a rhesymegol, cafwyd trafod ac ymgynghori.

Dyma blaid geidwadol a'i gwreiddiau yng nghefn gwlad gorllewin Canada, sydd wedi datgan gwrthwynebiad i bolisi dywieithog y wlad, ac am gyfyngu ar rai mathau o fewnfudiad.

Dyma'r dynion a oedd i arwain y gwrthwynebiad i Robert Ferrar.

PENDERFYNWYD datgan gwrthwynebiad wrth y Swyddfa Gymreig ynglŷn â'r codiad yn y ffioedd.

A'r achos - eu gwrthwynebiad i orchymyn y Senedd iddyn nhw a'u milwyr derfynu eu gwasanaeth a gwasgaru!

Yn Iwerddon, fe fu gwrthwynebiad, beirniadaeth, a gwatwar y sianel newydd-anedig.

Trodd ei gwrthwynebiad yn sterics, a oedd yn fÚl ar fysedd y wasg.

Ymhen tair blynedd fe'i symudwyd gan yr Esgob William Hughes o Lanelwy i ficeriaeth y Trallwng yn Nyffryn Hafren, symudiad a sicrhaoddd mai yn esgobaeth Llanelwy y gwnâi ei waith mawr, ffaith ddigon eironig o gofio gwrthwynebiad cynnar yr Esgob Hughes, fel rhyw fath o 'enfant terrible' yn yr Eglwys ar y pryd,i gael Beibl Cymraeg o gwbl.

O Gymru, oddi wrth yr awdurdodau lleol ac oddi wrth eu swyddogion, y deuai'r gwrthwynebiad, yn gras, yn ddialgar, yn chwyrn.

Eleni dwi isio diolch i Golwg am gymryd un o gynigion y Cyf Cyff, ffonio pobl i ffeindio gwrthwynebiad, ac yna creu 'rhwyg' yng Nghymdeithas yr Iaith ar dudalennau hardd eu cylchgrawn nhw.

A hyn oll yn nannedd gwrthwynebiad ffyrnig y Toriaid a'r Blaid Lafur a'r Wasg Saesneg bron i gyd - a'r pwyllgor ei hun heb ddimai goch y delyn at y costau.

Pe hawliai Cymru o ddifri gael y Gymraeg yn iaith swyddogol gydradd â'r Saesneg nid o du'r Llywodraeth nac oddi wrth y Gwasanaeth Sifil y deuai'r gwrthwynebiad.

Ymhlith Bedyddwyr y De ceid gwrthwynebiad o fath gwahanol i'r dylanwad Efengylaidd a'i Galfinyddiaeth.

Arwydd o'r deffroad newydd oedd Streic Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar droad y ganrif, anghydfod a oedd yn seiliedig ar ddymuniad y chwarelwyr i gael undeb effeithiol i amddiffyn eu hawliau, a gwrthwynebiad Ail Farwn y Penrhyn i'r dyhead hwnnw.

'Roedd rhai o lywyddion y dydd, fel J. E. Caerwyn Williams, wedi datgan ar goedd eu bod yn cefnogi bwriad Gwynfor Evans i ymprydio, ac 'roedd hynny wedi ennyn gwrthwynebiad y rhai a gredai na ddylai'r 'Steddfod weithredu fel San Steffan y Cymry.

Cais llawn - adeiladu 'booster' i gronfa ddŵr presennol Cais llawn - lolfa haul yng nghefn tŷ rhes Cais llawn - estyniad i swyddfeydd Cais llawn - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf Cais adeilad rhestredig - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf (ii) Hysbysu'r Bwrdd Trydan nad oedd gwrthwynebiad i'r cais canlynol am linellau trydan:- Cais llawn - ail-leoli llinellau trydan

Yr oedd y feirniadaeth yn gywir: ychydig iawn o wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio a gawsid gan y cynghorau, ac yr oedd yn hawdd i'r awdurdodau ateb pob protest gan gorff gwirfoddol drwy ddweud nad oedd gwrthwynebiad oddi wrth gynrychiolwyr etholedig y bobl.

PENDERFYNWYD datgan gwrthwynebiad i'r bwriad.

Nid gwrthwynebiad a phrotest a methiant oedd yr elfennau pwysicaf yn y trychineb hwnnw ond y bygwth a'r anwybyddu.

Tra'n byw yn Cwrdistan roedd Kamarin yn un o'r rhai oedd yn gweithredu'n wleidyddol er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i Hussein.

Yn y cyd-destun hwn y mae'n berthnasol i grybwyll hefyd ein gwrthwynebiad i fwriad D^wr Cymru i godi gwaith carthion yn Llanfaes ger bedd Eleanor, gwraig Llywelyn ap Gruffudd a mam Gwenllian.

Sylwant ar y dinistr sy'n digwydd ym mywyd Cymru heddiw, ac ar yr esgeuluso ar gymunedau a'r gwrthwynebiad i'r iaith Gymraeg, a defnyddiant yr iaith Gymraeg a delweddau Cymreig yn eu gwaith.

Cais llawn - llinellau trydan - dim gwrthwynebiad.

Anaml y mae'r fath beth yn digwydd ac fe ddywedir gan 'wyr y wasg' bod hynny'n arwydd o fodlonrwydd ac mai dim ond pan geir gwrthwynebiad ac anghytundeb y daw ymateb i bapur newydd gan mwyaf.

Mae'n syndod pa mor gyffredin yw gwrthwynebiad Saeson i'r Gymraeg.

Daeth penllanw'r gwrthwynebiad yn sgîl y Diwygiadau Crefyddol o'r ddeunawfed ganrif ymlaen.

Mae'n debyg bydd gorchmynion drafft yn cael eu cyhoeddi yn y man, ac yna bydd cyfle i leisio gwrthwynebiad.

Cerddodd y protestwyr ar draws tir gwaharddiedig yr awyrlu i blannu croes fel symbol o heddwch a gwrthwynebiad i'r fath ormes.

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf dwysau a wnaeth gwrthwynebiad y Frenhines tuag at y Diwygwyr a phenderfynodd Davies ddianc am loches fel alltud ar gyfandir Ewrop.

Caerwyn Williams, wedi datgan ar goedd eu bod yn cefnogi bwriad Gwynfor Evans i ymprydio, ac 'roedd hynny wedi ennyn gwrthwynebiad y rhai a gredai na ddylai'r 'Steddfod weithredu fel San Steffan y Cymry.

Daeth atebion i law oddi wrth y Gwir Anrhydeddus Syr Wyn Roberts a Swyddfa Dramor y Llywodraeth yn dilyn ein gwrthwynebiad i Ryfel y Culfor.

Hoffwn annog pawb i ysgrifennu at D^wr Cymru yn mynegi eu gwrthwynebiad.

Gwrthwynebiad o fewn fframwaith Prydeinig ydoedd bob amser.

Cais llawn - adeilad amaethyddol gyda thanc slyri odditano - dim gwrthwynebiad.

Cyfyngodd ar hawl yr undebau i fynd ar streic, collodd miloedd o weithwyr sifil eu swyddi wrth i fiwrocratiaeth gael ei chwtogi, a chafodd pob gwrthwynebiad i'r chwyldro newydd ei ateb gan fygythiad y rhoddid awdurdod llwyr yn nwylo Menem pe bai angen.

Cais llawn - newid defnydd o stabl/tŷ coets i dŷ annedd - dim gwrthwynebiad os oedd angen lleol.