Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthwynebu

gwrthwynebu

Fel amryw o ferched Methodistaidd Daniel Owen, mae Gwen yn medru ei rhoi hi i'r sawl sy'n gwrthwynebu crefydd brofiadol y seiat.

Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.

Doedd y Cymry yn yr ardal lle y cafodd hi ei magu ddim yn gwrthwynebu tai haf, ac roedd nifer go lew ohonyn nhw o gwmpas: rhai'n perthyn i enwau cyfarwydd megis Mackintosh, Dunlop, a Rowntree, teuluoedd a oedd yn berchenogion ar geir crand a chychod hwylio.

Mae'r beirdd a llenorion sy'n gwrthwynebu cysylltiad brenhinol yn cynnwys Myrddin ap Dafydd, Iwan LLwyd, Angharad Tomos, Meirion MacIntyre Huws, MIhangel Morgan a Robin Llywelyn.

Brwydr gyntaf yr Undeb oedd gwrthwynebu troi 16,000 erw yn Epynt yn faes tanio.

Nid Colditz ydi hwn, ond ysbyty." Mae ef yn un sy'n gwrthwynebu tagio gan ddibynnu yn lle hynny ar fesurau "goddefol ac anweledig".

Ei bwrpas oedd, nid yn gymaint i anrhydeddu'r merthyron, ond i ddangos i'r byd fod Rhydychen yn gwrthwynebu safbwynt a gosodiadau gwrth- Brotestannaidd Hurrell Froude.

Gorfodwyd Prydain i sylweddoli gyda thristwch ei bod yn gwrthwynebu dynion a feddiannwyd gan ysbryd drwg, a chywilyddiwyd dynolryw o feddwl ei bod yn bosibl diraddio'r natur ddynol i'r fath raddau gan greulondeb, twyll a brad, a gweithredoedd anfad y

Ond doedd Israel ddim yn fodlon derbyn hyn a dywedodd America, os mai dyma oedd y sefyllfa, y bydden nhw'n gwrthwynebu hefyd.

Ac eto, aeth y Llywodraeth Dorïaidd ati i gymryd i ffwrdd yr ychydig ryddid a oedd gan bobl Cymru gan danseilio Cynghorau Lleol Cymru, Undebau Llafur, Y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg -- pawb a allai eu gwrthwynebu.

doedd wil a huw tanfawnen ddim wedi gwrthwynebu, ond derbyn y sefyllfa, fel y bydd plant, a gwneud yn fawr o 'r cyfle i arddangos eu cynefindra a 'r fro.

Yr oedd yr heretic herfeiddiol hwn yntau wedi gwrthwynebu'r Eglwys.

Bu cryn ddadlau, a gwrthwynebu ar Morris-Jones, a hynny nid bob tro yn annheg.

Nonsens yw hynny, yn ôl Gallagher, a dywedodd y bydd y clybiau yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i gwtogi'r Cynghrair.

Cyflwyna gymeriad newydd, Robin y Glep, sydd yn cynrychioli elfennau yn y gymdeithas sydd yn gwrthwynebu priodas Margaret a Bob.

gwrthwynebu unrhyw gyllid i gartrefi mawr.

I Ieuan Gwynedd a'i debyg, nid oedd eu gwrthwynebu yn ddim ond parhad o ymgyrch hir-dymor i sicrhau addysg deilwng i'r Ymneilltuwyr.

Dee%llid bod Cyngor Tref Criccieth yn gwrthwynebu'r bwriad.

A phan eir ati o ddifrif i argyhoeddi dynion mai gwastraff o adnoddau ymborth prin yw porthi anifeiliaid i'w bwyta, yn hytrach na bwyta'r llysiau a'r blawd a borthir iddynt yn uniongyrchol, byddai gwrthwynebu'r ymdrech, o'm safbwynt i, yn amhosibl.

Gwyddai mai ofer fyddai gwrthwynebu'i fam ar hyn o bryd.

Erbyn hyn yr oedd hyd yn oed yr ASau Cymreig yn gwrthwynebu bwriad Lerpwl, a dadleusant yn gryf yn ei erbyn ar yr ail ddarlleniad.

Mae Cynghorwr Llafur o Sir Gaerfyrddin wedi gwrthwynebu beirniadu Quangos Torïaidd.

Os ydych yn dymuno gwrthwynebu'r cynllun dinistriol hwn, anfonwch eich llythyrau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Swyddfa Gymreig, Parc Cathays, Caerdydd.

Dywedodd Steve Hamer, Cadeirydd clwb Abertawe, na fyddain gwrthwynebu os bydd Hollins yn mynd am gyfweliad gyda'r clwb o Gaerlyr.

Yr hyn yr ydw i yn amheus iawn ohono yw'r athrawon hynny sy'n gwrthwynebu'r syniad yn ddiamod achos mae gen i ofn mai cuddio yn y tai bach y byddan nhw pan fyddwch chi'n chwilio am help i symud cratiau Rover.

Dyna un rheswm pam roedd ei rhieni'n gwrthwynebu'n chwyrn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith : ni welent ddim o'i le ar Saeson, a pheth ffôl oedd eu tynnu i'w pen heb eisiau.

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn gwrthwynebu'r argymhellion hyn yn chwyrn ar y sail y byddai effeithiolrwydd y Cyngor Gwarchod Natur yn cael ei leihau'n sylweddol, ac y byddai hynny'n cael effaith ddinistriol ar gadwraeth natur.

I gloi'r noson, felly, cafwyd ambell i gân gan Maharishi... wel, pump a dweud y gwir, achos fel mae pawb yn gwybod, bellach, mi fuo na gryn helynt ar y noson am fod rhai aelodau o'r gynulleidfa yn gwrthwynebu i'r hogia ganu'n Saesneg.

Er bod y Brenin Affos yn gwrthwynebu fflatiau yn ddiweddar (Pwy a allai dyfu wynwyn mewn fflat?) caniataodd Ynot i gynlluniau fynd trwodd am floc o fflatiau yn union ar gyfer tŷ helaeth Eproth, y Gweinidog Cerdd a Dawns.

ni olygai hynny eu bod yn gwrthwynebu rhyfel fel y cyfryw, ac arwydd o hynny oedd y dathliadau a drefnwyd ganddynt ar ôl buddugoliaeth prydain ym mrwydr mrwydr.