Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthwynebwyr

gwrthwynebwyr

Maentumiai gwrthwynebwyr na ellid dibynnu ar yr enwau am fod cyfartaledd uchel ohonynt yn enwau plant, a phobl a oedd wedi arwyddo fwy nag unwaith.

Honno gyda llaw oedd gêm gynta Kevin Ratcliffe i Gymru a rhoddodd berfformiad gwych yn marcio dau chwaraewr perycla'r gwrthwynebwyr, Mazny a Nehoda.

Croesoswallt oedd y gwrthwynebwyr.

Er nad oedd y gwrthwynebwyr yn rhai gâi eu cysidro'n rhai cryf roedd y sgôr yn arbennig yn plesio gan y gallai gwahaniaeth golie fod yn bwysig yn y diwedd.

Yn anad dim, credai'r gwrthwynebwyr mai amcanion strategol pellgyrhaeddgar a'r angen am gynllun economaidd i ddiogelu marchnadoedd cyfoethog Gorllewin Ewrop ar draul gwledydd tlotaf y byd oedd yn ysbrydoli gwladweinwyr y Gymuned.

Honnai'r naill blaid a'r llall fod y gwrthwynebwyr yn atal papurau cyfreithiol oddi wrth ei gilydd.

Manchester City fydd y gwrthwynebwyr.

Yn rownd gynta Cwpan yr FA bydd pob un o glybiau Cymru'n chwarae gwrthwynebwyr o Ail Adran Cynghrair y Nationwide.

Fe guron nhw Port Talbot ddoe, tra roedd eu gwrthwynebwyr agosa Cwmbran yn colli yn erbyn Caerfyrddin.

Digwyddodd y cyfan ar linell bump ar hugain Llanelli, gyda Phil Bennett yn rhoi cic bwt i aildde/ chre'r chware; f~nne'n ply-gu i/ godi'r bêl, ond fel ro'n i'n sythu 'nghorff, dyma dacl ffyrnig yn 'y nghefn gan ddau o'r gwrthwynebwyr.

Eu gwrthwynebwyr fydd y clwb o Wlad y Basg, Alaves.

Ei deitl oedd '...' 'Roedd y teitl ynddo'i hun yn ddigon i ddychryn gwrthwynebwyr y mudiad; awgrymai'r gair 'reserve' gadw'n ôl ran o gyngor Duw.

Mae eu gwrthwynebwyr heno, yr Iwcrain, wedi dangos yng Nghaerdydd eu bod nhw'n dîm hynod beryglus.

Ffrainc fydd gwrthwynebwyr nesa Cymru - os caiff y gêm ei chwarae.

Yn ystod pum mlynedd cyntaf y llywodraeth newydd, cafwyd brwydro ffyrnig wrth geisio tawelu gwrthwynebwyr y chwyldro.

Creodd y bryddest hon gryn drafodaeth oherwydd ei bod yn cyfleu safbwynt gwahanol i'r safbwynt a goleddai gwrthwynebwyr y mewnfudo i gefn gwlad Cymru a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.

Clwb Amatori a Calvisano o Milan a Perpignan fydd eu gwrthwynebwyr eraill.

Roedd Dilwyn ac Ifan wedi colli'u gêm o dennis bwrdd ac aethant i eistedd a gwylio'u gwrthwynebwyr buddugol yn chwarae yn erbyn Nic a Dylan.

Heddiw, hefyd, bydd Lerpwl yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nhw ym mhedwaredd rownd Cwpan UEFA. Dydy Lerpwl ddim ymhlith detholion y gystadleuaeth, felly medran nhw ddisgwyl y byddan nhw'n chwarae un o fawrion Ewrop, naill ai Barcelona, Roma, Celta Vigo neu Porto.

Dangosai, meddai'r gwrthwynebwyr, wir ysbryd y mudiad, sef ei hoffter o ddulliau cudd, cyfrinachol o weithredu, a'i duedd Jesuitaidd.

Ond gwrthwynebwyr goddefol oedd y rhain hefyd.

Cymru yw gwrthwynebwyr nesaf Lloegr a bydd yn rhaid ymateb i rym corfforol blaenwyr y Saeson.

Castell Nedd fydd gwrthwynebwyr Casnewydd yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Principality y tymor hwn.