Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthwynebydd

gwrthwynebydd

Mae Sheikan ddewis doeth fel gwrthwynebydd i Calzaghe.

Yn awr rhaid dysgu sut i beidio a gadael i'ch gwrthwynebydd gael yr afael drechaf arnoch yn ystod rhan gyntaf y chware.

Haeddai sylw ysgafn atebiad ysgafn bob amser, ac yr oedd rhywbeth cyffrous-beryglus mewn chwarae deufel lafar gyda gwrthwynebydd mor finiog a chwim ei feddwl â Hywel Vaughan.

Dyma'r rhan o'r gêm lle na all neb broffwydo beth sy'n mynd i ddigwydd, lle yr ydych chi a'ch gwrthwynebydd yn creu sefyllfaoedd na all neb eu rhagweld, ac, efallai, sefyllfaoedd na fu erioed o'r blaen mewn unrhyw gêm ers y dechreuad.

Gwrthwynebydd arall yw'r Cynghorydd Rhys Sinnett sy'n poeni am gamddefnydd o arian y cyhoedd ac yn anghytuno â barn Lyn Davies bod unrhyw gyhoeddusrwydd i Sir Benfro (boed dda neu ddrwg) i'w groesawu.

Os bydd eich gwrthwynebydd yn dwyn un o'ch darnau yn yr agoriad fel sy'n digwydd yn aml) - yna rhaid i chi ofalu eich bod yn dwyn darn o'r un gwerth yn ôl o'i fyddin yntau.

Os digwydd i chi, mewn gêm, golli un o'ch Cestyll am Esgob neu Farchog eich gwrthwynebydd mae'n debygol y byddwch yn colli'r gêm yn y pen draw, gan fod gwerth cymharol eich byddin chi wedi mynd i lawr ddau bwynt.

Y rheswm am hyn yw fod y GEM GANOL yn rhyw fath o Dir Neb lle yr ydych ar eich pen eich hun, yn gorfod defnyddio eich dyfeisgarwch a'ch talent eich hun i wrthsefyll ymosodiadau eich gwrthwynebydd.

A gwaith costus yw sefyll fel gwrthwynebydd cydwybodol yn amser rhyfel, neu ymuno mewn protestiadau di-drais yn amser heddwch.

Rhaid gofalu eu bod wedi eu lleoli ar sgwariau diogel lle nad yw eich gwrthwynebydd yn gallu ymosod arnynt ar unwaith.

Disgrifir ei brofiadau yn y carchar yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf fel gwrthwynebydd sosialaidd i'r rhyfel.