Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwryw

gwryw

Hwyrach y maddeuir imi am awgrymu fod Paul wedi gweld pethau'n glir ryfeddol a'u crynhoi mewn brawddeg fer, "Nid oes na gwryw na benyw canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu%.

Olwen ydyw'r anima i animus Culhwch, yr elfen fenywaidd sydd ymhlyg ym mhob gwryw, fel y mae yn animus ym mhob benyw.

Yn ddiweddar cafodd enwi'n artist gwryw gorau yng Ngwobrau Clasurol y Brits.

Bid siŵr, buasai'r cyfryw briodoleddau yn fwy trychinebus i ferch efallai, medden nhw; ond hyd yn oed yn achos gwryw, nid ellid dychmygu ei fod ef yn debyg o ennill serch naturiol yr un gymhares addawol.

Cafodd ei ddewis yn Artist Gwryw Clasurol Gorau Prydain a chanu o flaen 110,000 o ddilynwyr rygbi yn Sydney cyn gêm Awstralia'n erbyn Seland Newydd.

Llwydda'r gwenyn gwryw i beillio'r blodyn yn ystod ei ymweliad.

Efallai mai 'Johnny' ac nid 'Sioni' oedd ei gair am faban gwryw.

Cynhyrcha'r blodyn gemegau a elwir yn fferomonau sy'n debyg i'r rhai a gynhyrchir gan y gwenyn benyw i ddenu'r gwryw.