Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwt

gwt

Aeth i swatio yn ei gwt gan wneud sŵn crio drwy'r amser.

Un bore Gwener fe welwyd Jim yn crymu o dan bwysau cant o lo ar ei ffordd i gwt glo Ty'r Ysgol yn ystod arddangosiad celfydd i ni'r plant gan y prifathro o grefft taflu lasso.Bu'r demtasiwn yn ormod i'r gwr o Batagonia.

Dilynai Ernest gwt yr helsmon, a glynai Harri orau y gallai wrth ei arweinydd.

Ymhen rhai munudau, daeth y sgŵl i mewn, a chansen yn ei law, a John Jones yn dilyn wrth ei gwt.

Ar gyfer y Dryw, y Sigl-i-Gwt a'r Robin Goch, gwnewch yr un math o flwch ond heb ran uchaf y tu blaen.

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

Mi goda i gwt pwrpasol iddo fo, A meddylia mor handi fydd o i fwyta sbarion yr hen blantos.

Dilyn wrth gwt arweinydd swyddogol am beth amser er mwyn casglu pob dim o wybodaeth am y ddinas, ac yna crwydro i bob cyfeiriad ar fy mhen fy hun.

Safodd Thomas Parry'n ei unfan: 'doedd i wraig ddiarth gerdded i gwt mochyn gefn nos ddim yn beth arferol.

Cerdd Dant a Chynghanedd yn cael eu llusgo dan brotest i gefn Folfo a'r Babell Lên grand yn lle "i gael y'ch gweld" o'i chymharu â'r hen gwt ieir annwyl a fu.

Gwennol Ddu Aderyn Du Pioden Aderyn y Tô Titw Tomos Las Ehedydd Dryw Sigl-i-gwt Telor y Cnau