Daeth cawod o law taranau yn y prynhawn i ddiferu'n oer i lawr gwar a thagu gwteri'r buarth â swnd a phridd.
Roedd y cigydd yn llawn sylweddoli fod yna bobl yn marw lathenni o sŵn y farchnad, yn gorwedd yn y gwteri mochaidd, a doedd e ddim am gael ei weld yn eu hanwybyddu.