Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwtogi

gwtogi

O ganlyniad i archwiliad a wnaed gan arbenigwyr ar ran y Cyfundeb a'r adroddiad a gafwyd am ddiffygion yr adeilad, yn ogystal â'r ffaith fod rhif yr aelodaeth erbyn hyn wedi'i haneru i'r hyn a fu yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r priodoldeb o gwtogi ar faint y capel.

Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd hwnnw roedd cyfuniad o ddirywiad yn yr economi, polisi o gwtogi ar wariant cyhoeddus a rhagolygon o boblogaeth sefydlog yn arwain at leihad sylweddol yn rhan y sector gyhoeddus swyddogol ym maes darparu cartrefi.

Ni fydd cyfnodau o orffwys rhwng dau gyfnod gwaith ar yr un ymrwymiad yn llai na deuddeng awr fel arfer, heblaw am achosion o argyfwng fyddai'n atal cwblhau'r gwaith a rhoddir ystyriaeth lawn i'r pwysau gormodol a allai fod ar yr Artist o ganlyniad i gwtogi ar y cyfnod gorffwys.

Dengys profiad y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ei bod yn fwy anodd byth gwtogi ar wario cyfredol y llywodraeth oherwydd y gyfran uchel o gostau llafur yn y gwario hwn.

Nonsens yw hynny, yn ôl Gallagher, a dywedodd y bydd y clybiau yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i gwtogi'r Cynghrair.

John Williams: 'Yr ydym ninnau yn berffaith sicr, fy nghyfeillion, ein bod wedi cychwyn y gwaith yma ar orchymyn y Meistr!' Dywedodd fod yna rai am iddynt gwtogi'r apêl i hanner can mil gan gredu bod siawns iddynt gyrraedd y swm hwnnw, ond dywedodd y Parch.

Mae Undeb Rygbi Lloegr wedi cefnogi'r bwriad i gwtogi tymor Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o ddeg i saith wythnos.

Er mwyn ateb gofynion y cyfrwng daw'r hanfod newyddiadurol o gwtogi a chywasgu yn bwysicach nag erioed.