Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddau

gwyddau

Gwelir Gwyddau Dalcen-wen yn ymweled heddiw â Gwarchodfa Ynys las yn y canolbarth, ac â rhai ardaloedd eraill, ond prin iawn yw'r rhywogaethau eraill yng Nghymru.

Disgynyddion adar a fagwyd mewn parciau yw'r Gwyddau Canada estronol hefyd, ond credaf fod y ddwy rywogaeth yn ychwanegiadau difyr i adar ein gwlad.

Cof gennyf o deithio droeon i Sir Fôn yn ystod y pedwardegau i wylio adar, ac uchafbwynt ymweliad berfedd gaeaf fyddai taro heibio Cors Cefni i gael golwg ar y Gwyddau Dalcenwen fyddai'n treulio rhan o'r gaeaf yno.

Cyrhaeddodd cadwraeth yn rhy ddiweddar i arbed gwyddau Cefni, a gwelwyd sawl tro ar fyd yn y cyfamser, a hwnnw'n newid er gwell i lawer o hwyaid a rhai o adar eraill y tiroedd gwlyb.

Pan brioda Shôn a minnau Fe fydd cyrn ar bennau'r gwyddau Ieir y mynydd yn blu gwynion Ceiliog twrci fydd y Person.

Yna, tywyllwch dudew, unffurf y nos yn llonyddu'r llygaid yn llwyr, a'r holl fryd yn cael ei ganoli ar seiniau 'soniarus' (gair sydd ynddo'i hun yn soniarus) y gwyddau gwylltion ymhell uwchben yn rhywle.

Ymhlith yr aberoedd sydd mewn perygl mae Dyfrdwy, a Hafren yr olaf wrth gwrs yn yn fannau bwydo o bwys rhyngwladol i adar megis y gylfinir, a hwyaid a gwyddau gwyllt.

Difyr oedd sylwi ar ffermwyr lleol yn cario llwythi anferth o datws mân i'r warchodfa i fwydo'r gwyddau, ond synnwyr cyffredin yw'r haelioni, ac ystryw i gadw'r adar newynog ar y warchodfa.

CYFAREDD Y GWYDDAU GWYLLT - Ted Breeze Jones

Mae gwyddau Gþyl Fartin yn broffwydi'r gaeaf (eu plu yn drwchus yn arwydd o aeaf caled.) Glaw canol Tachwedd, barrug trwm ganol Ionawr.

Daeth ar ei thraws bum munud wedi hynny, yn eistedd yn ddiogel ar fainc yn yr haul, gyda chriw o'i ffrindiau'n clegar fel gwyddau o'i chwmpas.

Cyn dyfeisio peiriant torri lawntiau defnyddid gwyddau i gadw tyfiant glaswellt i lawr, mae hwythau hefyd yn pori'n glos i wyneb y ddaear.