Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddbwyll

gwyddbwyll

Cofiai Joe gryn drigain o chwareuwyr gwyddbwyll a ddeuai i wylio neu i chwarae wrth naw neu ddeg bwrdd, fore, pnawn a nos yn ystod misoedd y gaeaf.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

'Roedd y Stiwt yn ganolfan lle y gallai ffrindiau daro i mewn am sgwrs, gem o ddraffts neu wyddbwyll; 'roedd yn rhoi cyfle i greu diddordebau ac yn lle i feithrin talent ar fwrdd draffts, gwyddbwyll a biliards.

Roedd Capten Lewis yn chwaraewr gwyddbwyll medrus anghyffredin, a byddai ef a Chapten fy nghatrawd i yn chwarae'i gilydd ambell dro.

Yn awr, pan fydd chwaraewyr gwyddbwyll yn siarad am gemau, ac un yn gofyn i'r llall, "Pa agoriad ddefnyddiest ti?" Ac os bydd yr uchod wedi ei ddefnyddio, yr ateb fydd, "Y Ruy Lopez".

Mae hyn yn golygu colli amser neu "Tempo% ac mae "Tempo%'n bwysig iawn mewn Gwyddbwyll fel mewn cerddoriaeth.

Yn ffodus nid oes neb wedi llwyddo gan fod holl gymhlethdodau Gwyddbwyll yn fwy nag a all meddwl dyn eu datrys.

Nid oedd hyd yn oed America'n gwybod felly sut y medrai Waite sylweddoli ei fod yntau'n cael ei ddefnyddio fel gwerin gwyddbwyll?