Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddeleg

gwyddeleg

Ffermwyr cefn gwlad, ysgolheigion, athrawon a gweision sifil oedd swmp y siaradwyr Gwyddeleg ers oes.

O ran hynny, nid yw ysgolion Cymry'n dysgu'r disgyblion fod Gaeleg a Gwyddeleg yn gymaint rhan o batrwm diwylliannol amryliw Prydain â'r Gymraeg a'r Saesneg.

Dydym ni ddim yn byw mewn bythynnod to gwellt yn byseddu ein gramadegau Gwyddeleg.

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

Ymhlith y ddeddfwriaeth a basiwyd gan Stormont oedd gwaharddiad ar ddefnyddio Gwyddeleg wrth nodi enwau strydoedd.

Pan fydd y teledu yn darlledu o'r Daíl yn Iwerddon, mae hi'n gyfyng gyngor ar yr aelodau sydd am siarad Gwyddeleg.

Y mae perthynas rhwng y gair Cymraeg bala a'r gair Gwyddeleg bel 'bwlch, aber' ac y mae'r gair hwn hefyd i'w weld mewn enwau lleoedd yn Iwerddon a'r Alban - enwau megis Bellaugh, pentref ger Athlone yn Iwerddon a Bellhaven yn

Y mae cysylltiad rhwng y gair camas a'r gair Gwyddeleg cambas "tro mewn afon" a daw o'r un gwreiddyn a'r gair Cymraeg cam "crwm, gŵyr, crwca%.

Ar y ffordd tu allan yr oedd rhyw bump neu chwech o blant tlawd, troednoeth yn chware 'i chalon ac yn chwerthin, ac yn cyfarch ei gilydd mewn Gwyddeleg, yn y ffordd fwyaf naturiol yn y byd.

Y mae nifer o broblemau sylfaenol yn wynebu Gwyddeleg wrth iddi fwynhau'r rhyddid hwn am y tro cyntaf yn y gogledd.

Ac yn goron ar y cwbl gwelwyd cyhoeddi'r Cytundeb mewn Gwyddeleg gan y Llywodraeth -- ac fel ymarfer ar gyfer y dyfodol roedd yn rhaid gofyn yn arbennig amdani, a chwedyn nid oedd sicrwydd y byddai'n cyrraedd.

Nid Adams oedd yr unig un i siarad Gwyddeleg yn ystod y sesiwn honno, defnyddiodd un o gynrychiolwyr yr SDLP yr iaith hefyd -- Bríd Rodgers -- arwydd allanol o un o'r datblygiadau mwyaf arwyddocaol ar gyfer dyfodol yr iaith Wyddeleg yng ngogledd Iwerddon.

Yr ydym yn byw mewn byngalos mawr, hyll, gyda llestri lloeren sy'n gallu casglu cant o sianelau ac nid yw'r awydd yn bodoli i wylio rhaglenni Gwyddeleg ar TnG yn y babel sianelog hon.

Un o'r golygfeydd gwleidyddol rhyfeddaf o fewn cof i mi oedd y lluniau hynny ar y teledu o Gerry Adams, arweinydd Sinn Féin, yn annerch seiswn cyntaf Cynulliad Gogledd Iwerddon mewn Gwyddeleg gyda'r Parchg Ddr Ian Paisley a'i giwed yn edrych arno'n hurt.

A phasiwyd deddf yr un pryd yn gwahardd pobl Iwerddon rhag defnyddio Gwyddeleg a gwisgo gwisgoedd Gwyddelig.